Taflen ffeithiau: Etholiad Cyffredinol 2024

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Bydd yr Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf 2024. 

Bydd yr Etholiad Cyffredinol hwn yn wahanol i’r blynyddoedd a fu oherwydd bod ffiniau wedi cael eu hail-lunio. Mae hyn yn golygu mai dim ond 32 o Aelodau Seneddol fydd gan Gymru yn San Steffan, yn hytrach na 40. 

Mae Comisiwn Ffiniau Cymru yn rhoi esboniad da o’r newidiadau – Newid Ffiniau yng Nghymru – mae’n bwysig edrych ar hyn oherwydd gallai effeithio arnoch chi. 

Dyma hefyd yr Etholiad Cyffredinol cyntaf y mae’n rhaid dangos prawf adnabod gyda llun arno

Cofrestru i Bleidleisio 

Rhaid gwneud hyn erbyn 11:59yh ar 18 Mehefin. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth am gofrestru. Er mwyn llenwi’r ffurflen, bydd angen i chi nodi eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a’ch rhif yswiriant gwladol.  

Ffyrdd o Bleidleisio

Mae pedair ffordd wahanol o bleidleisio; Pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn bersonol, pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn ddienw, pleidleisio drwy’r post neu bleidleisio drwy ddirprwy. I bleidleisio mewn unrhyw ffordd, rhaid i chi fod wedi cofrestru. 

Pleidleisio’n Bersonol: Os oes gennych chi ofynion mynediad penodol, er enghraifft: os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn a’ch bod chi’n gwybod nad yw eich gorsaf bleidleisio’n hygyrch, dylech chi gysylltu â’ch swyddfa etholiadol leol i roi gwybod iddyn nhw. 

Yn yr orsaf bleidleisio, bydd eitemau wrth law i helpu pobl i bleidleisio, er enghraifft cymorth i ddal pensil, chwyddwydr a dyfais bleidleisio gyffyrddol. Os oes angen rhywbeth penodol arnoch chi, cysylltwch â’ch swyddfa etholiadol leol.

Gall y swyddog llywyddu yn yr orsaf bleidleisio eich helpu i bleidleisio. Gallwch hefyd fynd â rhywun gyda chi i’ch helpu i bleidleisio; rhaid iddyn nhw fod dros 18 oed. 

Os ydych yn cael trafferth pleidleisio am nad oes cymorth ar gael; dylech chi gysylltu â’ch swyddfa etholiadol leol a rhoi gwybod iddyn nhw. Dylen nhw allu ymyrryd a helpu.

Yr hyn sydd ei angen arnoch yn yr orsaf bleidleisio

Mae deddfwriaeth newydd yn golygu bod yn rhaid i chi fynd â phrawf adnabod gyda llun arno gyda chi i’r orsaf bleidleisio. Mae’r ddolen yn dangos rhestr o ddogfennau y gellir eu defnyddio.

Os nad oes gennych chi brawf adnabod, gallwch chi wneud cais am ddim am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Rhaid gwneud hyn erbyn 5yh ar 26 Mehefin 2024. 

Rhaid i’r llun ar eich prawf adnabod fod yn debyg i chi, er y gallwch chi barhau i ddefnyddio eich prawf adnabod hyd yn oed os yw wedi dod i ben. Rhaid i’r enw ar eich prawf adnabod fod yr un fath â’r un a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru, ond nid yw hynny’n wir ar gyfer eich cyfeiriad. 

Os ydych chi’n pleidleisio drwy’r post, does dim angen prawf adnabod arnoch chi.

Gwneud Cais i Bleidleisio drwy Ddirprwy: Gallwch gael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan yn bersonol os na allwch chi fynd i’r orsaf bleidleisio. Ar gyfer hyn, mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 5yh ar 26 Mehefin 2024. Rhaid i chi ymddiried yn y sawl sy’n gwneud hyn ar eich rhan, a rhaid iddyn nhw fod dros 18 oed, wedi cofrestru i bleidleisio, a bod â phrawf adnabod eu hunain. Rhaid iddyn nhw wneud hyn yn eich gorsaf bleidleisio chi. Yn wahanol i bleidleisio drwy’r post, mae angen rheswm arnoch i allu pleidleisio drwy ddirprwy.

Gwneud Cais i Bleidleisio’n Ddienw: Os ydych chi’n teimlo bod eich diogelwch mewn perygl oherwydd bod eich enw ar y gofrestr etholiadol, gallwch wneud cais i bleidleisio’n ddienw. Dim ond am flwyddyn y bydd y cais hwn yn para, a bydd angen dogfennau i ddangos sut y gallech chi neu rywun yn eich cartref fod mewn perygl.

Gwneud Cais i Bleidleisio drwy’r Post: gallwch bleidleisio drwy’r post os na allwch chi fynd i’r orsaf bleidleisio yn bersonol. Rhaid i chi gofrestru ar gyfer hyn erbyn 11:59yh ar 19 Mehefin 2024, naill ai ar-lein neu yn eich swyddfa etholiadol leol. Does dim angen rheswm arnoch i bleidleisio drwy’r post. Dyma ganllaw cam wrth gam ar Sut i Bleidleisio drwy’r Post

Rhaid i bleidleisiau post gyrraedd eu lleoliad terfynol erbyn 10yh ar 4 Gorffennaf 2024. Os nad ydych chi’n gallu postio eich pleidlais eich hun, mae opsiynau gwahanol ar gael. Gallwch naill ai gael rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i wneud hyn ar eich rhan, dychwelyd y bleidlais i’r orsaf bleidleisio, dychwelyd y bleidlais i’r swyddfa etholiadol leol, neu gael aelod o’r tîm gwasanaethau etholiadol lleol i ddod draw i’w chasglu.  

Mae’r holl ddogfennau pleidleisio ar gael mewn fformatau gwahanol. Cysylltwch â’ch swyddfa etholiadol leol i gael fformatau gwahanol. Dod o hyd i’ch Swyddfa Etholiadol Leol – ar ôl teipio eich côd post, bydd manylion eich swyddfa etholiadol leol ar gael. Bydd hyn yn rhoi holl fanylion cyswllt eich cyngor lleol i chi. Bydd manylion eich gorsaf bleidleisio leol ar gael ar eich cerdyn pleidleisio. 

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members