Mae Anabledd Cymru yn falch o gyflwyno Pecyn Cymorth Mynediad at Wleidyddiaeth, adnodd ymarferol i bobl anabl sydd â diddordeb mewn mynd i mewn i fywyd gwleidyddol a llywio eu ffordd drwyddo.
Cafodd y pecyn cymorth ei gyd-gynhyrchu ag aelodau o Rwydwaith Llawr Gwlad ‘Mynediad at Wleidyddiaeth’ ac fe’i llywiwyd gan eu profiadau bywyd o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae’n darparu cyngor ac adnoddau ymarferol i helpu pobl anabl i lywio byd cymhleth gwleidyddiaeth, boed hynny’n sefyll am swydd etholedig, cymryd rhan fel ymgeisydd annibynnol, ymuno â phlaid wleidyddol, neu weithio i hyrwyddo hawliau pobl anabl drwy weithredu gwleidyddol.
Mae pobl anabl yn ffurfio o leiaf un rhan o bump o boblogaeth Cymru, ac eto nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu ymhlith aelodau etholedig ledled y wlad. Mae absenoldeb pobl anabl mewn rolau gwneud penderfyniadau yn golygu nad yw polisïau a gwasanaethau yn cael eu llywio gan brofiad bywyd.
Nod y Pecyn Cymorth yw helpu i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, tra’n tynnu sylw at rai camsyniadau cyffredin ynghylch cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac yn mynd i’r afael â nhw. Mae’n darparu canllawiau cam wrth gam i bobl anabl ar wahanol gamau o’u taith wleidyddol.
Daw’r Pecyn Cymorth yn dilyn lansiad Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth, a nododd gamau ymarferol i bleidiau gwleidyddol wneud bywyd gwleidyddol yn fwy hygyrch a chynhwysol i bobl anabl. Gyda’i gilydd, mae’r Siarter a’r Pecyn Cymorth yn cefnogi newid o fewn sefydliadau gwleidyddol ac ar gyfer pobl anabl sy’n llywio eu teithiau gwleidyddol eu hunain.
Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth
Gallwch lawrlwytho’r Pecyn Cymorth yn y fformat o’ch dewis isod.





