Datganiad i’r wasg: Anabledd Cymru i dynnu sylw at effaith ddinistriol pandemig ar bobl anabl yng Ngwrandawiadau Cyhoeddus Ymchwiliad Covid-19 yng Nghymru

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Fel cyfranogwr craidd, bydd Anabledd Cymru yng Ngwrandawiadau Cyhoeddus Covid-19 Cymru (Modiwl 2b), yn dechrau ar 27 Chwefror yng Nghaerdydd. Bydd AC yn cynrychioli buddiannau a phryderon Sefydliadau Pobl Anabl ynghylch effaith ddinistriol Covid-19 ar bobl anabl yng Nghymru.

Pobl anabl yw 22% o boblogaeth Cymru gyda bron i 40% yn byw mewn tlodi, y gyfradd uchaf yn y DU, ac maent yn fwy tebygol o fyw mewn tai rhent a thai gorlawn. Ar ben hynny, roedd deng mlynedd o galedi cyn y pandemig wedi dirywio gwasanaethau cyhoeddus y mae llawer o bobl anabl yn dibynnu arnynt.

O’r cychwyn cyntaf, cododd AC bryderon gyda Llywodraeth Cymru ynghylch sut y byddai’r pandemig yn effeithio ar bobl anabl yng Nghymru, o ystyried yr anghydraddoldebau amlwg sydd eisoes yn bodoli. Wrth i fesurau cloi ddod i rym, sylweddolwyd ein hofnau gyda llawer o bobl anabl yn adrodd am dorri eu hawliau dynol gan gynnwys:

  • Colli cymorth gofal cymdeithasol a hawliau i asesiad
  • Diffyg mynediad at fwyd a hanfodion eraill
  • Ofn a phryder ynghylch defnyddio hysbysiadau ‘Peidiwch â cheisio dadebru’ yn gyffredinol
  • Mynediad cyfyngedig i ofal iechyd a chymorth gyda chyflyrau hirdymor

Y peth mwyaf syfrdanol oedd y gyfradd marwolaethau uchel iawn o Covid-19 ymhlith pobl anabl yng Nghymru, sef bron i 7 o bob 10 marwolaeth, o gymharu â bron i 6 o bob 10 ledled y DU.

Cafodd yr achosion hyn o dorri rheolau a materion eraill eu nodi yn yr adroddiad, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a gefnogodd AC i gyd-gynhyrchu Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 (2021). Mewn ymateb i’w ganfyddiadau a’i argymhellion, sefydlodd y Prif Weinidog Dasglu Hawliau Anabledd i ddatblygu Cynllun Gweithredu gyda’r nod o fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sydd wedi gwreiddio’n ddwfn y mae pobl anabl yn ei wynebu.

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:

“Mae Gwrandawiadau Cyhoeddus Ymchwiliad Covid-19 yng Nghymru yn gyfle arwyddocaol i dynnu sylw at realiti llwm bywyd i bobl anabl yn ystod y pandemig: yr unigrwydd a’r dryswch yn ogystal â cholli pŵer, llais a dinasyddiaeth.

Nid oedd dim byd yn anochel am y 68% o farwolaethau o COVID-19 ymhlith pobl anabl yng Nghymru. Fel y datgelodd yr Adroddiad Drws ar Glo, ffactorau cymdeithasol a gyfrannodd at yr ystadegyn difrifol hwn, gan gynnwys gwahaniaethu, tai gwael, tlodi, statws cyflogaeth, a sefydliadoli ynghyd â diffyg PPE, gwasanaethau gwael ac anghyson, gwybodaeth gyhoeddus anhygyrch a dryslyd.

I bobl anabl yng Nghymru, mae’r Gwrandawiadau’n hollbwysig er mwyn galw’r rhai sydd â grym a chyfrifoldeb i gyfrif a sicrhau bod gwersi hanfodol yn cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.”

Nodiadau

Anabledd Cymru (AC) yw’r gymdeithas genedlaethol o sefydliadau pobl anabl sy’n ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb pob person anabl.

Ysgrifennwyd yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 (2021) gan yr Athro Debbie Foster ar y cyd â Grŵp Llywio Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliadau Pobl Anabl ac unigolion anabl. Cadeirydd y grŵp oedd Prif Weithredwr AC, Rhian Davies: Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 (2021)

Cynrychiolir AC gan dîm yn Bhatt Murphy dan arweiniad Shamik Dutta a Charlotte Haworth-Hird a’r cwnsler Danny Friedman KC, Anita Davies a Danielle Manson yn Matrix Chambers.

Bydd Modiwl 2b Ymchwiliad Covid-19 yn ymchwilio ac yn gwneud argymhellion ynghylch penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phandemig Covid-19.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members