Gwasanaethau

Ymgynghoriaeth

Anabledd Cymru yw Arbenigwr Anabledd yng Nghymru.

Fel Sefydliad Cenedlaethol Pobl Anabl a chyflogwr pobl anabl, mae gennym gyfoeth o arbenigedd ar sut i gyrraedd ac ymgysylltu â phobl anabl yn ogystal ag wrth recriwtio pobl anabl a chreu gweithle cynhwysol.

Gallwn ddarparu gwasanaethau ymgynghori pwrpasol yn ymwneud â chydraddoldeb anabledd yn y meysydd canlynol:

  • Ymgysylltu ac Ymgynghori â Phobl Anabl
  • Datblygu a Dylunio gwasanaethau
  • Polisïau Recriwtio a Dewis
  • Polisïau Cymorth a Datblygu Staff
  • Creu gweithle cynhwysol a hygyrch

Mae gennym brofiad mewn:

  • Trefnu a darparu grwpiau ffocws
  • Dadansoddiad o Archwiliadau ac Anghenion Hyfforddi
  • Cynhyrchu adroddiadau canfyddiadau gydag argymhellion

Ymhlith y sefydliadau rydyn ni wedi gweithio gyda nhw yn ddiweddar mae:

  • Bwrdd Partneriaeth Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru
  • Cymorth i Ddioddefwyr
  • Pobl Gymru yn Gyntaf
  • Tai Pawb
  • Trenau Trafnidiaeth i Gymru

Hyfforddiant

Mae gan Anabledd Cymru wybodaeth arbenigol o’r materion sy’n wynebu pobl anabl yng Nghymru. Am 40+ mlynedd, rydym wedi dylanwadu ar bolisi ac arfer ar draws y sectorau Cyhoeddus, Preifat a’r Trydydd sector.

Rydym yn cydnabod bod mynediad at hyfforddiant fforddiadwy o ansawdd uchel yn hanfodol i alluogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau sy’n trin pobl anabl yn deg a chyda pharch.

Mae Anabledd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu ystod o gyrsiau proffesiynol sy’n cefnogi sectorau i ddylunio gwasanaethau sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig ystod o hyfforddiant cydraddoldeb cyffredinol neu gallwn gynnig hyfforddiant pwrpasol; wedi’i deilwra i weddu i ofynion dysgu a chyllideb penodol unrhyw sefydliad.

Mae ein holl hyfforddiant yn gyfranogol ac yn cael ei ddarparu gan bobl anabl.

Mae ein cyrsiau’n cynnwys:

  • Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd (DET)
  • Byw’n Annibynnol
  • Taliadau Uniongyrchol a Chefnogaeth dan Gyfarwyddyd Dinasyddion
  • Gwybod Eich Hawliau fel Person Anabl
  • Cynllunio digwyddiad hygyrch
  • Trosedd Casineb Anabledd
  • Ymgysylltu â Phobl Anabl

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant pwrpasol; wedi’i deilwra i weddu i ofynion dysgu a chyllideb benodol unrhyw sefydliad.

Os oes mater penodol y mae eich sefydliad am fynd i’r afael ag ef yna cysylltwch â ni i archwilio atebion.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members