Amdanom

Anabledd Cymru (AC) yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs) sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pobl anabl yng Nghymru.

Mae AC yn hyrwyddo’r pwysigrwydd o fabwysiadu a gweithredu’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n nodi mai rhwystrau amgylcheddol, sefydliadol ac agwedd sy’n anablu pobl ac yn atal eu cyfranogiad llawn mewn cymdeithas, nid eu cyflyrau meddygol neu amhariad.

Pwy ydyn ni?

Rheolir AC gan Fwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol o bobl anabl sy’n weithredol mewn sefydliadau anabledd lleol a chenedlaethol ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’n staff yn bobl anabl sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio mewn modd broffesiynol a gwirfoddol i amryw o sefydliadau anabledd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gan AC rôl unigryw yng Nghymru wrth hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pob person anabl, dim ots pa amhariad corfforol neu synhwyraidd, anhawster dysgu neu gyflwr iechyd meddwl. Yn ogystal, rydym yn cydnabod y bydd gan lawer o bobl anabl hunaniaethau eraill a allai arwain at wahaniaethu croestoriadol.

Beth rydym yn ei wneud

Mae AC yn ymgysylltu ag ymgyrchoedd aelodau, ymgynghoriadau, ymchwil a datblygu polisi er mwyn dylanwadu ar ddatblygiad polisi ac arfer y llywodraeth mewn perthynas â phobl anabl. 

Rydym yn darparu gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i aelodau ledled Cymru trwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chynadleddau, seminarau a digwyddiadau. 

Mae AC yn nodi bod rhwydwaith gref a llewyrchus o sefydliadau pobl anabl yn hanfodol i gyflawni polisi cenedlaethol effeithiol ac arloesol, a darparu gwasanaethau lleol.

Sut rydym yn cael ein hariannu

Mae AC yn sefydliad, nid-er-elw, annibynnol a sefydlwyd ym 1972 sy’n derbyn cyllid grant gan adran Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.

Mae Anabledd Cymru yn rhedeg nifer o brosiectau sydd ag ystod o arianwyr. Mae’r rhain wedi cynnwys y Loteri Fawr a Chymdeithas Fawcett, Spirit 2012.

Yn ôl natur gweithio yn y trydydd sector, nid yw cyllid parhaus byth yn sicrwydd. Gallwch gefnogi ein gwaith trwy ddod yn aelod neu roi rhodd.

Ein cyflawniadau

Mae AC yn arloeswr ac ers cael ein sefydlu yn 1972, rydym wedi cyflawni llawer o bethau cyntaf, gan gynnwys:

• Cynllun Gwobrau Mynediad i Adeiladau (1979-91) a’r Nodiadau Canllaw Dylunio Mynediad cyntaf erioed (1978) 

• Datblygu mudiadau anabledd newydd yn genedlaethol ac yn lleol yn y meysydd chwaraeon, y celfyddydau, pobl ifanc a mynediad (1980au – ) 

• Y rhaglen gyntaf yng Nghymru i hyfforddi pobl anabl i ddod yn Hyfforddwyr Cydraddoldeb Anabledd (1992) 

• Ymgyrchoedd uchel eu proffil ar Fynediad ar y Stryd Fawr, Trosedd Casineb Anabledd, Byw’n Annibynnol a Diwygio Lles (2008- ) 

• Cyfrannu’n egnïol i ddatblygu Mesur Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol 2011 

• Ymgyrchu’n llwyddiannus i gael cyflwyno Fframwaith Llywodraeth Cymru ar Weithredu ar Fyw’n Annibynnol (2013) 

• Cyfranogiad actif o ran datblygu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) 

• Partner yn rhaglen ymchwil gyntaf y byd a arweinir gan bobl anabl (Ymchwil Anabledd mewn Byw’n Annibynnol a Dysgu (DRILL) (2015 hyd heddiw) 

• Sefydlu’r cwmni cydweithredol cyntaf i’w arwain gan ddefnyddwyr yn y DU yn cael ei redeg gan ac ar gyfer derbynwyr Taliadau Uniongyrchol (2017) 

• Cynrychioli Pobl Anabl o Gymru yn y Cenhedloedd Unedig yn Genefa yn yr archwiliad cyntaf o Lywodraeth y DU mewn perthynas â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (2017) 

• Dosbarthu Grantiau Argyfwng Covid-19 i 9 o Sefydliadau Pobl Anabl ledled Cymru ar ran yr Ymddiriedolaeth argyfyngau Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru (2020) 

• Lobio Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus i gael cyllid i sefydlu’r Gronfa Mynediad at Swyddi Etholedig yng Nghymru i gynorthwyo pobl anabl sy’n sefyll ar gyfer swydd etholedig yn y Senedd ac yn etholiadau llywodraeth leol (2021)

Os ydych chi’n datblygu prosiect a all elwa o gyfranogiad neu gyd-gynhyrchu gyda phobl anabl, yna cysylltwch i ddarganfod sut y gallen weithio mewn partneriaeth â chi.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members