Datgloi Bywydau

Rydyn ni mor gyffrous i gyflwyno #DatgloiBywydau!

Dyma brosiect fideo Anabledd Cymru sydd wedi caniatáu inni ddal y materion preifat, bob dydd sy’n wynebu ein haelodau trwy wahanol donnau’r pandemig.

Cafodd y prosiect ei wneud yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru.

Roedd gosod man gwaith diogel ar-lein yn rhoi ciw i’n cyfranogwyr gynnig cofnod o’u bywyd a’u myfyrdodau yn ystod pandemig COVID-19.

Mae’r adnoddau hygyrch i wneud fideos a ddarperir gan dîm Anabledd Cymru, ynghyd â chyflwyno geirfa sy’n benodol i’r diwydiant a phwyslais ar ‘ddiffinio’r dechnoleg’ ac ar annog ymrwymiad i allbwn, wedi meithrin y cyfle i adeiladu sgiliau newydd yn y grŵp, ac mae wedi helpu i greu cynnwys cymhellol a phwerus.

Mae hyn oll wedi cyfrannu at adeiladu ystorfa o gynnwys hunan-fynegiadol sydd wedi’i grefftio yn ddarn hyd nodwedd terfynol gan Dogma Films.

Mae Datgloi Bywydau yn brosiect amserol sydd wedi rhoi cyfle i gyfranogwyr ledled Cymru i rannu eu stori ar adeg lle mae cymaint o bobl anabl wedi teimlo’n ddi-lais.

Gan gynnig mewnwelediadau i ystod amrywiol o brofiadau a chefndiroedd, mae’r ffilm yn addo bod yn drawiadol ond ar yr un pryd yn llawn cymeriad a llawenydd.

Rhannwyd pytiau o’r ffilm ar ein cyfryngau cymdeithasol trwy gydol mis Awst gyda’r fideos yn cyrraedd miloedd o bobl a’r trelar ei hun yn ennill ail-drydar gan yr actor o Gymru, Michael Sheen!

Bydd Datgloi Bywydau – Y Ffilm yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar sianel YouTube Anabledd Cymru ar 17 Medi. Gwyliwch yma.

I wylio pytiau o’r ffilm, ewch draw i’n cyfrif Trydar, Facebook neu YouTube.

Cynhyrchwyd safle blog fel rhan o’r prosiect hwn lle gallwch weld y nifer o flogiau fideo a gyfrannwyd gan y rhai sy wedi cymryd rhan. Mae yna ddigon o gynnwys i bori trwyddo gyda mwy i dod yn fuan.

Ymwelwch â’r blog a mwynhewch!

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members