I’W RYDDHAU AR UNWAITH
Mae Anabledd Cymru wedi lansio ei Maniffesto 2026–2031, O Oroesi i Ffynnu, ochr yn ochr â cherdyn ymrwymiad newydd a gynlluniwyd i ddwyn pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i gyfrif cyn Etholiadau’r Senedd yn 2026 a thu hwnt.
Wedi’i ddatblygu trwy gyd-gynhyrchu â Sefydliadau Pobl Anabl (SPA) gan gynnwys arolygon, grwpiau ffocws, a chyfraniadau gan fwy na 250 o bobl anabl ledled Cymru, mae’r maniffesto yn nodi pum Galwad am Newid brys a fyddai o’r diwedd yn dechrau mynd i’r afael â’r rhwystrau systemig y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
Mae pobl anabl yng Nghymru yn parhau i brofi allgáu, gwasanaethau anhygyrch, gorfodi hawliau gwan, ac effeithiau parhaus cyni, y pandemig a phwysau costau byw sy’n gwaethygu. Mae hawliau’n parhau i fod yn ddamcaniaethol yn hytrach nag yn real yn ymarferol. Mae’r neges gan bobl anabl yn glir: rydym yn cael ein gwthio i fodd goroesi.
Pum Galwad am Newid
Mae’r Galwadau hyn yn cynrychioli’r camau gweithredu lleiaf sydd eu hangen ar bobl anabl yng Nghymru i symud o oroesi i ffynnu:
- Ymgorffori’r CCUHPA (UNCRDP) yng Nghyfraith Cymru – cyflawni hawliau gorfodadwy, nid dyheadau.
- Cyflwyno Cynllun Hawliau Pobl Anabl Tymor Hir Cadarn – gan gynnwys Gweinidog dros Bobl Anabl a buddsoddiad parhaus mewn SPA.
- Hyrwyddo Arweinyddiaeth a Llywodraethiant Anabl – sicrhau bod pobl anabl yn arwain y broses o wneud penderfyniadau.
- Gwarantu’r Hawl i Fyw’n Annibynnol – gyda diwygio ar draws systemau gofal, tai ac iechyd.
- Datganoli Lles a Budd-daliadau i Gymru – creu system deg, urddasol, wedi’i chyd-gynhyrchu sy’n cyd-fynd â’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Ffurflen Ymrwymiad Anabledd Cymru
Mae Anabledd Cymru hefyd wedi lansio Ffurflen Ymrwymiad gyhoeddus newydd, gan wahodd pob plaid wleidyddol a phob ymgeisydd i:
- nodi’n glir beth yw eu safbwynt ar bob un o’r pum Galwad
- dangos bod hawliau pobl anabl yn flaenoriaeth
- cofnodi eu hymrwymiadau’n gyhoeddus
- sicrhau y gall pleidleiswyr anabl gymharu ymatebion yn hawdd
Bydd yr ymatebion yn cael eu diweddaru drwy gydol yr ymgyrch a’u defnyddio ar ôl yr etholiad i fonitro’r ddarpariaeth a’r gweithrediad. Fe’i cynlluniwyd i gefnogi pobl anabl wrth ymgysylltu ag ymgeiswyr ar garreg y drws, mewn hustyngau, digwyddiadau cymunedol, ac ar-lein.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae pobl anabl yng Nghymru yn parhau i wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad at hawliau sylfaenol, o fyw’n annibynnol i gyflogaeth deg. Heb ymgorffori deddfwriaethol mae ein hawliau’n parhau i fod yn ddyheadol yn hytrach na’n rhai y gellir eu gorfodi. Mae’r maniffesto yn nodi camau ymarferol i symud o ‘oroesi i ffynnu’, gan sicrhau nid yn unig y caiff pobl anabl eu cefnogi ond eu dathlu.
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:
“Gweledigaeth Anabledd Cymru yw cymdeithas gynhwysol, deg a di-rwystr. Mae pobl anabl yng Nghymru yn haeddu mwy na goroesi yn unig. Rydym yn haeddu’r hawl i lwyddo a ffynnu go iawn.
Yn dilyn yr Adroddiad Ymchwiliad Covid-19 Modiwl 2 diweddar a feirniadodd fethiant y llywodraeth i werthfawrogi lefel y risg y mae pobl anabl yn ei hwynebu gan arwain at gyfraddau marwolaethau cynyddol a gwrthdroi hawliau, mae’r maniffesto hwn yn alwad am weithredu gan bob plaid wleidyddol i ymrwymo i newid go iawn. Gyda’n gilydd, gallwn symud o oroesi i ffynnu.”
Mae Anabledd Cymru yn annog pob plaid wleidyddol i fabwysiadu’r pum galwad hyn a gweithio gyda ni i adeiladu Cymru lle mae hawliau’n cael eu cynnal, lleisiau’n cael eu clywed, a lle mae ffynnu’n safonol nid yn eithriad.
Dywedodd Natalie Jarvis, Swyddog Polisi ac Ymchwil Anabledd Cymru:
“Fel rhywun a oedd yn rhan o gyd-gynhyrchu’r maniffesto hwn ochr yn ochr â Sefydliadau Pobl Anabl a lleisiau cannoedd o bobl anabl ledled Cymru, rwyf wedi clywed straeon am flinder, rhwystredigaeth ac anghyfiawnder ond hefyd am obaith, gwydnwch a gweledigaeth.
Mae pobl anabl yn gwybod yn union beth sydd angen newid. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw’r ewyllys wleidyddol i weithredu ac i bleidiau ymrwymo i’n Galwadau o fewn eu maniffestos eu hunain cyn yr etholiadau. Dyna sut maen nhw’n dangos eu bod nhw’n sefyll gyda ni ac yn bwriadu gwneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i bobl anabl fyw bywydau llawnach a gwell. Mae’r Galwadau hyn yn gyraeddadwy ac mae’n hen bryd iddynt gael eu rhoi ar waith.”
NODIADAU I OLYGYDDION
Anabledd Cymru yw corff aelodaeth cenedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru sy’n ymdrechu dros hawliau pob person anabl.
Datblygwyd y maniffesto drwy arolygon, grwpiau ffocws, ac ymgynghori â phobl anabl ledled Cymru.
Roedd y lansiad ar-lein yn cynnwys cyflwyniad o’r Maniffesto ac ymatebion gan baneli sy’n cynrychioli Sefydliadau Pobl Anabl a phleidiau gwleidyddol.
Darllenwch y maniffesto yn llawn yma.
Cyswllt y Cyfryngau: info@disabilitywales.org | 02920 887325





