O Oroesi i Ffynnu: Maniffesto Pobl Anabl 2026-2031

Tudalen flaen maniffesto Anabledd Cymru. Mae logo AC ar y top ac oddi tano, mae effaith papur wedi'i rhwygo yn datgelu'r testun: O Oroesi i Ffynnu. O dan hwn mae llun o grŵp o bobl anabl yn sefyll mewn parc. Ar y gwaelod, mae'r testun yn darllen: Maniffesto Pobl Anabl 2026-2031.

Rydym yn falch o lansio O Oroesi i Ffynnu: Maniffesto Pobl Anabl 2026–2031, galwad feiddgar a chydweithredol am newid wedi’i lunio gan leisiau a phrofiadau pobl anabl ledled Cymru.

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’n haelodau Sefydliadau Pobl Anabl (SPA), ein gweithgor polisi mewnol a mwy na 250 o bobl anabl a gyfrannodd drwy arolygon, ymchwil ymgynghori a grwpiau ffocws, mae’r manifesto hwn yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gyfartal a chynhwysol. Mae’n galw ar wneuthurwyr penderfyniadau i weithredu ar draws pum maes allweddol i hyrwyddo cydraddoldeb, hawliau a chynhwysiant.

O Oroesi i Ffynnu 2026-2031 CYM FINAL.pdf

Dan arweiniad yr egwyddor ‘Dim byd amdano ni hebddo ni’, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod SPA a phobl anabl wrth wraidd gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Mae Anabledd Cymru, y corff cenedlaethol ar gyfer SPA yng Nghymru, yn cynrychioli aelodaeth amrywiol a chroestoriadol sy’n cynnwys 19 o aelodau pleidleisio llawn, grwpiau anabledd ehangach a dros 600 o bobl anabl unigol, y mae eu profiadau byw a’u harweinyddiaeth wedi llunio blaenoriaethau’r manifesto hwn.

Gallwch ei lawrlwytho’r maniffesto mewn sawl fformat isod. Mae pob un yn cario’r un neges graidd: adeiladu Cymru lle mae gan bobl anabl yr adnoddau, yr hawliau a’r cyfleoedd i fyw bywydau llawn ac annibynnol.

Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain a sain

Sut allwch chi gefnogi

  1. Rhannwch y Maniffesto mor bell ac eang â phosibl, rhannwch gyda’ch rhwydweithiau, postiwch amdano ar gyfryngau cymdeithasol, ac anfonwch at ASau
  2. Wrth bostio ar gyfryngau cymdeithasol, tagiwch ni ym mhobman @disabilitywales a defnyddiwch yr hashnodau #ManiffestoAC a #OOroesiIFfynnu. Peidiwch ag anghofio gwneud eich cynnwys yn hygyrch trwy briflythrennu llythyren gyntaf pob gair mewn hashnod, ychwanegu disgrifiadau ALT at luniau a chapsiynau ar fideos
  3. Galwch ar ymgeiswyr/aelodau Senedd presennol neu yn y dyfodol i gwblhau ein harolwg ymrwymiad.
  4. Defnyddiwch ein fframiau cyfryngau cymdeithasol dwyieithog i ddangos eich cefnogaeth i’r Maniffesto yn eich llun proffil. I wneud hyn, cliciwch ar y ddolen hon i ymweld â’r ffrâm, uwchlwythwch lun ohonoch chi’ch hun neu logo eich sefydliad, lawrlwythwch y ffrâm a newidiwch eich llun proffil.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members