Newyddion

A black and white photo of Simon Green holding a sign that says Don't disable our future

Teyrnged i’r ymgyrchydd hawliau anabledd, Simon Green

Rydym wedi ein syfrdanu gan golled Simon Green, yr ymgyrchydd hawliau anabledd a oedd yn aelod hir-amser o’n Bwrdd Cyfarwyddwyr yn Anabledd Cymru. Roedd effaith Simon yn enfawr, ac fel Cadeirydd Clymblaid Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr fe ymgyrchodd yn ddiflino am well mynediad a chefnogaeth o ran gwasanaethau lleol yn ogystal ag eiriol dros […]


Llun o pob un o'r hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl uwchben ysgrifen du ar gefndir gwyn sy'n dweud Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Gadewch i ni siarad am gyflogaeth pobl anabl. Yn draddodiadol, mae cyfraddau cyflogaeth yn sylweddol is ar gyfer pobl anabl na phobl nad ydynt yn anabl. Mae ffigurau hyd at fis Mawrth 2020 yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru yn 50%, o gymharu ag 81% […]


Logo 50 mlwyddiant AC uwchben ysgrifen coch ar gefndir golau sy'n dweud: Arwyddo addewid Amser i Newid. Mae ysgrifen du oddi tano sy'n dweud, Newid y ffordd rydym yn meddwl a gweithredu o amgylch iechyd meddwl yn y gwaith.

Arwyddo addewid Amser i Newid

Ddydd Llun 7 Chwefror 2022, roeddem yn falch o lofnodi addewid cyflogwr Amser i Newid i newid y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithredu o amgylch iechyd meddwl yn y gwaith. Drwy lofnodi’r addewid, rydym yn ymuno â channoedd o sefydliadau i herio stigma iechyd meddwl. Llofnodwyd yr addewid mewn digwyddiad mewnol lle […]


Testun gwyn ar gefndir brown sy'n dweud: Rydym yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. #DiwrnodCofiorHolocost / 27 Ionawr. Mae llun o gannwyll wedi'i chynnau wrth ymyl y testun

Diwrnod Coffa’r Holocost 2022

Heddiw yw Diwrnod Coffa’r Holocost, diwrnod i nodi 77 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz a chyfle i gofio am bawb a fu farw yn yr Holocost a hil-laddiadau eraill ledled y byd. Roedd pobl anabl ymhlith y rhai gafodd eu targedu gyntaf gan y gyfundrefn Natsïaidd, gyda channoedd o filoedd yn destun sterileiddio gorfodol. Amcangyfrifir bod […]


Logo Anabledd Cymru ar gefndir gwyrddlas. Mae ysgrifen du oddi tano sy'n dweud Blwyddyn dan sylw, adroddiad y Prif Weithredwraig

Anabledd Cymru: Blwyddyn dan sylw

Pan ddigwyddodd y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, arafodd y byd; tawel oedd strydoedd a swyddfeydd a seibiwyd cyfleoedd i gymdeithasu mewn person. Ond wrth i Anabledd Cymru symud i weithio ar-lein ac wrth i’n tîm bach ehangu, gan recriwtio pobl o bob rhan o Gymru, aeth ein gwaith o nerth i nerth. […]


Ysgrifen du ar gefndir gwyn o dan logo Anabledd Cymru. Mae'r ysgrifen yn dweud: Dweud eich dweud, adolygiad Anabledd Cymru i mewn i'r UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru

Dweud eich dweud: Adolygiad AC o’r UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru

Annwyl Aelodau, Rydym yn cynnal adolygiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (UNCRDP) a hawliau anabledd yng Nghymru. Mae’n bwysig i ni ein bod yn clywed gan gynifer o bobl anabl â phosibl ar gyfer hyn felly rydym yn cynnal arolwg i bobl rannu eu profiadau a sicrhau bod lleisiau pobl anabl […]


Disability Wales logo

Galwad am dystiolaeth: Adolygu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru

Mae Anabledd Cymru yn adolygu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru (UNCRDP) ac rydym yn chwilio am dystiolaeth am yr UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru.  Beth yw’r UNCRDP?  Mae CRDP yn gytundeb hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 2006. Cadarnhaodd y DU (cytuno i ddilyn) CRDP yn 2009. Gallwch ddysgu […]


#UnlockedLives logo in black against a bright yellow background. The logo shows a white cartoon of a video camera set in a black circle with the project title in black writing underneath

Datgloi Bywydau – y ffilm

Datganiad i’r Wasg Anabledd Cymru i lansio ‘Datgloi Bywyday’, ffilm sy’n cyfleu profiadau pobl anabl trwy wahanol donnau’r pandemig Datgloi Bywydau yw’r prosiect fideo Anabledd Cymru a wnaed yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru. Yn darlledu am y tro cyntaf mewn digwyddiad ar-lein ddydd Gwener 17eg o Fedi am […]


White text on a blue/green background that reads: Working as an intern at Disability Wales. There is an orange speech bubble underneath the title with white text in it that reads: It has taught me that, whilst there are many barriers for disabled people, there are also a wealth of opportunities largely fuelled by the Social Model of disability.

Working as an intern at Disability Wales: Alex’s experience

Who am I? I’m Alex, I have recently graduated from Swansea University with a First in Business Management, and I will be studying an MSc in Strategic Marketing from September 2021. I am originally from Maidenhead in Berkshire, South-East England. In my spare time I enjoy reading, hiking, eating out and watching football. I am […]


Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members