Rydym yn gyffrous i lansio ein Pecyn Ymgyrchu Etholiad 2026, gan roi’r offer i’n haelodau ymgysylltu ag ymgeiswyr sy’n sefyll yn etholiadau’r Senedd sydd ar ddod.
Yn dilyn lansio ein maniffesto, O Oroesi i Ffynnu, ym mis Rhagfyr, dyma’r cam nesaf i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir yn ystod yr etholiad hwn.
Beth sydd yn y Pecyn Ymgyrchu?
Mae’r pecyn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i weithredu:
- Ein Maniffesto Pobl Anabl
- Graffeg “5 Galwad Allweddol”
- Ein Cerdyn Ymrwymiad cyhoeddus
- Rhestr Wirio Aelodau
- Llythyrau templed ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a phobl anabl
- Canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Pum Galwad a’r Cerdyn Ymrwymiad
Sut i ddefnyddio’r Pecyn Ymgyrchu
Cam 1 – Rhannwch y Pum Galwad
Defnyddiwch y graffeg “5 Galwad Allweddol” wrth gysylltu ag ymgeiswyr, mynychu cyfarfodydd cyhoeddus, neu bostio ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’n nodi’n glir beth mae pobl anabl yng Nghymru yn gofyn amdano.
Cam 2 – Gofynnwch am ymrwymiad cyhoeddus
Pan fyddwch chi’n cysylltu ag ymgeisydd, gofynnwch iddyn nhw’n uniongyrchol:
- A ydych chi’n cefnogi Pum Galwad Anabledd Cymru?
- A wnewch chi ymrwymo iddyn nhw’n gyhoeddus?
Cam 3 – Gofynnwch iddyn nhw lenwi’r Cerdyn Ymrwymiad
Er mwyn sicrhau tryloywder, rydym yn gofyn i bob ymgeisydd lenwi ein ffurflen cerdyn ymrwymiad cyhoeddus.
Bydd hyn yn ein helpu i ddangos i bobl anabl ledled Cymru yn union ble mae ymgeiswyr yn sefyll ar ein galwadau maniffesto.
Beth allwch chi ei wneud?
Gwnewch eich ymgeiswyr yn ymwybodol a gofynnwch iddyn nhw ymrwymo i’n Pum Galwad Maniffesto.
Anfonwch lythyr at ymgeiswyr sy’n sefyll yn eich ardal. Gallwch lawrlwytho a defnyddio ein llythyrau templed ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a phobl anabl unigol. Gofynnwch iddyn nhw gefnogi’r Pum Galwad, ac ymrwymo i’w hetholwyr anabl.
Wrth i ymgeiswyr gael eu cyhoeddi, anfonwch y llythyr templed at y rhai sy’n sefyll lle rydych chi’n byw. Gallwch ddilyn cyhoeddiadau ymgeiswyr yma.
Mae gan y Senedd wybodaeth ddefnyddiol am yr etholiad a phleidleisio.
Ar hyn o bryd mae’r Senedd yn cynnal digwyddiadau “Deall Eich Pleidlais”, mewn person ac ar-lein, y gallech fod eisiau mynychu.
Mewn person: Teithiau’r Senedd | Senedd Tours
Ar-lein: Teithiau’r Senedd | Senedd Tours
Mae’r etholiad hwn yn bwysig
Mae 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru yn anabl. Ni ddylid anwybyddu ein lleisiau, ein hawliau, a’n dyfodol.
Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod ymgeiswyr yn gwybod bod pobl anabl yn drefnus, yn wybodus, ac yn barod i ddefnyddio ein pleidleisiau fel ein llais.
Os oes angen cymorth arnoch i ymgysylltu ag ymgeiswyr, cysylltwch â ni ar info@disabilitywales.org.
Gadewch i ni symud o Oroesi i Ffynnu.





