Ewch Ar-lein

Heddiw, mae gan y we 2.4 biliwn o ddefnyddwyr ledled y byd. I roi’r cyflymder mabwysiadu anhygoel hwn mewn rhyw gyd-destun, cymerodd radio 38 mlynedd i gyrraedd 50 miliwn o ddefnyddwyr, cymerodd y teledu 13 blynedd, cymerodd y we 4 blynedd a chymerodd Facebook ddim ond 10 mis. 

Yn 2013, roedd 89% o bobl ifanc yn defnyddio ffôn clyfar neu dablet i fynd ar-lein, i fyny o 43% yn 2010.

Mae’r we wedi trawsnewid bron pob agwedd ar fywyd cyhoeddus, preifat a gwaith.

Mae technoleg wedi cynyddu cyflymder a chyrhaeddiad gwybodaeth, mae’n cynnig llawer o fuddion i unigolion fel;

  • cyfleoedd arbed arian
  • gwybodaeth am wasanaethau a hawliau
  • y gallu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu
  • cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd

Cadarnhaodd Arolwg Cenedlaethol Cymru: 2014-15 nad oedd 19% (tua 473,959) o boblogaeth oedolion Cymru (18 oed neu drosodd) yn defnyddio’r rhyngrwyd yn rheolaidd, a bod 38% o bobl anabl yng Nghymru wedi’u heithrio’n ddigidol.

Cyflawnodd Anabledd Cymru brosiect cynhwysiant digidol o 2013-2014 ‘Bywydau Digidol’, lle gwnaethom gefnogi 550 o bobl anabl i fynd ar-lein.

Rydym wedi cydnabod y rhwystrau, sy’n cynnwys côst, diffyg sgil, diffyg ymwybyddiaeth o dechnoleg gynorthwyol, ac rydym yn parhau i weithio ar y mater pwysig hwn.

Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â rhaglen cynhwysiant digidol Llywodraethau Cymru ’Cymunedau Digidol Cymru‘ (safle allanol) i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members