Gweithio fel intern yn Anabledd Cymru: Profiad Rosie

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi croesawu nifer o interniaid i ymuno â thîm AC i roi cyfle iddynt ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud a chael profiad ymarferol ym mhob agwedd o’n sefydliad. Ein recriwt diweddaraf oedd Rosie, myfyriwr blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd.

A ninnau newydd symud i’n cartref newydd yng Nghaerdydd, roedd yn amseriad perffaith i Rosie ymuno â ni yn y swyddfa hefyd. Y myfyriwr cyntaf i wneud hynny ers cyn y pandemig.

Yma, mae hi’n datgelu popeth am ei hamser gyda ni, ei gwaith a’r hyn a ddysgodd ar hyd y ffordd.

On a hazy day, Rosie, a white woman with long blonde hair, stands against a railing in front of a body of water with buildings in the background. She wears a dark outfit with a beanie hat and is smiling at the camera.

Pwy ydw i?

Fy enw i ydi Rosie, ac ar hyn o bryd rydw i yn fy mlwyddyn olaf yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy’n dod o Suffolk yn Nwyrain Lloegr.

Yr interniaeth

Gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, cefais leoliad profiad gwaith gydag Anabledd Cymru, yn gweithio fel Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu.

Mae Anabledd Cymru yn hyblyg o ran sut rydych chi’n gweithio ac yn hapus i weddu i’ch amserlen waith. Roeddwn yn gallu gweithio oriau a oedd yn cyd-fynd ag amserlen fy ngradd. Roedd fy lleoliad trwy fformat gweithio hybrid, lle roeddwn yn gallu gweithio yn y swyddfa a gartref pan oedd angen.

Gan mai’r lleoliad hwn oedd fy lleoliad profiad gwaith cyntaf, roeddwn i’n nerfus ar y dechrau ond mae tîm AC yn gyfeillgar ac yn gefnogol, felly roedd yn amgylchedd croesawgar iawn i ffitio ynddo.

Helpodd y tîm fi i ddysgu am eu prosiectau a’u hymgyrchoedd presennol, ac roedd yr holl aelodau staff yno i gynnig unrhyw gymorth a gwybodaeth yr oeddwn eu hangen.

Y gwaith

Yn ystod fy lleoliad, mi wnes i gynorthwyo mewn meysydd amrywiol o waith. Mae Anabledd Cymru yn hapus i’ch helpu i gymryd rhan mewn meysydd y mae gennych ddiddordeb arbennig ynddynt a byddant yn teilwra’ch profiad i’ch diddordebau. I mi, mae gennyf ddiddordeb penodol mewn ymgyrchoedd a gwaith polisi.

Cynorthwyais yr ymgyrch Argyfwng Cost-byw, lle creais gynnwys ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol AC. Cyflwynais wybodaeth ddefnyddiol a thynnu sylw at ddolenni i gymorth pellach a allai fod yn ddefnyddiol i bobl anabl yn ystod yr Argyfwng Costau Byw.

Yn ogystal a hyn, mi fues i’n gweithio ar gynnwys ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang a chynnwys i dynnu sylw at y Model Cymdeithasol o Anabledd. Roedd y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu bob amser yn hapus i roi cyngor i mi am y gwaith ac i fy helpu gydag unrhyw gwestiynau oedd gen i.

Mi wnes i hefyd weithio ar y prosiect ‘Hawliau Yma – Hawliau Nawr’, lle bûm yn cynorthwyo Swyddog Prosiect CCUHPA i ysgrifennu llythyrau a chynllunio cynnwys ar gyfer gwefan AC.

Yn ogystal ag ymgyrchoedd, mi wnes i gynorthwyo gyda gwaith polisi, lle bues i’n cysgodi’r Swyddog Polisi ac Ymchwil mewn cyfarfodydd megis y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, a mi fues i hefyd yn cynorthwyo gydag ymchwil, lle bûm yn ymchwilio i ASau Cymreig.

Yn ystod fy lleoliad, roeddwn yn cymryd rhan mewn gwahanol gyfarfodydd. Roeddwn yn cymryd rhan yn rheolaidd yng nghyfarfodydd staff wythnosol, lle y rhannais yr hyn yr oeddwn wedi bod yn gweithio arno yn ddiweddar. Roeddwn hefyd yn ymwneud â chyfarfodydd eraill, megis cyfarfod ‘Power Hour’ a chyfarfod cynllunio’r Gynhadledd Flynyddol.

Beth ydw i wedi ei ddysgu?

O weld sut mae’r sefydliad yn gweithio, i ddysgu am rôl pob aelod o’r tîm, rwyf wedi dysgu cymaint o’m mhrofiad gwaith yn Anabledd Cymru.

Yn benodol, rwyf wedi dysgu am y Model Cymdeithasol o Anabledd. Cyn fy lleoliad, nid oeddwn yn gwybod beth oedd y Model Cymdeithasol yn ei olygu. Fodd bynnag, ar ôl fy amser fel intern, rwyf wedi dysgu am bwysigrwydd gweithredu’r model hwn mewn cymdeithas.

Diolch i Anabledd Cymru am y cyfle hwn, byddwn yn annog unrhywun i gymryd y cyfle am brofiad gwaith yn y sefydliad hwn.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members