Trwy ein prosiect Cronfa Cyngor Sengl, mae Anabledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â swyddfeydd Cyngor ar Bopeth ledled Gwent a Chwm Taf Morgannwg i gryfhau mynediad at gyngor a chymorth i bobl anabl.
Rydym yn gweithio gyda staff rheng flaen a gwirfoddolwyr i hyrwyddo y Model Cymdeithasol o Anabledd, gan helpu i gryfhau dealltwriaeth a chefnogi dulliau mwy cynhwysol o ddarparu gwasanaethau. Bydd y prosiect hefyd yn gwerthuso effaith y gwaith hwn ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus.
Ffocws allweddol y prosiect yw gwella hygyrchedd, gwelededd a chydlynu gwybodaeth a deunyddiau Cyngor ar Bopeth, gan ei gwneud hi’n haws i bobl anabl ddod o hyd i’r cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnynt a’u cael.
Rydym hefyd yn gweithio i gryfhau llwybrau cyfeirio rhwng Anabledd Cymru a Chyngor ar Bopeth, gan greu llwybrau hygyrch, effeithlon a chydlynol i gyngor a chymorth. Drwy ddatblygu perthnasoedd cryfach a phrosesau cyfeirio cliriach, ein nod yw helpu i sicrhau bod pobl anabl yn derbyn y cymorth cywir ar yr amser cywir.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu a Chynhwysiant Anabledd, Alex Harrison, drwy e-bostio alex.harrison@disabilitywales.org.





