Sefydliad Pobl Anabl cenedlaethol yw AC, sy’n gweithio’n gyd-gynhyrchiol gyda’n haelodau i fynd i’r afael ag ystod eang o rwystrau anablu mewn cymdeithas. Rydym am weld pobl anabl yn mwynhau’r un hawliau ag eraill gan gynnwys mynediad at dai a thrafnidiaeth, cyfleoedd mewn addysg a chyflogaeth, a’r gallu i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol.
Fel sefydliad aelodaeth sy’n cael ei redeg gan bobl anabl, rydyn ni’n darparu llais ac arweinyddiaeth gref i ddylanwadu polisi ar y materion sydd yn bwysig i’n haelodau.
Mae ein haelod o Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs) yn dod o bob rhan o Gymru, gan ymgyrchu ar faterion lleol a chryfhau’r gwaith a wnawn yn genedlaethol.
Ein gwasanaethau
Mae ein haelodau wrth galon y sefydliad ac rydym yn darparu’r gwasanaethau a’r cyfleoedd canlynol i gefnogi eu twf:
- Newyddion a gwybodaeth trwy ein gwefan, pecynnau adnoddau a phecynnau cymorth, e-newyddion a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
- Rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau, cynadleddau a gweithdai rhanbarthol ar gyfer aelodau a rhanddeiliaid ar faterion amserol
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu i adeiladu gallu
- Cyfleoedd i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus trwy ymgyrchoedd, ymgynghoriadau a mentrau ymchwil
- Gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori gyda’r nod o hyrwyddo arfer da ymhlith cyflogwyr, darparwyr gwasanaeth a llunwyr polisi
Cefnogwch ni
Cymru sydd â’r gyfran uchaf o bobl anabl yn y DU, sef 26%. Mae gan bob un ohonom dasg enfawr ar ein dwylo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac allgáu.
Rydym ar genhadaeth i rymuso pobl anabl a’u sefydliadau i greu newid yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Ymunwch â ni i gefnogi ein gwaith. Gwnewch gais i ddod yn aelod yma.