A allech chi fod yr aelod nesaf i ymuno a thîm Anabledd Cymru? Rydym yn chwilio am berson anabl i ymuno â ni fel Gweinyddwr Cyfranogiad Dinesig ar gontract chwe mis.
Mae hon yn rôl hanfodol sy’n cefnogi cynrychiolaeth well yng ngwleidyddiaeth Cymru. Fel Gweinyddwr Cyfranogiad Dinesig, byddwch yn cefnogi’r Swyddog Cyfranogiad Dinesig wrth gyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru sy’n cefnogi ymgeiswyr anabl mewn etholiadau Cymru i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad. Mae’r Gronfa’n helpu i sicrhau tegwch trwy ddarparu cymorth ariannol i gwrdd â’r costau ychwanegol y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth sefyll am swydd etholedig.
Mae eich rôl yn ganolog i sicrhau y gall ymgeiswyr anabl gael mynediad at y gefnogaeth ymarferol sydd ei hangen arnynt i gynnal ymgyrchoedd effeithiol a chynhwysol.
Mae’r swydd hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein nod o weld mwy o bobl anabl yn weithgar mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol – nid yn unig fel pleidleiswyr, ond fel ymgeiswyr, arweinwyr, a gwneuthurwyr penderfyniadau.
Os ydych chi’n barod i helpu i lunio dyfodol lle mae pobl anabl nid yn unig yn bresennol, ond yn bwerus mewn bywyd cyhoeddus, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Ynglŷn â’r rôl
Teitl y swydd: Gweinyddwr Cyfranogiad Dinesig
Disgrifiad: Cynorthwyo’r Swyddog Cyfranogiad Dinesig drwy ddarparu cymorth gweinyddol effeithlon i Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru, sy’n rhoi cymorth ariannol i bobl anabl sy’n sefyll etholiad yn Etholiad Llywodraeth Leol Cymru 2027.
Oriau: 14 – 21 awr yr wythnos
Cyflog: NJC SCP 1.1 £25,614 (pro rata £10,246 – £15,369)
Sector: Trydydd Sector
Cytundeb: Tymor sefydlog tan 30 MMehefin 2027
Dyddiad cau: 5.00yh 4 Rhagfyr 2026
Cyfweliadau: 17 Rhagfyr 2026
Oes gennych ddiddordeb? Gallwch lawrlwytho popeth sydd ei angen arnoch i wneud cais, gan gynnwys y disgrifiad swydd llawn, manyleb y person a’r ffurflen gais, isod.
Fel arall, cysylltwch â ni i gael pecyn cais yn y fformat o’ch dewis drwy ffonio 029 2088 7325 (defnyddiwch y gwasanaeth cyhoeddi ar gyfer ffonau testun), ffacs 029 2088 8702, neu anfon e-bost at membership@disabilitywales.org.
Dychwelwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau i membership@disabilitywales.org erbyn 5yh ddydd Gwener, 4 Rhagfyr os gwelwch yn dda.





