Herio Ystradebau, Newid Cymdeithas: Pobl Anabl a’r Cyfryngau

Ar gefndir gwyrddlas, mae testun gwyn yn dweud Newyddion Anabledd Cymru. Isod mae'r geiriau Cynhadledd Flynyddol uwchben y pennawd Herio Ystradebau, Newid Cymdeithas: Pobl Anabl a'r Cyfryngau. Mae logo AC wedi'i osod o dan y pennawd ar yr ochr chwith ac ar y dde mae testun sy'n dweud: Dod â darlledwyr, newyddiadurwyr a phobl anabl at ei gilydd i feddwl am y portread o bobl anabl yn y cyfryngau. Lleoliad: Clwb Criced Sir Forgannwg ac Ar-lein. Dyddiad: 17 Hydref 2023.

Daliwch y dudalen flaen! Mae Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Anabledd Cymru yn dod i Gaerdydd ddydd Mawrth 17 Hydref 2023.

Ymunwch â ni yng Nghlwb Criced Sir Forgannwg ac ar-lein wrth i ni ystyried cynrychiolaeth a phortread pobl anabl yn y cyfryngau.

Dros y blynyddoedd, anaml y mae straeon newyddion ac erthyglau yn y cyfryngau am bobl anabl wedi bod yn adlewyrchiad cywir o’r bywydau rydym yn eu byw a’r rhwystrau cymdeithasol rydym yn eu hwynebu. Yn amlach na pheidio, mae straeon yn glynu at ystradebau gan bortreadu pobl anabl fel fel chwilwyr budd-daliadau neu, mewn cyferbyniad, yn cael eu cyflwyno fel arwyr sydd wedi cyflawni pethau mawr.

Ar y llaw arall, gwyddom y gall y cyfryngau fod yn arf gwych i herio’r stereoteipiau hyn a gall wasanaethu fel grym pwerus o ran newid barn cymdeithas am anabledd, hyrwyddo ein hawliau a chodi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n ein anablu.

Gall portreadau yn y cyfryngau, boed yn dda neu’n ddrwg, gael effaith barhaol ar gymdeithas a phobl anabl eu hunain. Dyna pam rydyn ni’n dod â darlledwyr, newyddiadurwyr a phobl anabl sy’n gweithio’n agos gyda’r cyfryngau ynghyd ym mis Hydref i drafod beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei newid.

Beth allwch chi ei ddisgwyl ar y diwrnod?

Mae gennym amrywiaeth wych o siaradwyr a fydd yn camu i’r llwyfan i archwilio i ba raddau y mae pobl anabl yn cael eu cynrychioli ar draws y cyfryngau ar hyn o bryd a meddwl am yr effaith y mae portreadu yn y cyfryngau yn ei gael ar agweddau cymdeithasol a phobl anabl eu hunain.

Mae’n bryd inni ofyn y cwestiynau wrth i ni annog darlledwyr a llwyfannau newyddion i feddwl am sut maen nhw’n adrodd ein straeon a beth ellir ei wneud i herio ystradebau yn lle eu tanio.

Bydd gwesteion a sefydliadau yn cynnwys darlledwyr mawr fel y BBC ac ITV, yr NUJ a phobl anabl amlwg yn y cyfryngau.

Bydd hwn yn ddigwyddiad hybrid felly os na allwch ymuno â ni mewn person, peidiwch â phoeni, gallwch wylio ar-lein. Mae hyn er mwyn sicrhau hygyrchedd i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a thu hwnt.

Gyda sgyrsiau, dadleuon panel a gweithdai yn llenwi’r agenda, mae hwn yn ddigwyddiad nad ydych chi eisiau ei golli. Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni.

Os hoffech fod yn rhan o’r sgwrs, archebwch eich lle ar Eventbrite nawr. Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld chi yno!

*Gwyliwch allan am fanylion pellach a mwy o gyhoeddiadau siaradwyr.

Cynllun bwrsariaeth

Mae bwrsariaethau ar gael i Sefydliadau Pobl Anabl ac Aelodau Unigol Anabl i gynorthwyo gyda chostau mynychu’r digwyddiad (teithio, llety, cefnogaeth ac ati). Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â finance@disabilitywales.org

Nawdd ac arddangosion

Mae cyfleoedd noddi ac arddangos hefyd ar gael. Os hoffai eich sefydliad fod yno, e-bostiwch finance@disabilitywales.org am ragor o wybodaeth.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members