Hawliau

Gwybod eich Hawliau, Defnyddiwch eich Hawliau, Byw eich Hawliau!

Cyhoeddwyd y llyfryn hwn am y tro cyntaf yn 2013 fel rhan o raglen waith graidd 2012-2015 Anabledd Cymru. Mae’r fersiwn ddiweddaraf hon yn cynnwys gwybodaeth am ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ers 2013 gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

Yn ystod 2020 cynhaliodd Anabledd Cymru arolwg gyda Phobl Anabl yng Nghymru. Mae’r canlyniadau’n dangos nad oedd 68% o’r 120 a ymatebodd yn teimlo bod eu hawliau’n cael ei gorfodi’n ddigonol, ac nid oedd 35% yn teimlo bod eu hawliau’n cael eu gorfodi o gwbl. Canlyniad sy’n peri pryder yw nad oedd 76% o’r ymatebwyr yn hyderus y byddai eu hawliau’n gwella dros y pum mlynedd nesaf ac nid oedd 43% o’r bobl hyn yn credu y byddai eu hawliau’n gwella o gwbl. 

Nod yr adnodd hwn yw rhoi dealltwriaeth a gwybodaeth am hawliau pobl anabl i’r aelodau a dangos sut y gallent eu defnyddio i hyrwyddo cydraddoldeb a chael gwared ar wahaniaethu ac aflonyddu yn eu cymunedau. Nod arall yw cefnogi a grymuso pobl anabl ar adeg heriol dros ben, o gofio effaith pandemig Covid-19 ar fywydau a bywoliaethau cymaint o bobl. 

Mae diwygio’r adnodd hwn yn elfen allweddol o ymateb Anabledd Cymru i’r pandemig ac yn y gwaith o gefnogi adferiad a dyfodol mwy cynhwysol.
Yn ogystal â darparu gwybodaeth am ddeddfwriaeth, mae’n amlinellu nifer o astudiaethau achos lle mae pobl anabl a’u sefydliadau wedi dadlau eu hawliau’n llwyddiannus o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Canlyniad hyn fu dylanwadu ar gynllunio a chyflawni polisïau cenedlaethol neu leol neu herio penderfyniadau a oedd yn bygwth tanseilio cydraddoldeb Pobl Anabl a’u hawl i fyw’n annibynnol. 

Mae Anabledd Cymru’n cydnabod pa mor bwysig yw hi fod Pobl Anabl yn deall ein hawliau dynol cynhenid ac yn gwerthfawrogi ein hunain am bwy ydym. 

Mae cryfhau canfyddiad Pobl Anabl o’n hunain yn ffordd bwysig i herio cred ein bod yn ddi-rym, yn arbennig yn wyneb gwahaniaethu sefydliadol ac aflonyddu unigolyddol. 

Ein gobaith felly yw y bydd yr adnodd hwn yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth ac yn gadarnhad o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl anabl yn  gweithredu gyda’i gilydd, gyda’r offer ar gyfer newid. 

Pan ysgrifennodd Anabledd Cymru y pecyn hwn, penderfynodd ganolbwyntio ar hawliau Pobl
Anabl o dan wahanol gyfreithiau cydraddoldeb. Mae’r cyfreithiau hyn yn bwysig iawn ac maent yn helpu i wneud yn siŵr y gall Pobl Anabl ddadlau dros eu hawliau. Fodd bynnag, mewn nifer o achosion cyfreithiol am hawliau Pobl Anabl, defnyddir cyfreithiau eraill hefyd. Mae’r deddfau hyn yn cael eu hegluro mewn mannau eraill ac ni ymdrinnir â hwy mewn manylder yn y pecyn hwn.

Lawrlwythwch yr adnodd:

Lawrlwythwch yr adnodd Hawdd ei Ddeall

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members