Datganiad: AC yn gwrthwynebu cynigion Llywodraeth Cymru ar godi’r uchafswm tâl wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl i oedolion

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Mae Anabledd Cymru wedi’i synnu a’i siomi gan gynigion Llywodraeth Cymru i alluogi awdurdodau lleol i godi’r taliadau wythnosol uchaf y mae pobl anabl yn eu talu am ofal cymdeithasol a chymorth y mae mawr eu hangen.

Mae pobl anabl, llawer ohonynt ar fudd-daliadau, yn dweud wrthym eu bod eisoes yn cael trafferth talu’r taliadau hyn ac nad ydynt yn gwybod sut y byddant yn fforddio unrhyw godiadau.

Roedd adroddiad AC ‘Prin yn Goroesi‘ (2023) yn nodi effaith enbyd yr argyfwng costau byw ar bobl anabl.

Mae bron i 40% o bobl anabl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ond gall bod yn berson anabl fod yn ddrud. Mae biliau ynni uwch i gadw cartrefi’n gynnes, yr angen am offer arbenigol costus a mwy o ddibyniaeth ar drafnidiaeth yn feysydd gwariant hanfodol ond nid ydynt yn cael eu diwallu’n llawn gan gynlluniau cymorth neu fuddion y llywodraeth.

Mae gofal a chymorth personol yn gost arall sy’n ymwneud ag anabledd. Fodd bynnag, mae’r ‘isafswm incwm’ a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn yr asesiad codi tâl tecach yn annigonol i dalu costau gwirioneddol anabledd yn ogystal â chostau byw dyddiol. Bydd cynyddu’r cap ond yn gwaethygu hyn ac yn achosi mwy o galedi, gyda rhai o bosib yn dewis peidio â chael cymorth.

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:

Fel aelod o’r Grŵp Arbenigol a roddodd gyngor i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol sy’n rhad ac am ddim pan fo angen, rydw i wedi fy mrawychu bod unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynyddu taliadau gofal dibreswyl.

Mae’n ymddangos bod y pwysau ar gyllid llywodraeth leol yn cael eu blaenoriaethu dros y pwysau ariannol ar filoedd o bobl anabl y mae cymorth gofal cymdeithasol yn anghenrheidiol iddynt ond sydd â modd cyfyngedig i dalu amdano.

Mae’n anodd gweld o’r cynigion sut y gall Llywodraeth Cymru warantu’r honiad mai dim ond unigolion sydd â’r modd ariannol i dalu uchafswm tâl wythnosol uwch fydd yn gwneud hynny.

Mae AC wedi gwrthwynebu unrhyw daliadau am ofal cymdeithasol ers tro a bydd yn parhau i gasglu barn ac astudiaethau achos gan bobl anabl i lywio ei ymateb i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru.

Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 13 Mai.

Diwedd

Nodiadau

AC yw’r gymdeithas genedlaethol o sefydliadau pobl anabl sy’n ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb pob person anabl. Ei rôl graidd yw cynrychioli barn a blaenoriaethau aelodau i’r llywodraeth gyda’r nod o lywio a dylanwadu ar bolisi.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Codi’r uchafswm tâl wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl i oedolion

Adroddiad AC ‘Prin yn Goroesi’ (2023): Lansio Adroddiad – ‘Prin yn Goroesi’: Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl yng Nghymru

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members