Mae Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth yma, canllaw beiddgar ac ymarferol i bleidiau gwleidyddol gefnogi cyfranogiad, cynrychiolaeth a dylanwad ystyrlon pobl anabl mewn bywyd gwleidyddol ledled Cymru.
Wedi’i gynhyrchu ar y cyd ag aelodau o Rwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth, ac wedi’i lywio gan waith arloesol gan Inclusion Scotland ochr yn ochr â chanllawiau cenedlaethol allweddol, mae’r Siarter yn nodi camau clir, cyraeddadwy i bleidiau gwleidyddol gael gwared ar rwystrau a chreu strwythurau plaid mwy cynhwysol.
Mae pobl anabl yn ffurfio un rhan o bump o boblogaeth Cymru, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu mewn rolau etholedig a gwneud penderfyniadau. Mae’r gwaharddiad parhaus o bobl anabl o fannau gwleidyddol yn cyfyngu ar ansawdd, perthnasedd ac effaith gwneud penderfyniadau cyhoeddus. Mae’r Siarter hon yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwnnw’n uniongyrchol.
Mae Anabledd Cymru yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i weithredu’r Siarter. Drwy weithredu nawr, gall pleidiau chwarae rhan hanfodol wrth greu democratiaeth fwy teg, cynhwysol a chynrychioliadol yng Nghymru.





