Hygyrchedd

Gwneud ein gwefan yn hygyrch i bob defnyddiwr

Mae ein gwefan yn cael ei ddiweddaru a’i wella yn gyson. Rydym wedi ceisio ei adeiladu mewn ffordd sy’n lleoli hygyrchedd a defnyddioldeb yn y canol.

Rydym wedi cyflwyno llawer o nodweddion hygyrchedd newydd i helpu i wneud eich profiad o’n gwefan mor dda a phosib.

Rydym yn credu y gallech gyrchu gwybodaeth y wefan hon gyda thechnoleg gynorthwyol fel JAWS (Job Access With Speech), NVDA (Non-Visual Desktop Access), ZoomText, a Dragon Naturally Speaking. Dylai hefyd fod yn ddefnyddadwy gyda chwyddwydrau sgrín a meddalwedd adnabod lleferydd eich system weithredu.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni lefel AA o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.0, wedi’i achredu’n annibynnol gan ein partneriaid Gwasanaeth Achredu Hygyrchedd Gwefan Shaw Trust. Archwiliwyd ein gwefan gan brofwyr anabl ac arbenigwyr hygyrchedd ym mis Gorffennaf 2016, ac rydym wedi gweithredu eu hargymhellion.

Bydden ni’n ddiolchgar iawn o’ch hadborth am pa mor hygyrch yw ein gwefan i chi fel ein bod yn gallu parhau i’w wella. Gyrrwch unrhyw adborth i info@disabilitywales.org os gwelwch yn dda. 

Cymorth i ddefnyddio cyfrifiaduron, y we a thechnoleg gynorthwyol

Os ydych angen cymorth ychwanegol i ddefnyddio cyfrifiaduron, y we a thechnoleg gynorthwyol, rydym yn argymell BBC My Web, My Way. Mae gan y wefan hon fideos a gwybodaeth i’ch helpu i ddefnyddio’r nodweddion hygyrchedd ar eich cyfrifiadur, a sut i’w wneud yn haws i ddefnyddio’r we. 

Porwyr rydym yn eu cefnogi

Mae ein nodweddion hygyrchedd yn gweithio pan yn defnyddio’r porwyr canlynol:

  • Chrome
  • Safari
  • Firefox
  • Android browser
  • Internet Explorer 10, 11 a 12.

Rydym wedi dewis y porwyr hyn oherwydd nhw yw’r rhai mwyaf cyffredin, gan gwmpasu dros 98% o holl ddefnyddwyr y we.

Neidio i’r prif gynnwys

Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrîn neu bysellfwrdd, defnyddiwch y ddolen ‘Skip to content’ ar frig pob tudalen i hepgor y llywio a chyrraedd y cynnwys yn gyflym

Gwneud y testun (yr ysgrifen) yn fwy

Efallai y gallwch newid maint y testun yn eich porwr

Newid y lliwiau

Rydym wedi ceisio defnyddio lliwiau sydd yn gwneud y geiriau ar ein gwefan yn rhwydd i’w darllen, ond rydym yn gwybod bod rhai pobl yn cael trafferth darllen ysgrifen ar rhai lliwiau. Efallai bod posib i chi ddefnyddio lliwiau eich hunan gyda’ch porwr.

Lawrlwytho dogfennau

Ein polisi yw ceisio sicrhau bod yr holl ddogfennau nad ydynt yn HTML ar ein gwefan, megis ffeiliau PDF (Fformat Dogfen Gludadwy), yn hygyrch lle bo hynny’n bosibl. Ein nod yw darparu fersiynau HTML (tudalen we) o ddogfennau lle bynnag y bo modd.

Ar gyfer dogfennau a ddarperir ar ffurf dogfen PDF neu Word, efallai y bydd angen i chi osod rhywfaint o feddalwedd am ddim:

Os nad ydych yn gallu agor dogfennau PDF, lawrlwythwch y feddalwedd Adobe Reader diweddaraf.

Os nad ydych yn gallu agor dogfennau Word, lawrlwythwch y feddalwedd ‘Word viewer; diweddaraf.

Strwythur penawdau

Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau fod gan bob tudalen ar ein gwefan strwythur penawd cywir, sydd yn eu gwneud yn haws i’w llywio.

Delweddau

Er mwyn gwneud pethau’n haws i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin, mae gan bob delwedd ar ein gwefan destun amgen sy’n disgrifio’n glir yr hyn mae nhw’n eu dangos.

Dolenni

Mae ein dolenni bob amser yn defnyddio testun cyswllt sy’n gwneud synnwyr allan o’i gyd-destun, fel bod yr hyn rydyn ni’n ei gyfeirio ag ef yn glir i bawb.

Fideo

Mae’r holl gynnwys fideo sydd wedi’i fewnosod ar y wefan hon neu ar ein sianel YouTube ar gael i’w gwylio gydag is-deitlau dewisol, a elwir hefyd yn gapsiynau caeedig. Os nad yw’ch porwr yn cefnogi fframiau, gallwch ddarllen trawsgrifiad ysgrifenedig o’r ffilm.

Rydym yn defnyddio YouTube ar gyfer ein fideos oherwydd dyna’r ffordd fwyaf hygyrch i gyflwyno fideos ar-lein y gwyddom amdano. Fodd bynnag, ni allwn reoli hygyrchedd ymarferoldeb fideo YouTube.

Cynnwys sydd wedi deillio o’r cyfryngau cymdeithasol, megis Trydar a Facebook

Mewn rhai rhannau o’n gwefan, rydym yn arddangos cynnwys sydd wedi’i dynnu i mewn o wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Trydar a Facebook. Mae’r gwefannau hyn yn aml yn cyfyngu ar y ffyrdd y gellir arddangos cynnwys, ac weithiau mae hyn yn golygu nad yw mor hygyrch ag yr hoffem. Rydym yn ceisio cadw’r rhain mor isel â phosibl a darparu cynnwys amgen.

iFrames

Rydym wedi sicrhau bod ein holl iFrames wedi’u labelu â theitlau a thestun amgen. Ar nifer fach o dudalennau, megis ein swyddi, siop elusennau a chyfeiriaduron gwasanaeth cymorth, mae rhai porwyr llai cyffredin nad ydym yn eu cefnogi, fel Internet Explorer 7, yn cynhyrchu iFrame heb ei labelu. Nid yw’r iFrame hwn yn cynnwys unrhyw gynnwys sy’n berthnasol i’r defnyddiwr.

Dyluniad Gweledol

Mae’r wefan hon yn defnyddio rhaeadrau dalennau ar gyfer cynllun gweledol. Os nad yw’ch porwr neu ddyfais bori yn cefnogi taflenni arddull, mae cynnwys pob tudalen wedi’i gynllunio i fod yn ddarllenadwy o hyd.

Problemau hygyrchedd ar draws wefan fawr

Dim ond trwy edrych ar bob tudalen o wefan y gellir gwirio rhai problemau hygyrchedd.

Os ydych yn dod ar draws problem ar unrhyw dudalen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ac mi wnewn ni ei drwsio.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members