Diwrnod Cofio’r Holocost 2025

Canwyll wedi'i oleuo yn erbyn cefndir tywyll. Oddi tano mae ysgrifen gwyn mewn siap hirsgwar piws sy'n dweud 'Rydym yn nodi Diwrnod Coffa'r Holocost'. Yn y gornel dde isaf mae hashnod a dyddiad #DiwrnodCoffarHolocost 27 Ionawr. Yn y gornel chwith isaf mae logo'r Holocaust Memorial Trust.

Heddiw yw Diwrnod Coffa’r Holocost, amser i nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz a chyfle i gofio am bawb a fu farw yn yr Holocost a hil-laddiadau eraill ledled y byd.

Roedd pobl anabl ymhlith y rhai gafodd eu targedu gyntaf gan y gyfundrefn Natsïaidd, gyda channoedd o filoedd yn destun sterileiddio gorfodol. Amcangyfrifir bod chwarter miliwn o bobl anabl wedi’u lladd yn y gwersylloedd T4.

Mae heddiw yn gyfle i gofio’r pobl hynny. 

Drwy thema eleni – ‘Ar Gyfer Dyfodol Gwell’, mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn annog pawb i ddysgu o’r ac am y gorffennol ac ystyried pa gamau y gallwn eu cymryd i greu dyfodol gwell.

O herio rhagfarn, i annog eraill i ddysgu am yr Holocost a hil-laddiadau mwy diweddar, mae llawer o gamau y gallwn eu cymryd i greu dyfodol gwell. Mae gan Ymddiriedolaeth HMD restr o awgrymiadau yn barod i’ch helpu i ddechrau arni.

Darganfyddwch fwy am y thema.

Mae’r thema yn cyd-fynd â’n gwerth craidd yma yn AC i ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb pobl anabl fel bod y byd yn lle y gallwn ffynnu, nawr ac yn y dyfodol. Mae pobl anabl yn aml yn cael eu hystyried yn llai na, rydym yn destun piti a gwahaniaethu ac yn cael ein trin â gelyniaeth. Mae’n hanfodol bod pobl yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â’r agweddau negyddol hyn a chwalu’r rhwystrau sy’n ein hanablu.


Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn gwahodd aelodau’r gymuned i oleuo canwyll yn eu ffenestri am 4yh heno, Ionawr 27, i:

  • gofio y rhai a lofruddiwyd am bwy oeddynt
  • sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr Holocost, rydyn ni wedi creu rhestr o ddolenni ac adnoddau isod i sicrhau bod pobl anabl yn rhan o’r cofio ac arwyddocâd y diwrnod hwn.

A crowd of wounded war veterans and other disabled people gathered beside an army tank. Tall walls enclose the space and a guard / watch tower is seen in the background

Yn anffodus, nid yw’r gweithredoedd ofnadwy o erledigaeth a ysgogwyd gan wahaniaethu wedi’u cadw ar dudalennau hanes. Felly gadewch i ni gofio’r 250,000+ o bobl anabl a gafodd eu lladd, a sefyll gyda’n gilydd yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw a phob dydd.

Dolenni ac adnoddau

Os ydych yn ymwybodol o unrhyw adnoddau hygyrch am yr Holocost, anfonwch nhw atom ni. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon gyda dolenni ac adnoddau defnyddiol.

Rhaid inni fyth anghofio.

Troseddau casineb

Ar Ddiwrnod Coffa’r Holocost, mae’n bwysicach nag erioed i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb.

Gallwch riportio troseddau casineb, gan gynnwys troseddau casineb anabledd, i Gymorth i Ddioddefwyr neu’r heddlu.

Mae Adrodd Casineb Cymru, sy’n cael ei redeg gan Gymorth i Ddioddefwyr, yma i’ch cefnogi. Gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members