Clawr blaen Pecyn Cymorth Mynediad at Wleidyddiaeth. gyda llythrennau mawr o liw oren tywyll yn sillafu'r geiriau ‘Mynediad at Wleidyddiaeth’. Isod, mewn glas, ceir y geiriau ‘Pecyn Cymorth ar gyfer llywio gwleidyddiaeth’. O amgylch y testun mae siapiau geometrig amrywiol wedi'u hamlinellu mewn lliwiau gwahanol, gan gynnwys cylchoedd, sgwariau, trionglau, croesau a siapiau diemwnt mewn lliwiau gwyrdd-las, oren a melyn. Mae tri logo dwyieithog ar waelod y dudalen: Anabledd Cymru, Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth, ac Ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Yn cyflwyno Pecyn Cymorth Mynediad at Wleidyddiaeth

Mae Anabledd Cymru yn falch o gyflwyno Pecyn Cymorth Mynediad at Wleidyddiaeth, adnodd ymarferol i bobl anabl sydd â diddordeb mewn mynd i mewn i fywyd gwleidyddol a llywio eu ffordd drwyddo. Cafodd y pecyn cymorth ei gyd-gynhyrchu ag aelodau o Rwydwaith Llawr Gwlad ‘Mynediad at Wleidyddiaeth’ ac fe’i llywiwyd gan eu profiadau bywyd o […]


Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Datganiad i’r Wasg: Pecyn Cymorth a Chyllid Newydd yn Grymuso Pobl Anabl yng Nghymru i Sefyll mewn Etholiadau Llywodraeth Leol

I’w ryddhau ar unwaith Mae Anabledd Cymru yn cefnogi pobl anabl ledled y wlad sydd eisiau dylanwadu ar ddyfodol democratiaeth yng Nghymru drwy lansio’r Pecyn Cymorth Mynediad at Wleidyddiaeth newydd a cham nesaf Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru mewn digwyddiad ar-lein ddydd Iau 24 Medi. Mae pobl anabl yn dal i gael eu tangynrychioli yn y byd gwleidyddol. […]


Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members