Y Model Cymdeithasol o Anabledd yw un o’n prif werthoedd yma yn Anabledd Cymru. Rydym yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo dealltwriaeth, mabwysiadu a gweithredu’r Model Cymdeithasol ledled Cymru. Gwyddom y bydd perthynas pawb â’r Model Cymdeithasol yn wahanol a chredwn ei bod yn bwysig amlygu profiadau’r rhai sydd wedi ac sydd dal i weithio i […]
Year: 2023

Datganiad i’r wasg: Adroddiad yn canfod achosion cynyddol o dorri hawliau pobl anabl
Mae Sefydliadau Pobl Fyddar a Phobl Anabl y DU wedi lansio adroddiad deifiol heddiw sy’n gwerthuso perfformiad y llywodraeth saith mlynedd ar ôl canfyddiad y Cenhedloedd Unedig o droseddau difrifol a systematig yn erbyn hawliau pobl anabl oherwydd llymder a diwygio lles. Dywedodd Kamran Mallick, Prif Weithredwr Disability Rights UK, “Mae’r dystiolaeth yn glir, mae’r […]

Datganiad i’r wasg: Llywodraeth y DU yn cuddio rhag y Cenhedloedd Unedig ynghylch triniaeth o bobl anabl
I’W RYDDHAU AR UNWAITH Mae sefydliadau anabledd wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth i beidio â rhoi tystiolaeth i ymchwiliad gan y Cenhedloedd Unedig fel un sy’n dangos dirmyg tuag at bobl anabl. Mae sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad, a gynhelir yn Geneva ar 28 Awst, yn rhan o ddilyniant i’r ymchwiliad arbennig a gynhaliwyd gan bwyllgor […]

Herio Ystradebau, Newid Cymdeithas: Pobl Anabl a’r Cyfryngau
Daliwch y dudalen flaen! Mae Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Anabledd Cymru yn dod i Gaerdydd ddydd Mawrth 17 Hydref 2023. Ymunwch â ni yng Nghlwb Criced Sir Forgannwg ac ar-lein wrth i ni ystyried cynrychiolaeth a phortread pobl anabl yn y cyfryngau. Dros y blynyddoedd, anaml y mae straeon newyddion ac erthyglau yn […]

Lansio adroddiad – ‘Prin yn Goroesi’: Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl yng Nghymru
Heddiw, ar 10 Gorffennaf 2023, mae Anabledd Cymru yn lansio ei adroddiad ‘Prin Goroesi’: Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn wedi’i gyflwyno er cof am y bobl anabl sydd wedi colli eu bywydau yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae wedi bod yn anodd dianc rhag yr argyfwng […]

Dewch yn Aelod Penodedig o Fwrdd Anabledd Cymru
Ydych chi’n angerddol am hawliau a chydraddoldeb anabledd? Oes gennych chi syniadau creadigol a all symud ein sefydliad ymlaen a rhoi llais cryfach i bobl anabl ledled Cymru? Mae’r dyfodol yn gyffrous yma yn Anabledd Cymru a gallech chi fod yn rhan ohono trwy ymgeisio i fod yn aelod penodedig o’r bwrdd. Anabledd Cymru (AC) […]

Press Release: Disabled People’s Organisations demand full disclosure in COVID Inquiry
PRESS RELEASE 6 JUNE 2023 DISABLED PEOPLE’S ORGANISATIONS DEMAND FULL DISCLOSURE IN COVID INQUIRY At a preliminary hearing of Module 2 of the Covid Inquiry on 6 June 2023 four national Disabled People’s Organisations (DPOs): Disability Action Northern Ireland, Disability Rights UK, Disability Wales and Inclusion Scotland have argued for full disclosure of Government Whatsapps and […]

Gweithio fel intern yn Anabledd Cymru: Profiad Rosie
Dros y blynyddoedd, rydym wedi croesawu nifer o interniaid i ymuno â thîm AC i roi cyfle iddynt ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud a chael profiad ymarferol ym mhob agwedd o’n sefydliad. Ein recriwt diweddaraf oedd Rosie, myfyriwr blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd. A ninnau newydd symud i’n cartref newydd yng […]

Datganiad i’r Wasg: Ymchwiliad Covid-19 y DU – 29/03/2023
Ymchwiliad COVID-19 y DU i glywed yn uniongyrchol am brofiadau pobl anabl a’u teuluoedd yn ystod y pandemig Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi’i sefydlu i archwilio ymateb y DU i bandemig Covid-19 a’i effaith, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Cadeirir yr Ymchwiliad gan y Farwnes Heather Hallett, cyn farnwr yn y […]

Ymunwch â See Around Britain fel Ymchwilydd Gweinyddol a Marchnata rhan-amser
Mae See Around Britain yn chwilio am Ymchwilydd Gweinyddol a Marchnata Rhan-amser yng Ngorllewin Cymru, gan gynnwys Abertawe, a Chastell Nedd Port Talbot Mae See Around Britain (SAB) yn elusen sy’n cael ei rhedeg gan bobl anabl ger Caerfyrddin. Mae’n rhedeg gwefan ac ap sy’n cynnig gwybodaeth i drigolion a thwristiaid am nifer o atyniadau a mannau […]