Adroddiad Blynyddol Anabledd Cymru 2022-23

Tudalen flaen yr adroddiad blynyddol yn lliw logo gwyrddlas AC. Mae'r llythrennau DW/AC a'r rhifau 22-23 wedi'u pentyrru ar ochr dde'r dudalen mewn print bras sydd ychydig yn dywyllach na lliw y cefndir. Yn y gwaelod ar y chwith, mae'r geiriau Adroddiad Blynyddol 2022-2023 wedi'u gosod yn lliw logo oren AC. Yn y chwith uchaf mae logo AC mewn gwyn ac oren.

Ar ran Bwrdd Anabledd Cymru, mae’n bleser gennyf rannu ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23, a gymeradwywyd yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar.

Yng ngeiriau ein Cadeirydd Willow Holloway, ‘Mae wedi bod yn flwyddyn hynod gynhyrchiol arall i Anabledd Cymru. Rydym wedi parhau i gynrychioli ein haelodau yn ystod y cyfnod heriol hwn tra’n cynyddu dealltwriaeth o anghenion pobl anabl. Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, gan ddylanwadu ar bolisi yng Nghymru a thu hwnt.’

Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys:

  • Ein hymgyrch costau byw a chynhyrchu’r adroddiad ‘Prin yn Goroesi’
  • Cael statws cyfranogwr craidd yn Ymchwiliad Covid-19
  • Datblygu adnoddau i ysgolion am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
  • Parhau i gyflwyno’r Rhaglen Fentora arobryn, Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, yn llwyddiannus
  • Cynhadledd Hybrid Dathlu 50 Mlynedd y Ffordd i Hawliau a fynychwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Roedd ein Hanner Canmlwyddiant yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni o ran datblygu hawliau anabledd a chydraddoldeb dros bum degawd yn ogystal â’r hyn sydd eto i’w gyflawni.

O ystyried effaith Covid-19 ynghyd â’r argyfwng costau byw, mae’n sicr yn gyfnod heriol iawn i nifer gan gynnwys ein haelodau. Yn fwy nag erioed, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich cefnogaeth a’ch ymgysylltiad parhaus, gan sicrhau bod llais pobl anabl o bob rhan o Gymru yn llywio ein rôl yn llawn wrth ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb.

Rhian Davies, Prif Weithredwr, Anabledd Cymru.

Lawrlwythwch yr adroddiad blynyddol

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members