Blwyddyn Dan Sylw: Adolygiad y Prif Weithredwr

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Er bod hon wedi bod yn flwyddyn anodd, nid yw ein diben wedi newid: hybu hawliau pobl anabl ac adeiladu cymdeithas gynhwysol, deg, a dirwystr. Rydym wedi wynebu bygythiadau uniongyrchol wrth gryfhau ein sefydliad a buddsoddi mewn arweinyddiaeth, cynrychiolaeth a chyfranogiad.

Arweiniodd pwysau ariannol, ailstrwythuro ac adolygiad strategol at ansicrwydd. Er hyn, fe wnaethom ailadeiladu ein sylfeini, egluro ein cyfeiriad a sicrhau cyllid, gan alluogi ymatebion cyflymach, mwy effeithiol i heriau sy’n dod i’r amlwg.

Profodd y capasiti newydd hwn yn hanfodol pan gynigiodd Llywodraeth y DU ddiwygiadau lles. Achosodd y cynigion gryn dipyn o ofn, gan fygwth incwm, annibyniaeth a llesiant 190,000 o bobl sy’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yng Nghymru.

Daeth Anabledd Cymru yn llais cenedlaethol y gellir ymddiried ynddo i Sefydliadau Pobl Anabl sy’n aelodau ohono, pobl anabl a phobl sy’n gwneud penderfyniadau. Roedd yr aelodau’n dibynnu ar ein gwybodaeth hygyrch, glir er mwyn deall, rhannu a gweithredu ar gynigion cymhleth.

Ar y cyd â Sefydliadau Pobl Anabl, fe wnaethom gydlynu ymateb cenedlaethol: sicrhau cyllid torfol ar gyfer cerbyd hygyrch er mwyn ymgysylltu’n uniongyrchol ag ASau o Gymru yn San Steffan, gweithio gydag Aelodau o’r Senedd, darparu gwybodaeth ar gyfer ymatebion Llywodraeth Cymru a herio ymgyngoriadau anhygyrch. Cryfhaodd yr eiriolaeth hon leisiau pobl anabl Cymru a helpu i dynnu toriadau arfaethedig i’r Taliadau Annibyniaeth Personol o’r Bil, gan osgoi colled flynyddol bosibl o £4,000–£5,000 i bob un sy’n derbyn y taliad.

DW staff and members standing in front of Big Ben in London on a sunny day. They all attended the Mass Lobby against disability benefit cuts.

Fe wnaethom hefyd siapio newid hirdymor drwy Dasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru. Ym mis Rhagfyr 2025, cyhoeddodd Cymru ei chynllun 10 mlynedd cyntaf ar gyfer Hawliau Pobl Anabl. Yn dilyn lobïo parhaus, sefydlwyd Bwrdd Cynghori Allanol er mwyn cadw pobl anabl yn ganolog i gyflawni ac atebolrwydd.

Eleni atgyfnerthwyd ein cred bod cael cynrychiolaeth fwy o bobl anabl mewn swyddi â grym yn hanfodol er mwyn lleihau’r bygythiadau rydym yn eu hwynebu. Mae’r egwyddor hon yn llywio ein buddsoddiad mewn arweinyddiaeth, cynrychiolaeth a chyfranogiad.

Drwy Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (PCLlC), sy’n cael ei ddarparu gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru, a Stonewall, rydym wedi cefnogi 14 o gyfranogwyr anabl ym maes arweinyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddol. Rydym yn dathlu llwyddiant pob un o’r rhai sydd wedi cael ei fentora gennym, ond rydym yn arbennig o falch fod un cyn aelod wedi cael ei ethol i’r Senedd. Fel y dywedodd un o’r rhai sy’n cael ei fentora:

“Dyna beth mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn ei wneud. Mae’n fwy na dim ond cael sedd wrth y bwrdd -​ mae’n ymwneud â chael yr hyder i siarad ar ôl i chi gyrraedd yno. Oherwydd pan fydd rhywun yn credu ynoch chi, mae’n newid rhywbeth. Mae’n gwneud i chi gamu ymlaen yn hytrach nag yn ôl. Ac mae’n gwneud i chi sylweddoli eich bod chi’n perthyn yn yr ystafell.”

DW Chief Executive, Rhian Davies, and EPEV Programme Coordinator, Linus Harrison, with mentees in front of an orange and blue balloon arch with EPEV picked out in gold lettered balloons. Everyone is smiling at the camera, delighted to be celebrating their achievements as part of Equal Power Equal Voice.


Tyfodd ein prosiect Mynediad at Wleidyddiaeth rwydwaith o 38 o bobl anabl, nad ydynt yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol, er mwyn cefnogi cymheiriaid ac arweinwyr y dyfodol. Cydgynhyrchodd y Rhwydwaith “gwirioneddol ysbrydoledig a llawn egni yn bersonol” y Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth, a lansiwyd yn y Senedd â chamau ymarferol ar gyfer pleidiau cynhwysol, mwy hygyrch. Rydym yn annog pob un o’r prif bleidiau yng Nghymru i fabwysiadu’r Siarter. Bydd rhoddion hael er cof am ein hannwyl ffrind, ymgyrchydd a chyn gydweithiwr Graham Findlay yn cryfhau’r gwaith hwn, ac rydym yn diolch o galon i’w deulu am hyn.

Access to Politics Network Members and Senedd Members are in a group holding the Charter, looking delighted that it's out in the world. Present are Access to Politics Project Officer Kat Watkins, Network members Briallen Symons-East, Lee Ellery, Paul Allchurch, Lisa Pritchard & Michael Whittaker, along with Members of the Senedd at the time.
Photo by Natasha Hirst photography.

Ar ran Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ail-lansio’r Gronfa Mynediad i Swydd Etholedig er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau a wynebir gan ymgeiswyr anabl. Fe wnaethom gefnogi pedwar ymgeisydd Seneddol a byddwn yn hyrwyddo’r Gronfa cyn etholiadau lleol 2027 er mwyn annog mwy o bobl anabl i ymgeisio am sedd ar gynghorau sir a chymuned.

Cyn etholiad y Senedd, rhoddodd Anabledd Cymru flaenoriaethau’r aelodau ar yr agenda wleidyddol. Roedd ein maniffesto, O Oroesi i Ffynnu, a gynhyrchwyd ar y cyd â’r aelodau, yn seiliedig ar 57 o ymatebion gan bobl anabl a sefydliadau pobl anabl ledled Cymru. Fe wnaeth offer ymgyrchu hygyrch helpu pobl anabl i ymgysylltu ag ymgeiswyr a’u dal yn atebol.

Graffeg gwybodaeth o'r enw 'Effaith Ar-lein', sy'n dangos 1.4 mil o ddilynwyr newydd ar y cyfryngau cymdeithasol, 1.1 miliwn o ymweliadau â'r wefan, ac 500,000 o argraffiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cyrhaeddodd ein hadnoddau ar-lein poblogaidd filoedd o bobl, gan helpu i egluro sefyllfaoedd gwleidyddol cymhleth. Roedd yr hystingau cenedlaethol yn golygu bod pobl anabl yn gallu gofyn cwestiynau i’r cynrychiolwyr yn uniongyrchol. Fe wnaeth hyn sicrhau ymrwymiad gan nifer o bleidiau i weithredu’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl ac ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. Mae’r ymrwymiadau hyn wedi bod yn sail i’n trafodaethau â Gweinidogion newydd Llywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd a’n cynlluniau ar gyfer eu galw i gyfrif am gyflawni a gweithredu.

Drwy’r Gronfa Gynghori Sengl, fe wnaethom ffurfio partneriaeth â Chyngor ar Bopeth yng Ngwent a Chwm Taf Morgannwg er mwyn gwella mynediad at gyngor. Byddwn yn darparu hyfforddiant ac adnoddau Model Cymdeithasol mewn 11 o swyddfeydd, gan helpu rhagor o bobl anabl i sicrhau eu hawliau a’u hawliadau. Ein nod yw defnyddio’r dull gweithredu hwn ledled Cymru.

Graffig gwybodaeth o'r enw 'Strwythur Aelodaeth Newydd', sy'n tynnu sylw at fodel aelodaeth wedi'i adolygu, aelodaeth am ddim i bawb, tudalen we aelodaeth newydd ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl, a ychwanegiad o un Sefydliad Pobl Anabl newydd, tri aelod cysylltiedig, a dau gefnogwr.

Yn dilyn ein hadolygiad strategol, fe wnaethom lansio cynllun wedi’i ddiweddaru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025 a diweddaru ein strwythur aelodaeth er mwyn gwasanaethu a thyfu ein 66 o sefydliadau a mwy na 500 o aelodau unigol, gan gynnwys gwneud yr aelodaeth yn ddi-dâl i bawb. Fe wnaeth ein tri gweithgaredd creiddiol hybu cynnydd er gwaethaf amgylchiadau anodd: hyrwyddo’r Model Cymdeithasol o Anabledd, ymgyrchu er mwyn dylanwadu ar bolisi ac agweddau, ac adeiladu cymuned drwy Sefydliadau Pobl Anabl ac ymgyrchwyr anabl.

Diolch o galon i’n Bwrdd am ei gefnogaeth a’i ddoethineb, ac i’n tîm o ddeg am weithio’n galed i sicrhau Cymru sy’n fwy cynhwysol. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cryfhau ein mudiad, datblygu arweinyddiaeth pobl anabl a dal pobl sy’n gwneud penderfyniadau yn atebol am ddarparu hawliau a chydraddoldeb parhaus.

Rhian Davies

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members