Datganiad i’r Wasg: Lansiad Cronfa ar gyfer Ymgeiswyr Anabl yn Etholiadau Cynghorau Lleol 2022

Disability Wales logo

Mae Anabledd Cymru yn croesawu’r datganiad heddiw gan Rebecca Evans, gweinidog cyllid a llywodraeth leol, yn agor ail gymal Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru. 

Yn awr bydd y Gronfa’n agored i bobl anabl sydd am ymgeisio i fod yn gynghorwyr lleol yn etholiadau Llywodraeth Leol 2022. Bydd yn agored i rai sydd am gynnig i fod yn gynghorwyr i wasanaethau cynghorau cymuned a threfi, ynghyd ag unigolion yn sefyll mewn etholiadau bwrdeistrefi, dinasoedd a siroedd.  

Cymru yw’r genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl yn sefyll ar y lefel ddemocratiaeth hon.

Rheolir y gronfa gan Anabledd Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig cymorth ariannol i bobl anabl tuag at gostau addasiadau rhesymol i daclo rhwystrau cysylltiedig a nam byddant yn wynebu wrth sefyll mewn etholiad.

Bydd yn talu am gymorth ymarferol er galluogi pobl anabl i fod yn rhan lawn o’r broses wleidyddol. Bydd yn cynnwys addasiadau rhesymol er galluogi pobl anabl i gystadlu ar amodau teg yn erbyn ymgeiswyr nid-anabl, ond nid costau ymgyrchu cyffredinol.

Dywedodd Rhian Davies, prif weithredwraig Anabledd Cymru:

“Mae Anabledd Cymru yn falch iawn o weithio i gefnogi pobl anabl yn sefyll yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Bydd llawer o ymgeiswyr byddar neu anabl yn wynebu costau ychwanegol wrth ymgyrchu e.e. cymorth trafnidiaeth, cyfathrebu neu offer. Bydd y gronfa’n helpu i dalu’r costau hynny a dileu rhai o’r rhwystrau bydd pobl anabl yn wynebu wrth sefyll mewn etholiadau.

Mae lansio’r Gronfa yng Nghymru yn garreg filltir bwysig ym maes cydraddoldeb anabledd wrth ehangu hawliau i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd a sicrhau bod y rhai a etholir i gynrychioli ein cymunedau yn adlewyrchu amrywiaeth y bobl yn y cymunedau hynny.”

Dylai pobl anabl sydd â diddordeb mewn gwneud cais i’r gronfa ddarllen yr wybodaeth ar wefan Anabledd Cymru neu anfon ebost at accesstopolitics@disabilitywales.org

Ar ôl eu derbyn, paratoir fel ceisiadau anhysbys i’w hystyried gan banel yn cynnwys unigolion gyda phrofiad o fyw gyda nam a gwneud addasiadau rhesymol. 

Nodiadau i olygyddion

Manylion pellach a threfnu cyfweliadau gyda chynghorwyr anabl, aelodau’r panel pennu a staff Anabledd Cymru, cysylltwch â Philip.westcott@disabilitywales.org

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members