Byw’n Annibynol

Mae Byw’n Annibynnol yn ein galluogi fel pobl anabl i gyflawni ein nodau ein hunain, a byw ein bywydau ein hunain yn y ffordd yr ydym yn dewis drosom ein hunain. 

Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ein hatgoffa ein bod yn anabl oherwydd y rhwystrau cymdeithasol, amgylcheddol, sefydliadol ac agwedd sy’n ein hatal rhag gallu cymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar sail gyfartal.

Mae Byw’n Annibynnol yn adeiladu ar hyn trwy ddarparu atebion ymarferol ar gyfer cael gwared ar rwystrau sy’n ein hanablu. Mae Byw’n Annibynnol yn cynnig atebion ymarferol ar gyfer cael gwared ar y rhwystrau i gydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol sy’n ein hanalluogi, gan gynnwys ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, tai, addysg, cyflogaeth, trafnidiaeth a mynediad i’r amgylchedd.

Mae Byw’n Annibynnol yn syniad sy’n ein helpu i ddeall y problemau sy’n ein hwynebu fel pobl anabl yn ein bywydau bob dydd. Mae’n rhoi strwythur inni ar gyfer mynd i’r afael â’r nifer o wahanol faterion sy’n ein hatal rhag cael yr un dewisiadau, cyfleoedd, mynediad a rheolaeth dros ein bywydau ag sydd gan bobl sydd ddim yn anabl.

Mae’n dangos yr hyn sydd angen ei wneud i’n galluogi i gael ein gwerthfawrogi a’n trin â’r un parch â phobl eraill.

Er mwyn sicrhau byw’n annibynnol, mae angen i’r gefnogaeth gywir fod ar waith i roi dewis a rheolaeth lawn i bobl anabl dros sut maen nhw’n byw eu bywydau.

Pobl anabl sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu beth ddylai’r gefnogaeth honno fod.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members