Gwybodaeth bwysig am Gynhadledd Flynyddol Anabledd Cymru 2023

Ar gefndir gwyrddlas, mae testun gwyn yn dweud Newyddion Anabledd Cymru. Isod mae'r geiriau Cynhadledd Flynyddol uwchben y pennawd Herio Ystradebau, Newid Cymdeithas: Pobl Anabl a'r Cyfryngau. Mae logo AC wedi'i osod o dan y pennawd ar yr ochr chwith ac ar y dde mae testun sy'n dweud: Dod â darlledwyr, newyddiadurwyr a phobl anabl at ei gilydd i feddwl am y portread o bobl anabl yn y cyfryngau. Lleoliad: Clwb Criced Sir Forgannwg ac Ar-lein. Dyddiad: 17 Hydref 2023.

Mae’r diwrnod mawr bron yma! Ar ôl misoedd o gynllunio, rydym yn edrych ymlaen at weld gwesteion, siaradwyr a stondinwyr i gyd yn dod at ei gilydd ddydd Mawrth 17 Hydref wrth i ni dynnu sylw at bobl anabl yn y cyfryngau.

Mae’r diwrnod yn mynd i fod yn un prysur gyda phrif areithiau, trafodaeth banel gydag arbenigwyr cyfryngau digon o gyfloedd i bobl anabl ddweud eu dweud i gyd yn llenwi’r agenda gyda’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn goron ar ddigwyddiadau’r dydd.

Os ydych chi wedi archebu lle i ymuno â ni mewn person neu os ydych chi’n bwriadu gwylio ar-lein, mae gan y dudalen hon bopeth sydd angen i chi ei wybod cyn y diwrnod mawr.

Isod fe welwch yr agenda ynghyd â rhestr o’n siaradwyr gwadd yn ogystal â ffurflen werthuso y byddem yn ddiolchgar pe gallech ei chwblhau a’i dychwelyd atom yn ystod neu ar ôl y digwyddiad.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu!

Mesurau Diogelwch Covid-19

Rydym yn ymwybodol iawn bod llawer o’n haelodau yn agored i COVID-19. Oherwydd hynny, byddwn yn darparu glanweithydd dwylo a masgiau wyneb wrth ein derbynfa ar ddiwrnod y digwyddiad.

Os oes gennych chi COVID-19 neu unrhyw symptomau, gofalwch amdanoch chi’ch hun ac eraill trwy aros adref ac ymuno â ni ar-lein.

Sut i ymuno mewn person

Bydd y gynhadledd yn dechrau am 10am. Bydd cofrestru a mynediad i’r lleoliad ar agor o 9.30yb. Bydd aelod o dîm Anabledd Cymru yn gweithio gyda Phrif Stiward y Clwb Criced i’ch cyfarch y tu allan a’ch helpu i ddod o hyd i leoedd parcio.

Mae’r ddogfen ganlynol yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y clwb criced, dim ots sut yr ydych yn teithio.

Sut i ymuno ar-lein

Bydd y gynhadledd yn dechrau ffrydio ar-lein am 10yb a bydd yn rhedeg tan 4yh. Bydd digon o seibiannau cysur trwy gydol y dydd,

I wylio ar-lein, defnyddiwch y ddolen hon:

Ffurflen monitro cydraddoldeb a ffurflen werthuso

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members