Dweud eich dweud: Effaith yr argyfwng costau byw ar bobl anabl

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Mae Anabledd Cymru yn hapus i lansio ein harolwg ar effaith yr argyfwng costau byw ar bobl anabl.

Rydym yn cynnal yr ymchwil hwn i glywed eich straeon yn uniongyrchol a deall sut mae costau byw cynyddol wedi effeithio ar bobl anabl ledled Cymru. Mae’r argyfwng wedi bod yn parhau ers bron i flwyddyn ac mae’n dod yng nghyd-destun pandemig byd-eang sydd wedi effeithio’n anghymesur ar bobl anabl a chael gwared ar y codiad credyd cynhwysol.

Yn ystod misoedd cynnar yr argyfwng, fe wnaethoch ddweud wrthon ni eich bod yn poeni am y cynnydd mewn costau byw a’i fod eisoes wedi effeithio ar eich bywydau. Nawr, rydym am ddeall beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd ac effeithiolrwydd y cymorth sydd ar gael.

Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg a Saesneg, mewn testun plaen, ac mewn ffurf Hawdd ei Ddarllen. Os oes rhywbeth y gallwn ei wneud i’ch helpu i gael mynediad i’r arolwg, cysylltwch â ni.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol mewn fformat gwahanol, e-bostiwch megan.thomas@disabilitywales.org neu ffoniwch 02920 887325.

Bydd yr arolwg ar agor am fis. Diolch i chi am gymryd yr amser i ddweud wrthym am eich profiadau.

Cymerwch ran yn yr arolwg: 

Yr arolwg yn Gymraeg (SurveyMonkey)

Yr arolwg yn Saesneg (SurveyMonkey)

Hawdd ei ddarllen

Testun plaen

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members