Anabledd Cymru: Blwyddyn dan sylw

Logo Anabledd Cymru ar gefndir gwyrddlas. Mae ysgrifen du oddi tano sy'n dweud Blwyddyn dan sylw, adroddiad y Prif Weithredwraig

Pan ddigwyddodd y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, arafodd y byd; tawel oedd strydoedd a swyddfeydd a seibiwyd cyfleoedd i gymdeithasu mewn person. Ond wrth i Anabledd Cymru symud i weithio ar-lein ac wrth i’n tîm bach ehangu, gan recriwtio pobl o bob rhan o Gymru, aeth ein gwaith o nerth i nerth.

Roedd ein Cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol 2021 yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrio ar ein gwaith a rhannu ein llwyddiannau gyda’n haelodau a gafodd gyfle hefyd i rannu eu barn a’u pryderon yn dilyn blwyddyn gythryblus. Rhoddodd trafodaethau fewnwelediadau amhrisiadwy i’n tîm wrth inni barhau i ymdrechu am hawliau a chydraddoldeb pobl anabl yng Nghymru am yr hanner canfed flwyddyn yn 2022.

Yma, mae ein Prif Weithredwraig, Rhian Davies, yn myfyrio ar waith AC ar gyfer 2020/21.

Ysgrifen du ar gefndir gwyn sy'n dweud ein blwyddyn mewn niferoedd. Mae rhifau mewn dau flwch llwyd ac oren o dan y teitl yn cynnwys: 8 cyfarwyddwr, 9 aelod o staff, 7 ar gynllun hyfforddi i fyfyrwyr, ymunodd 2 Sefydliad pobl anabl fel aelod llawn. 29 Sefydliad pobl anabl fel aelodau llawn yn gyfan gwbl.

Adroddiad y Prif Weithredwraig

Covid-19

Mae Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol a threiddgar ar gymdeithas yn gyffredinol a phobl anabl yn benodol. Datgelodd yr anghyfiawnderau oedd eisoes yn bodoli o fewn cymdeithas. Mae 10 blynedd o galedi wedi dirywio incwm a hawliau pobl anabl i fyw’n annibynnol, gyda’r flwyddyn ddiwethaf wedi gwaethygu sefyllfa anodd llawer o bobl anabl.

Yng Nghymru, datgelodd y Swyddfa ar gyfer ystadegau cenedlaethol (ONS) fod pobl anabl yn cynrychioli 68% o farwolaethau Covid-19, o gymharu â ffigwr cyfartalog o 59% ar draws y Deyrnas Unedig. A siom hyd yn oed fwy oedd diffyg sylw ym meysydd gwleidyddol, cyhoeddus ac ar y cyfryngau i’r sefyllfa hon. Ystyriwyd marwolaethau ymhlith pobl hŷn ac anabl yn anochel yn hytrach nag ataliadwy. 

Lansiwyd AC maniffesto Dewch â’n Hawliau i Ni, ar Ddiwrnod Rhynglwadol Pobl Anabl, er cof am yr holl bobl anabl a gollodd eu bywydau’n uniongyrchol neu anuniongyrchol i Covid-19. Gwnaed addewid i ddefnyddio ymgyrch y maniffesto i adeiladu byd gwell a chreu cymdeithas gynhwysol ar gyfer pob person anabl.

AC yn ystod y pandemig

Yn sgil ymroddiad y staff a’r Bwrdd, llwyddwyd i weithredu drwy gydol y pandemig.

Sefydlwyd ni fel corff rhithwir dros nos, gan barhau i gynnal ein rhaglen waith er yn canolbwyntio ar y cychwyn ar ymateb i’r argyfwng. Ein nod oedd hysbysu’r aelodau o’r datblygiadau diweddaraf a’u helpu gymaint â phosibl i ymateb i wahanol gymalau’r pandemig. Darparwyd newyddion am gyfarwyddiadau’r llywodraeth, gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a cheisio taclo storïau digynsail, yn benodol ym meysydd gwisgo masgiau a brechiadau.

Trefnwyd digwyddiadau ymgynghori ar-lein er mwyn trafod pryderon aelodau gyda gweinidogion ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, yn cynnwys materion yn effeithio gwarchod unigolion, effeithiau gostwng gwasanaethau a thrawsnewid golwg ein strydoedd, oedd wedi creu rhwystrau ychwanegol ar gyfer llawer o bobl anabl.

Yn ogystal â chynnwys aelodau o fewn storïau ar y cyfryngau er mwyn dangos effaith sylweddol Covid-19 ar bobl anabl, sefydlwyd platfform er galluogi pobl i olrhain eu storïau drwy brojectau fideo fel Lockdown Life ac Datgloi Bywydau a gyllidwyd gan Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol Cymru.

Er yr heriau, llwyddwyd i gyrraedd targedau ein rhaglenni gwaith, gan adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol a datblygu gwaith a ddechreuwyd cyn y pandemig. Roedd yn cynnwys llunio maniffesto Dewch â’n Hawliau i Ni cyn etholiadau 2021 y Senedd, ymgyrch i hyrwyddo’r Model Cymdeithasol o Anabledd a darparu adnoddau arlein ar effaith Brexit ar bobl anabl.

Digwyddiadau

Ystadegau ymgysylltu mewn ysgrifen gwyn ar gefndir llwydlas, maent yn cynnwys; 19 digwyddiadau ymgysyllu, 388 cyfranogwyr, 15 ymateb ymgynghoriad, 5 arolwg ar-lein, 367 o ymatebion, 1 maniffesto wedi ei lansio

Mewn cyfanswm, trefnwyd 19 digwyddiad ar gyfer 388 cynrychiolydd ar draws y wlad, llawer ohonynt yn gysylltiedig ag effeithiau Covid, ond hefyd wrth drefnu’r maniffesto a’r ymgyrch Model Cymdeithasol.

Roedd 144 cynrychiolydd yn gweithio mewn gwasanaethau cyflogi Llywodraeth Cymru wedi mynychu 4 sesiwn hyfforddi ar y Model Cymdeithasol o Anabledd gyda’r nod o wella cymorth a darpariaethau ar gyfer pobl anabl yn chwilio am waith.

Er mwyn hysbysu amrediad o ymgynghoriadau polisi, dosbarthwyd 5 arolwg arlein ar wahanol themâu a lenwyd gan 367 o bobl.

AC ar-lein

Ystadegau AC ar-lein mewn ysgrifen gwyn ar gefndir oren, mae'n cynnwys; 200,000 o ymwelwyr i'r wefan, 21 o ddatganiadau newyddion a blogiau, 6 eitem e-newyddion, 1.7 miliwn o argraffiadau Trydar, 18.7 mil o ddilynwyr ar draws Trydar a Facebook

Llwyddwyd i ddatblygu ein dylanwad arlein yn sylweddol drwy’r wefan a ddenodd dros 200,000 o ymweliadau, gyda 12,000 wedi ymweld â’r tudalennau Model Cymdeithasol.

Ymunodd bron i 1,500 o ddilynwyr newydd â’n llwyfannau Trydar a Facebook, gan ymestyn cyrhaeddiad ein cyfryngau cymdeithasol i oddeutu 18,700 corff ac unigolyn. Darllenwyd ein negeseuon Trydar 1.7 miliwn gwaith.

Cynhyrchwyd a llwythwyd 17 fideo ar effaith Brexit ar bobl anabl a chrëwyd pecyn arlein ar gyfer ymgynghorwyr Busnes Cymru er mwyn gwella cymorth ar gyfer entrepreneuriaid anabl.  

Cefnogi Sefydliadau Pobl Anabl

Yn ogystal, roeddem yn falch iawn o groesawu dau gorff pobl anabl fel aelodau llawn: Aubergine Café a’r Spinal Injuries Association, gan gynyddu nifer yr aelodau llawn i 29.

Ysgrifen glas tywyll ar gefndir goleuach sy'n dweud: Dosbarthwyd 163k o grantiau COVID-19 brys i 9 SPA yng Nghymru

Dosbarthwyd grantiau argyfwng Covid gwerth £163,000 i naw corff pobl anabl yng Nghymru, fel rhan o gonsortiwm cyrff pobl anabl ar draws y Deyrnas Unedig, a dderbyniodd £1.3m gan National Emergencies Trust. Yng Nghymru, derbyniwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynyddu nifer ein prosiectau ac ymestyn eu gweithgareddau a gwasanaethau.

Dyma’r tro cyntaf i ni gael cronfa wedi’i thargedu’n benodol at sefydliadau pobl anabl yng Nghymru ar ffurf llwyfan i gynnal eu gwaith hanfodol wrth gefnogi pobl anabl, helpu i daclo ynysu cymdeithasol, cefnogi byw’n annibynnol a chynyddu incwm unigolion. Er mwyn helpu i gynnal eu gwaith tu hwnt i’r cyllid argyfwng, penodwyd Richard Newton Consultancy i ddarparu hyfforddiant ar gyfer y Sefydliadau Pobl Anabl sy’n rhan o’r rhaglen.

Cynrychioli aelodau / Adroddiad Drws ar Glo

Ein prif swyddogaeth yw cynrychioli barn yr aelodau gyda’r nod o hysbysu a dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth. O dan arweiniad y Swyddog Polisi ac Ymchwil, Meg Thomas, lluniwyd maniffesto Dewch â’n Hawliau i Ni ar ôl cysylltu â dros 200 aelod ac eraill drwy grwpiau ffocws ac arolygon arlein.

Roedd 68% o’r farn nad oedd eu hawliau yn cael eu gweithredu’n iawn ac nid oedd 76% yn hyderus y byddai hynny’n gwella dros y pum mlynedd nesaf. Prif alwad weithredu ein Maniffesto oedd ymgorffori UNCRDP o fewn deddfwriaeth y wlad. Derbyniodd gymorth ar draws y pleidiau gwleidyddol yn ystod Etholiadau’r Senedd ac erbyn hyn mae’n rhan o raglen Llywodraeth Cymru.  

Roedd hwn a mesurau eraill yn rhan o argymhellion yr adroddiad seiliedig ar dystiolaeth Drws ar Glo: Rhyddhau bywydau a hawliau pobl anabl tu hwnt i Covid-19. Comisiynwyd gan y Dirprwy Weinidog & Prif Chwip ar y pryd, Jane Hutt AS, drwy’r Fforwm Cydraddoldeb Anabledd. Lluniwyd gan yr Athro Debbie Foster ar y cyd â grŵp llywio oedd yn cynnwys pobl anabl a chynrychiolwyr y Fforwm. Roedd yn fraint cael cadeirio’r grŵp llywio a gynhyrchodd adroddiad mor rymus.

Wrth ystyried dros 300 eitem o dystiolaeth yn manylu’r anffafriaeth ac eithrio a wynebwyd gan bobl anabl yn ystod y pandemig, cyflwynodd y grŵp llywio ei adroddiad i’r prif weinidog Mark Drakeford AS. Wrth gydnabod y canlyniadau difrifol, cytunodd i sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd i ystyried argymhellion yr adroddiad a llunio cynllun gweithredu i’w taclo.

Un o gasgliadau allweddol adroddiad Drws ar Glo oedd bod prinder pobl anabl mewn safleoedd dylanwadol wedi cyfrannu at benderfyniadau gyda chanlyniadau negyddol i lawer o bobl anabl. Mae Anabledd Cymru wedi ymgyrchu am gyfnod hir am fwy o gymorth i daclo’r rhwystrau mae pobl anabl yn wynebu wrth sefyll am swyddi etholiadol er sicrhau bod arweinwyr gwleidyddol yn adlewyrchu’r gymdeithas ehangach.

Felly, roeddem yn falch iawn pan luniodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth i sefydlu Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig ac enillodd Anabledd Cymru y cytundeb i weithredu’r cynllun. Penodwyd Philip Westcott yn Swyddog Cyfranogiad Dinesig ac aeth y Gronfa ymlaen i gefnogi dau ymgeisydd anabl yn sefyll yn Etholiadau’r Senedd.

Croesawu aelodau newydd o staff

Yn ogystal â Philip, croesawyd Emma Cooksey fel Swyddog Cyllid a Gweinyddiaeth, Alex Osborne (Swyddog Gwybodaeth) a Leandra Craine (Cydlynydd Cronfa argyfwng Sefydliadau Pobl Anabl). Cynhaliwyd y prosesau recriwtio a sefydlu arlein, gyda phawb yn gweithio gartref yn effeithiol iawn ers eu penodi.    

Daeth Leandra atom fel intern drwy Go Cymru ac roeddem yn falch iawn o allu cynnig lleoliad i 7 myfyriwr anabl drwy gydol y flwyddyn, er bod hynny ar amodau rhithwir. Er mwyn ehangu’r cyfleoedd ar gael, gwnaed cais llwyddiannus i Gwirfoddoli Cymru (WCVA) i gefnogi lleoliadau myfyrwyr o fewn cyrff pob anabl ar draws y wlad.  

Drwy gydol y flwyddyn, parhaodd ein tîm cyfarwyddwyr a staff i weithio’n galed er mwyn mynnu hawliau a chydraddoldeb pobl anabl. Diolch yn arbennig i’r Rheolwraig Polisi a Rhaglenni, Miranda Evans, am arwain y gwaith o sefydlu tîm newydd arlein sydd wedi cydweithio i gyflawni llawer er yr heriau o weithio ar wahân. Diolch hefyd i’r Bwrdd o dan arweinyddiaeth ein cadeirydd, Wendy Ashton, am eu doethineb ac ymroddiad mewn cyfnod anodd iawn.

Dewch â’n Hawliau i Ni!

Rhian Davies  

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members