Datganiad i’r Wasg: Rapporteurs y Cenhedloedd Unedig yn Cwestiynu Llywodraeth y DU ynghylch Marwolaethau Budd-daliadau a Chaledi

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Ar 18 Mawrth 2024 rhoddodd Llywodraeth y DU eu hamddiffyniad llafar i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Pobl Anabl ynghylch troseddau “difrifol a systemig” y DU o’r Confensiwn. Daw hyn ar ôl iddynt wrthod mynychu’r sesiwn dystiolaeth ddiwethaf ym mis Awst 2023 – gan ofyn am oedi tan fis Mawrth 2024 – pan amlinellodd Sefydliadau Pobl Fyddar a Phobl Anabl (DDPOs) y realiti llym yr ydym i gyd yn byw oddi tano yn y DU ar hyn o bryd.


Sylwer: Cyfeiriwn at y confensiwn fel y Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl (CHPA) yn hytrach na’r enw a roddir – Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau – wrth i ni ddilyn y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r confensiwn yn caniatáu inni wneud hyn.


Cynrychiolodd rapporteurs y DU, sy’n eistedd ar Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, yn gywir y rhwystrau systemig a’r gwahaniaethu y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Roeddent yn mynegi’n gyson bod tystiolaeth yn dangos achosion o dorri’r CCUHPA, gan gynnwys atchweliad o hawliau pobl anabl.


O ran nawdd cymdeithasol – heriodd y pwyllgor y diffyg dull cyfannol o ddarparu buddion, ar draws Llywodraethau datganoledig ac unigolion â phrofiadau croestoriadol. Fe wnaethon nhw dynnu sylw yn benodol at y rhai sydd mewn trallod meddwl a’r rhai sy’n profi cam-drin domestig, a phwysleisiwyd bod y system bresennol yn “ysgogi trawma”. Roedd eu cwestiynau i Lywodraeth y DU yn amrywio o farwolaethau cysylltiedig â budd-daliadau a thrais yn y system nawdd cymdeithasol bresennol, i’r cynnydd yn nifer y bobl anabl sy’n cael eu sefydliadu, eu carcharu a’r “defnydd cynyddol o ataliadau, arfer cyfyngol a gorfodaeth” – ymhlith materion brys eraill.


Disgrifiodd y Rapporteurs bolisi ac arfer cyfredol y DU fel “fframwaith a rhethreg dreiddiol sy’n dibrisio bywydau pobl anabl” sy’n “dweud wrth bobl anabl eu bod yn ddinasyddion anhaeddiannol” ac yn “gwneud i bobl [anabl] deimlo fel troseddwyr” – yn enwedig y rhai sy’n ceisio cael mynediad i’r system nawdd cymdeithasol.


Er gwaethaf cwestiynau manwl a meddylgar gan y rapporteurs ac aelodau/comisiynwyr y pwyllgor, nid oedd unrhyw atebion o sylwedd yn ymateb Llywodraeth y DU – gan amlaf yn ailadrodd yr hyn a amlinellwyd eisoes yn eu tystiolaeth lafar ragarweiniol. Buont yn dathlu’r Cynllun Gweithredu Anabledd a’r Strategaeth Anabledd, nad oedd gan y ddau ohonynt unrhyw newid trawsffurfiol, ochr yn ochr â thynnu sylw at gamau gweithredu penodol i namau y maent wedi eu cymryd gyda’r Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain – darn o ddeddfwriaeth sy’n perfformio ar y cyfan a sydd heb gyllid wedi’i addo, ac sydd ddim wedi gwella hawliau pobl Fyddar. Rhoddwyd Deddf yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd hefyd fel enghraifft o gynnydd o ran mynediad at gyfiawnder, ac yn benodol dehongli BSL, pan fo pwerau ychwanegol yr heddlu a’r ymosodiad ar hawliau protest y mae’r ddeddfwriaeth hon wedi’u darparu wedi erydu ein hawliau a’n diogelwch yn ymarferol.


Mae DDPOs yn edrych ymlaen yn eiddgar at adroddiad llawn y pwyllgor, gan gynnwys eu hargymhellion dilynol.

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:


“Mae’r dystiolaeth a glywsom gan Lywodraeth y DU ymhell o realiti bywydau a phrofiadau pobl anabl ers 2016. Nid ydym wedi ein syfrdanu, ond wedi’n brawychu gan y diffyg cydnabyddiaeth ynghylch marwolaethau pobl anabl sy’n aros am benderfyniadau asesu, a’r feirniadaeth o DDPO’s ynghylch polisi diweddar megis y Papur Gwyn ar Iechyd ac Anabledd neu’r niwed a achosir gan y stereoteipio “gwarthwyr budd-daliadau” anabl a hyrwyddir gan Lywodraeth y DU.

Yng Nghymru, er ein bod yn falch o weld sôn am y Tasglu Hawliau Anabledd a’r adroddiad Drws ar Glo, rydym yn ddigalon nad oedd unrhyw sôn bod 68% o farwolaethau COVID-19 yng Nghymru yn bobl anabl ac nad oes gennym ni o hyd amserlen glir ar gyfer ymgorffori CCUHPA yng Nghyfraith Cymru.

Mae pobl anabl yn haeddu gwir atebolrwydd gan eu Llywodraethau ac atebion i’r cwestiynau llosg a ofynnwyd ddoe  ynghyd â chamau gweithredu cadarn i fynd i’r afael â’r niwed a achoswyd yn ogystal â datblygu ein hawliau. Diolch i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig a Rapporteurs y DU am eu cwestiynu cryf a’r cyfle i fod wedi rhannu tystiolaeth gyda nhw fis Awst diwethaf.”

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members