Dweud eich dweud: Adolygiad AC o’r UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru

Ysgrifen du ar gefndir gwyn o dan logo Anabledd Cymru. Mae'r ysgrifen yn dweud: Dweud eich dweud, adolygiad Anabledd Cymru i mewn i'r UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru

Annwyl Aelodau,

Rydym yn cynnal adolygiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (UNCRDP) a hawliau anabledd yng Nghymru.

Mae’n bwysig i ni ein bod yn clywed gan gynifer o bobl anabl â phosibl ar gyfer hyn felly rydym yn cynnal arolwg i bobl rannu eu profiadau a sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed.

Datgelodd ein hymchwil maniffesto nad oedd 76% o’r bobl anabl y gwnaethom siarad â nhw yn credu y byddai hawliau anabledd yng Nghymru yn gwella dros y 5 mlynedd nesaf ac yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bwriad i ymgorffori UNCRDP yng Nghyfraith Cymru.

Rydym am ddarganfod beth yw’r sefyllfa ar gyfer hawliau anabledd yng Nghymru a pha mor bell y mae Llywodraethau Cymru a’r DU ar hyn o bryd yn cyflawni eu dyletswyddau i bobl anabl.

Gallwch ddod o hyd i’r arolwg mewn sawl fformat isod. Os oes angen unrhyw help arnoch i gwblhau’r arolwg, cysylltwch â ni ar megan.thomas@disabilitywales.org neu ffoniwch ni ar 029 20887325.

Arolwg Cymraeg (Dolen SurveyMonkey)

Arolwg Saesneg (Dolen Survey Monkey)

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members