Mae Anabledd Cymru yn falch o gyflwyno ein Cynllun Strategol newydd, a lansiwyd yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar. Mae’n amlinellu sut rydym yn bwriadu gweithio gyda’n aelodau i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer cymdeithas gynhwysol, deg a dirwystr.
Yn dilyn toriadau yn ein cyllid oherwydd yr argyfwng costau byw, mae’r Cynllun newydd yn deillio o’n hadolygiad strategol a oedd yn cynnwys Cyfarwyddwyr, staff, ac aelodau, yn y gwaith o ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy i Anabledd Cymru.
Gyda gwaith hwyluso gwerthfawr gan ymgynghorwyr gwirfoddol Ymddiriedolaeth Cranfield, roedd yr adolygiad yn cynnwys gweithdai cynllunio strategol gyda Chyfarwyddwyr a staff, ac ymgysylltu â’n haelodau drwy arolwg ar-lein a sesiynau grŵp yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y llynedd.
Dywedodd ein haelodau wrthym fod eu blaenoriaethau ar gyfer Anabledd Cymru yn cynnwys: gweithio gyda Sefydliadau Pobl Anabl ac unigolion sy’n anabl; ymgyrchu a dylanwadu ar bolisïau; yn ogystal ag addysgu’r cyhoedd am faterion anabledd a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Ar gyfer Anabledd Cymru, daethom i’r casgliad fod angen i ni er mwyn bod yn gynaliadwy, gan mai tîm bach o staff rhan-amser sydd gennym yn bennaf, fod yn glir a chanolbwyntio ar ein nodau a’n meysydd arbenigedd y cytunwyd arnynt a manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau drwy gydweithio ag eraill.
Mae rôl Anabledd Cymru fel corff aelodaeth cenedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl yn allweddol i hyn. h.y. grwpiau a mudiadau sy’n cael eu rhedeg a’u rheoli yn gyfansoddiadol gan bobl anabl.
Mae sawl elfen i’r berthynas rhwng AC a Sefydliadau Pobl Anabl sy’n aelodau. Rydym yn cydnabod ein rôl hanfodol o ran adeiladu cymunedau Sefydliadau Pobl Anabl drwy ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a hyfforddiant yn ogystal â gweithredu fel llais cynrychioladol ar lefel genedlaethol.
Yn ei dro, Sefydliadau Pobl Anabl sy’n aelodau fydd yr arbenigwyr arweiniol yn aml iawn ar faterion polisi neu gymunedol penodol a/neu ddarparwyr gwasanaethau fel gwybodaeth, a chyngor a chymorth gan gymheiriaid i bobl anabl ledled Cymru.
Mae hyn yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i gydweithio, rhannu gwybodaeth ac adnoddau, ac ymgyrchu ar y cyd i fanteisio i’r eithaf ar y rhagolygon o gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer cymdeithas gynhwysol, deg a dirwystr.
Drwy ein Cynllun newydd, rydym yn ceisio cyflawni ein nodau strategol drwy gryfhau’r berthynas â’r Sefydliadau Pobl Anabl sy’n aelodau presennol, a chefnogi twf grwpiau newydd sy’n cael eu harwain gan bobl anabl yng Nghymru.
Yn y Flwyddyn Newydd, byddwn yn lansio tudalen we benodol a fydd yn cynnwys Sefydliadau Pobl Anabl sy’n aelodau er mwyn codi proffil eu gwaith gwerthfawr ledled Cymru.
Ar ben hynny, un o’r camau blaenoriaeth yw sicrhau cyllid i sefydlu Fforwm Sefydliadau Pobl Anabl Cymru sy’n dod â grwpiau at ei gilydd i weithredu fel llais unedig ein mudiad, ymgyrchu ar faterion cyffredin, a chefnogi ei gilydd.
Er y bydd ffocws cryf ar ein gwaith gyda Sefydliadau Pobl Anabl, byddwn yn parhau i gyflawni mentrau strategol cenedlaethol sydd o fudd uniongyrchol i aelodau unigol.
Nod y rhain yw datblygu potensial pobl anabl i arwain a sicrhau mwy o gynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol.
Mae’r rhaglenni presennol yn cynnwys Llais Cyfartal Pŵer Cyfartal, Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth, a’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.
Ochr yn ochr ag adeiladu cymunedau Sefydliadau Pobl Anabl, mae’r Cynllun newydd yn tynnu sylw at ein prif weithgareddau eraill sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau aelodau: hyrwyddo’r Model Cymdeithasol o Anabledd, ac ymgyrchu i ddylanwadu ar bolisi ac agweddau cyhoeddus.
Bydd ein Maniffesto newydd, sy’n seiliedig ar safbwyntiau ein haelodau, yn cael ei lansio’n fuan cyn Etholiadau’r Senedd 2026, a bydd yn nodi blaenoriaethau ymgyrchu a pholisi Anabledd Cymru dros y blynyddoedd nesaf.
Mae ein hadolygiad strategol yn parhau, ac rydym yn gweithio ar gynlluniau i helpu i gyflawni ein nodau, gan gynnwys cynaliadwyedd ein cyllid a chyfathrebu’n gyson ag aelodau a rhanddeiliaid.
Elfen bwysig arall yw adolygu strwythur yr aelodaeth, ffioedd a buddion, a byddwn yn cyhoeddi canlyniad hyn yn y Gwanwyn.
Fel sefydliad sy’n adnabyddus am gael ei yrru gan werthoedd, rydym wedi diweddaru’r rhain i adlewyrchu ein hymrwymiad i fod yn ‘feiddgar a diwyro’, yn ‘gynhwysol a dilys’, ac yn ‘ddibynadwy ac ystyriol’ o ran sut rydym yn gweithio ac ym mhopeth a wnawn.
Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus aelodau yn ystod y cyfnod adolygu hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd i gyflawni ein cenhadaeth o adeiladu Cymru fwy cynhwysol, drwy gynrychioli Sefydliadau Pobl Anabl a chydweithio ymhob rhan o gymdeithas.





