Ydych chi’n angerddol am hawliau a chydraddoldeb anabledd? Oes gennych chi syniadau creadigol a all symud ein sefydliad ymlaen a rhoi llais cryfach i bobl anabl ledled Cymru? Mae’r dyfodol yn gyffrous yma yn Anabledd Cymru a gallech chi fod yn rhan ohono trwy ymgeisio i fod yn aelod penodedig o’r bwrdd.
Anabledd Cymru (AC) yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru, yn ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb pobl anabl. Trwy ymgeisio i fod yn aelod penodedig o’r bwrdd, gallwch helpu i lunio ein dyfodol.
Rydyn ni angen lleisiau newydd i hyrwyddo a lobïo newid ac felly rydym yn chwilio am ystod eang o sgiliau a phrofiadau ar y Bwrdd. Fel sefydliad, rydym am adlewyrchu’r gymuned gyfan o bobl anabl yng Nghymru.
Ein nod fel Sefydliad Pobl Anabl yw dangos arfer da mewn llywodraethu. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd cefnogol a chwbl gynhwysol sy’n galluogi Cyfarwyddwyr i ffynnu yn ogystal â chynyddu eu doniau trwy ystod o gyfleoedd.
*Sylwch, mae’r rolau hyn yn agored yn benodol i bobl anabl.
Pam ddylech chi wneud cais?
Angen ychydig eiriau o anogaeth cyn cyflwyno’ch cais? Gwyliwch y fideo byr hwn i glywed rhai o’n Cyfarwyddwyr presennol yn siarad am yr hyn y mae bod yn aelod bwrdd yn ei olygu a pham nawr yw’r amser i ymuno.
Cwrdd â’r Bwrdd: Digwyddiad Recriwtio Cyfarwyddwyr
Eisiau gwybod mwy? Ymunwch â ni yn ein digwyddiad Cwrdd â’r Bwrdd ddydd Iau 13eg Gorffennaf am 2yh.
Mae hwn yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan Aelodau’r Bwrdd a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os hoffech ymuno â ni ar y dydd, archebwch eich lle ar Eventbrite.
Gwybodaeth bellach
Teitl y rôl | Cyfarwyddwr / Ymddiriedolwr |
Yn atebol i: | Cadeirydd a Chyfarwyddwyr y Bwrdd |
Tymor: | Cyfarwyddwyr etholedig – tair blynedd (amodol ar ofynion cylchdroi blynyddol aelodau’r Bwrdd) Cyfarwyddwyr apwyntiedig – 1 blwyddyn (ailbenodi’n destun cytundeb blynyddol gan y Bwrdd yn dilyn y cyfarfod cyffredinol) |
Diben: | Ar y cyd â’r Cyfarwyddwr/Ymddiriedolwyr eraill, cyfrifoldeb am ddatblygu polisïau a gwaith AC; rheoli’r corff yn cynnwys arian a’r bobl; a gwasanaethu diddordebau AC ar bob amser. |
Ymrwymiad: | Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd, gan gymryd rhan yn y trafodaethau a chyfrannu at benderfyniadau; darllen y papurau ymlaen llaw; mynychu rhaglenni hyfforddiant sefydlu ac eraill yn ôl yr angen; cymryd rhan yn y gwerthusiad blynyddol a chyfweliadau datblygu personol gyda’r cadeirydd. |
*Sylwch, mae’r rolau hyn yn agored yn benodol i bobl anabl.
Dyddiad cau: 12yh (hanner dydd) ddydd Llun 24ain o Orffennaf 2023
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 1af o Awst 2023
Darganfyddwch fwy ac ymgeisiwch
Mae’r pecyn recriwtio a’r disgrifiad swydd isod yn darparu mwy o wybodaeth am rôl y Bwrdd a bod yn Gyfarwyddwr. Mae hefyd yn manylu sut i ymgeisio i fod yn Aelod Penodedig o’r Bwrdd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni i ymdrechu am Gymru mwy cynhwysol i bobl anabl? Gwnewch gais heddiw! Rydym yn edrych ymlaen i glywed gennych.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 029 20887325 neu e-bostiwch info@disabilitywales.org.