Datganiad i’r Wasg: Pecyn Cymorth a Chyllid Newydd yn Grymuso Pobl Anabl yng Nghymru i Sefyll mewn Etholiadau Llywodraeth Leol

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

I’w ryddhau ar unwaith

Mae Anabledd Cymru yn cefnogi pobl anabl ledled y wlad sydd eisiau dylanwadu ar ddyfodol democratiaeth yng Nghymru drwy lansio’r Pecyn Cymorth Mynediad at Wleidyddiaeth newydd a cham nesaf Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru mewn digwyddiad ar-lein ddydd Iau 24 Medi.

Mae pobl anabl yn dal i gael eu tangynrychioli yn y byd gwleidyddol. Mae’r pecyn cymorth a’r gronfa hon yn gweithio ochr yn ochr i gael gwared ar rai o’r rhwystrau y mae ymgeiswyr anabl yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad cyfartal at gyfranogiad democrataidd.

Cafodd y Pecyn Cymorth hwn ei gyd-gynhyrchu ar y cyd ag aelodau o’r Rhwydwaith Mynediad at Wleidyddiaeth ar Lawr Gwlad a’i lywio gan eu profiad personol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Ei nod yw galluogi pobl anabl i ddygymod â byd cymhleth gwleidyddiaeth; boed hynny drwy sefyll am swydd yn cynrychioli plaid wleidyddol, fel ymgeisydd annibynnol neu drwy ymgyrchu i wella hawliau pobl anabl.

Bydd y ddogfen gam wrth gam yn rhoi’r cyngor ymarferol sydd ei angen ar bobl anabl ac yn eu helpu i fagu hyder wrth ddilyn eu huchelgais wleidyddol. Mae’r ddogfen yn tynnu sylw ac yn mynd i’r afael â rhai camsyniadau ynghylch sefyll am swydd wleidyddol, a’r nod yw hwyluso taith pob darpar wleidydd.

Mae’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn rhoi cymorth arionnol i ymgeiswyr anabl sydd â chostau sy’n gysylltiedig ag amhariad. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, cynorthwywyr personol, trafnidiaeth hygyrch a thechnoleg gynorthwyol.

Mae’r Gronfa ar gael yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2027, o’r adeg y caiff unigolyn ei gyhoeddi’n ffurfiol fel ymgeisydd hyd nes y mae canlyniadau’r etholiad yn cael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr i wneud cais yn gynharach er mwyn gallu rhoi cymeradwyaeth dros dro ac asesu anghenion cymorth ymlaen llaw. Mae cymorth ar gael i ddarpar ymgeiswyr ac ymgeiswyr sydd wedi’u cadarnhau sy’n sefyll dros blaid wleidyddol neu fel ymgeiswyr annibynnol mewn etholiadau i’r prif gynghorau a chynghorau cymunedol.

Mae’r ddau brosiect wedi cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent yn amhleidiol.

Dywedodd Siân Gwenllian, Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: “Dylai pob person anabl sydd eisiau sefyll am swydd etholedig yng Nghymru gael yr hyder a’r gefnogaeth ymarferol i wneud hynny. Bydd lansio’r Pecyn Mynediad at Wleidyddiaeth, ochr yn ochr â cham nesaf Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru, yn helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n llwyddo i atal pobl yn rhy aml o lawer.

“Nid mater o degwch yn unig yw hyn; mae’n ymwneud â chryfhau ein democratiaeth. Mae cynghorau a chymunedau’n elwa pan fo’r bobl sy’n eu cynrychioli yn adlewyrchu holl amrywiaeth Cymru. Byddwn yn eich annog i edrych ar ba gymorth sydd ar gael a dechrau’r sgwrs.”

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru: “Mae’n hanfodol i ddemocratiaeth bod mwy o bobl anabl yn cael eu cynrychioli mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol, gan ddefnyddio eu profiad bywyd i ddylanwadu ar benderfyniadau a sicrhau bod polisïau ac adnoddau’n diwallu anghenion gwirioneddol cymunedau. Drwy lansio’r Pecyn Cymorth a cham nesaf y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, mae Anabledd Cymru yn falch o fod ar y blaen wrth sicrhau mwy o fynediad at ymgysylltiad gwleidyddol a chefnogi datblygiad pobl anabl fel arweinwyr y dyfodol.”

Dylai pobl anabl sydd â diddordeb fynd i wefan Anabledd Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Nodiadau i olygyddion

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members