Datganiad i’r wasg: Adroddiad yn canfod achosion cynyddol o dorri hawliau pobl anabl

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Mae Sefydliadau Pobl Fyddar a Phobl Anabl y DU wedi lansio adroddiad deifiol heddiw sy’n gwerthuso perfformiad y llywodraeth saith mlynedd ar ôl canfyddiad y Cenhedloedd Unedig o droseddau difrifol a systematig yn erbyn hawliau pobl anabl oherwydd llymder a diwygio lles.

Dywedodd Kamran Mallick, Prif Weithredwr Disability Rights UK, “Mae’r dystiolaeth yn glir, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu i bobl anabl ers yr adroddiad yn 2016. Mae pobl anabl wedi ac yn parhau i dalu gyda’u bywydau.

“Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw ymdrech i ymateb mewn ffordd gadarnhaol i’r canfyddiadau, a dro ar ôl tro yn gwrthod ymgysylltu â phobl anabl a’n sefydliadau mewn ffordd ystyrlon.”

Roedd y canfyddiadau a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016 yn ganlyniad ymchwiliad arbennig a gychwynnwyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig sy’n gyfrifol am y Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl.

Mae’r adroddiad newydd a luniwyd fel tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer dilyniant gan y Pwyllgor yn disgrifio sut mae safonau byw pobl anabl wedi gwaethygu ymhellach ers 2016.

Mae toriadau parhaus i gymorth i bobl anabl sy’n byw yn y gymuned wedi arwain at bobl anabl yn cael eu gwahanu oddi wrth gymdeithas o tu fewn i’w cartrefi eu hunain.

Canfu adroddiad diweddar gan Gomisiwn a arweinir gan bobl anabl yn Lewisham nad oedd gan 20% o’r ymatebwyr bob amser fynediad at fwyd a diod, na allent ymolchi (neu gael eu golchi) yn rheolaidd ac na allent fynd i’r toiled pan oedd angen.

Mae codi tâl am ofal cymdeithasol yn gwthio miloedd i ddyled neu’n gorfodi pobl anabl i dynnu’n ôl o’r cymorth sydd ei angen arnynt. Canfu’r ymchwil cynhwysfawr diwethaf a gynhaliwyd fod 166,000 o bobl anabl ag ôl-ddyledion gofal cymdeithasol i’w cyngor lleol. Canfu ymchwiliad diweddar gan y BBC fod achos dyled wedi cael ei ddechrau yn erbyn 60,000 o bobl anabl, a hyn gan eu llywodraeth.

“Rydym yn byw mewn amgylchiadau enbyd,” meddai Dr Jim Elder-Woodward, Cynullydd Cynhwysiant yr Alban, “yn ynysig, yn gaeth gartref neu mewn sefydliadau; oer, newynog, a bychanu. Er bod Llywodraeth yr Alban wedi dweud eu bod am glywed gan y rhai sydd “â phrofiad byw” wrth ddatblygu eu cynlluniau a’u polisïau, mae ein hawliau dynol yn parhau i gael eu gwadu.”

Yn ychwanegol at atchweliad pellach o dan faterion yr ymchwiliwyd iddynt yn wreiddiol gan yr ymchwiliad, mae pobl anabl bellach hefyd wedi profi canlyniadau andwyol yn sgil Brexit gan waethygu’r argyfwng recriwtio gofal cymdeithasol ac wedi cael eu taro’n anghymesur gan COVID a’r argyfwng costau byw presennol.

Dywedodd Megan Thomas, Swyddog Polisi ac Ymchwil Anabledd Cymru, “Mae’r lefelau uchel o dlodi yng Nghymru, yr argyfwng costau byw, a chanlyniad COVID-19 wedi arwain at bobl anabl yn methu â chael mynediad i lety addas, ddim yn gallu mwynhau eu hawl i’r cymorth sydd ei angen arnynt, ac mewn rhai achosion, mae pobl anabl wedi colli eu bywydau.”

Mae’r argyfwng gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon yn ffactor arall eto sy’n achosi niwed y gellir ei osgoi i bobl anabl: bydd y gyllideb galedi a osodwyd ar Ogledd Iwerddon mewn ymateb i’w diffyg llywodraeth yn gweld gwasanaethau a chyllid ar gyfer pobl anabl yn cael eu torri.

Dywedodd Nuala Toman, Pennaeth Polisi Disability Action: “Mae’r gyllideb annigonol a ddyrannwyd i Ogledd Iwerddon gan San Steffan wedi arwain at raglen o doriadau llym sy’n rhwygo gwasanaethau cyhoeddus ar raddfa frawychus gydag effaith ddifrifol ac anghymesur ar bobl anabl.

“Mae Argyfwng Costau Byw ynghyd â budd-daliadau anabledd annigonol a rhwystrau rhag cael mynediad at waith wedi arwain at niferoedd cynyddol o bobl anabl yn dod yn ddibynnol ar fanciau bwyd.

“Mae hyn i gyd yn digwydd yn absenoldeb Llywodraeth weithredol. Mae angen gweithredu ar frys i amddiffyn bywydau a hawliau pobl anabl.”

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y bygythiad difrifol o dorri hawliau systematig pellach a achosir gan gynlluniau diweddar a gyhoeddwyd gan y llywodraeth i ddwysau ac ehangu’r drefn sancsiynau budd-daliadau ac i ddileu’r system bresennol o fudd-daliadau diweithdra ar gyfer pobl anabl sydd methu ennill bywoliaeth trwy gyflogaeth.

Mae tua 632,000 o bobl anabl mewn perygl o golli incwm hanfodol o ganlyniad i’r cynlluniau hyn.

Bydd mwy na chwarter y rhai y bydd cyflwyno amodoldeb mewn gwaith yn effeithio arnynt – lle bydd gofyn i hawlwyr ar incwm isel sy’n cael ychwanegiadau at fudd-daliadau chwilio am swyddi â chyflogau uwch neu fwy o oriau gwaith sydd dan fygythiad o atal budd-daliadau ddim yn cydymffurfio – yn anabl.

Bydd llawer o’r gweithwyr cyflog isel hyn yn ei chael hi’n anodd cynyddu eu horiau gwaith a/neu’n wynebu rhwystrau i’r gweithgareddau chwilio am waith y bydd gofyn iddynt eu cyflawni megis allgáu digidol.

Mae lansiad yr adroddiad wedi’i amseru i gyd-fynd â’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth yng Geneva gan gynrychiolwyr Byddar ac anabl y DU a chomisiynau cydraddoldeb a hawliau dynol y DU. Mae’r llywodraeth wedi penderfynu peidio â bod yn bresennol.

Dywedodd John McArdle, sylfaenydd ymgyrch y Triongl Du, “Ni fydd y llywodraeth yn mynychu oherwydd nad oes ganddyn nhw obaith o sefydlu amddiffyniad credadwy wrth iddyn nhw geisio gwaethygu eu camddefnydd a diddymu’r Confensiwn.

“Yn hytrach na gweithio gyda phobl anabl i sicrhau system drylwyr a diogel nad yw’n achosi niwed y gellir ei osgoi i aelodau mwyaf difreintiedig cymdeithas, mae wedi gwneud ei benderfyniad i gael gwared ar yr Asesiad Gallu i Weithio a rhoi system llawer gwaeth yn ei le.”

Mae’r adroddiad yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Gomisiynau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y DU eu gwerthusiad eu hunain a ganfu nad yw’r llywodraeth wedi gwneud fawr ddim cynnydd, os o gwbl, ar bob un o un ar ddeg o argymhellion y Pwyllgor.

Cysylltiadau am fwy o wybodaeth

Y DU a Lloegr – Ellen Clifford – 07505144371 – ellenclifford277@gmail.com

Gogledd Iwerddon – Greta Gurklyte 07771928107- gretagurklyte@disabilityaction.org

Yr Alban – John McArdle – 07725176417 – mcardle.john77@gmail.com

Cymru – Megan Thomas – 07824366951 – megan.thomas@disabilitywales.org

Nodiadau

1) Mae Sefydliadau Pobl Fyddar a Phobl Anabl yn cael eu rhedeg a’u rheoli’n llawn gan bobl Fyddar ac Anabl ein hunain. Mae DDPOs sy’n ymwneud ag adroddiad y DU yn cynnwys Black Triangle, Disabled People Against Cuts, Disability Action, Disability Rights UK, Anabledd Cymru, Fforwm DPO Lloegr, Inclusion London, Inclusion Scotland, Liberation, Reclaiming Our Futures Alliance.

2) Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yma: https://www.inclusionlondon.org.uk/campaigns-and-policy/uncrdp/crdp23/crdp23/

Bydd cyfieithiad hawdd ei ddarllen a BSL ar gael ond yn anffodus nid ydynt yn barod eto.

3) Gallwch ddod o hyd i ddolen i adroddiad yr ymchwiliad arbennig ac argymhellion yma: https://www.inclusionlondon.org.uk/campaigns-and-policy/uncrdp/special-inquiry/special-inquiries/

4) Adroddiad Comisiwn Pobl Anabl Lewisham ar ofal cymdeithasol: https://lewisham.gov.uk/-/media/0-mayor-and-council/community-support/extension-social-care-for-disabled-people-in -lewisham–oedd.ashx

5) Ymchwiliad dyled gofal cymdeithasol GMB: https://www.gmb.org.uk/news/least-166000-trapped-social-care-debt

6) Ymchwiliad y BBC i ddyled gofal cymdeithasol: https://www.bbc.co.uk/news/uk-64668729

7) Bydd y sesiwn dystiolaeth yn cael ei ffrydio’n fyw o 9 – 11am ddydd Llun 28 Awst yma: https://media.un.org/cy/webtv/schedule/2023-08-28

8) Datganiad i’r wasg ar gyfer penderfyniad y llywodraeth i beidio â mynychu ym mis Awst: https://dpac.uk.net/2023/08/press-release-government-hides-from-un-over-treatment-of-disabled-people/

9) Dolen i’r adroddiad gan Fecanwaith Annibynnol y Deyrnas Unedig: https://www.equalityhumanrights.com/cy/progress-disability-rights-united-kingdom-2023

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members