Dathlu 50 mlynedd o Anabledd Cymru: Y Cinio Pen-blwydd

DW staff and board members with Jane Hutt MS, Minister for Social Justice   Back row: Left to Right: Felix Shi (Director), Willow Holloway (Chairperson), Minister for Social Justice Jane Hutt MS, Rhian Davies (Chief Executive), Alex Osborne (Disability Equality Officer) Front: Anne Champ (Vice Chairperson). They're all smiling and wearing smart clothes ready to celebrate at DW's 50th anniversary dinner.

Dathlu 50 mlynedd o Anabledd Cymru – Y Cinio Pen-blwydd

Efallai ein bod wedi crybwyll, unwaith neu ddwy, fod Anabledd Cymru yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni.

Doedden ni ddim yn gallu gadael i gyfle i nodi’r garreg filltir hon fynd heibio inni a dyna pam y gwnaethom ymgynnull yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar drothwy ein cynhadledd flynyddol i edrych yn ôl ar daith ein sefydliad hyd yma.

Roeddem yn falch i gael cwmni megis y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, Mark Isherwood AS ac Uchel Siryf De Morgannwg, Rosaleen Moriarty-Simmonds, yn ogystal â chydweithwyr a ffrindiau o bob rhan o’r trydydd sector.

DW staff and board members with Jane Hutt MS, Minister for Social Justice Back row: Left to Right: Felix Shi (Director), Willow Holloway (Chairperson), Minister for Social Justice Jane Hutt MS, Rhian Davies (Chief Executive), Alex Osborne (Disability Equality Officer) Front: Anne Champ (Vice Chairperson). They're all smiling and wearing smart clothes ready to celebrate at DW's 50th anniversary dinner.
DW staff and board members with Jane Hutt MS, Minister for Social Justice.
Photo credit: Natasha Hirst
Mark Isherwood MS looking to his left at Willow Holloway who is smiling broadly at the camera. They both wear smart clothes and stand in front of a wall with the DW logo on it.
Mark Isherwood MS, Chair of the Cross Party Group on Disability and DW Chairperson Willow Holloway. Credit: Natasha Hirst photography.

Dros bum degawd, mae Anabledd Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran gweithredu hawliau anabledd, gan gynrychioli barn aelodau i’r llywodraeth, cydlynu ymgyrchoedd, a chefnogi Sefydliadau Pobl Anabl.

Wedi’i sefydlu yn 1972 fel Cyngor Cymru i’r Anabl, fe’i hailenwyd yn Anabledd Cymru ym 1994 i adlewyrchu newid mewn agweddau o fewn cymdeithas a dyheadau pobl anabl. Roedd yr Ymgyrch Hawliau Nawr dros ddeddfwriaeth hawliau sifil a chynhwysfawr yn ei hanterth, gyda chefnogaeth weithredol AC, ac a arweiniodd at gyflwyno Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (1995).

Roedd y cinio yn gyfle i edrych yn ôl a hel atgofion am yr hyn y mae Anabledd Cymru wedi’i gyflawni wrth ymateb i’r newid yn y dirwedd gymdeithasol ac economaidd o ran pobl anabl, gan gynnwys:

  • Agor Canolfan Cymhorthion ac Offer cyntaf Cymru ym 1978
  • Trefniadaeth Cynllun Gwobrau Mynediad i Adeiladau 1979-91
  • Cydlynu Gwasanaeth Symudol Cyngor a Gwybodaeth Anabledd ar draws Cymru – DAI y Bws, 1989 – 1997
  • Cefnogi dros 2000 o ddarpar entrepreneuriaid anabl i archwilio hunangyflogaeth, gyda 400 ohonynt yn sefydlu eu busnesau eu hunain (2001 – 2007)
  • Cyhoeddi’r Maniffesto ar gyfer Byw’n Annibynnol cyn Etholiadau Cynulliad Cymru 2011 a ddylanwadodd yn llwyddiannus ar gyflwyno’r Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol (2013), y dull trawsbynciol cyntaf o fynd i’r afael â rhwystrau anablu mewn cymdeithas yng Nghymru
  • Sefydlu’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig gyntaf yng Nghymru (2020) a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a roddodd gymorth ariannol i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn Etholiadau Senedd (2021) a Llywodraeth Leol (2022) yn y drefn honno
  • Sicrhau Cefnogaeth Trawsbleidiol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i alwad Dewch â’n Maniffesto Hawliau i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru (2021)

Fel sefydliad aelodaeth, mae AC yn cydnabod bod ei gyflawniadau yn seiliedig ar ymroddiad ac ymrwymiad cenedlaethau olynol o ymgyrchwyr anabl a chynghreiriaid nad ydynt yn anabl.

DW Chairperson, Willow Holloway, standing at a lectern delivering a speech. A bright screen is behind her displaying the Disability Wales logo.
Disability Wales Chairperson, Willow Holloway. Credit: Natasha Hirst photography.

Ategwyd y teimlad hwn mewn llu o areithiau drwy gydol y noson, gan ddechrau gyda Chadeirydd AC, Willow Holloway, a osododd y naws ar gyfer dathliad bendigedig.

WCVA Chief Executive, Ruth Marks, standing in front of a bright screen bearing the DW logo. She addresses a room full of people who are sitting around many round tables.
WCVA’s Chief Executive Ruth Marks speaking to guests at DW’s Anniversary Dinner.
Photo credit: Natasha Hirst

Trosglwyddodd Willow y baton i Brif Weithredwr CGGC, Ruth Marks, a wnaeth fyfyrio ar y berthynas agos sydd wedi bod gan ein sefydliadau dros y blynyddoedd.

Cynhyrchwyd fideo i ategu thema gyffredinol ein Cynhadledd Flynyddol, Y Ffordd i Hawliau; mae’n daith wib o hanes AC a’r hyn a gyflawnwyd dros yr 50 mlynedd diwethaf. Cafodd gwesteion olwg ar y fideo yn y cinio, ond gallwch ei wylio’n llawn ar ein sianel YouTube:

Ategwyd pryd tri chwrs blasus gan drafodaethau bywiog wrth i westeion ailgysylltu a bondio dros ddiddordeb ac angerdd a rennir dros hawliau anabledd a chydraddoldeb.

Jane Hutt MS standing by a lectern, her right hand is placed on her chest as she speaks. She wears a grey boucle blazer over a red top.

Cafwyd anerchiad grymus gan Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, am hawliau anabledd a’r rhan hanfodol y mae AC wedi’i chwarae wrth eu datblygu yng Nghymru.

Amlygodd araith y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Model Cymdeithasol o Anabledd a chyfeiriodd at waith hanfodol y Tasglu Hawliau Anabledd a sefydlwyd i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu i ddileu effeithiau niweidiol pandemig Covid-19 ar bobl anabl. .

Coronodd ein Prif Weithredwr, Rhian Davies, y noson gyda’i hanerchiad ei hun lle bu’n ymateb i rai o’r pwyntiau a godwyd yn araith y Gweinidog cyn myfyrio ar y ffordd i hawliau, pa mor bell rydym wedi dod a beth sydd angen ei wneud o hyd.

Yna diolchodd i bawb am rannu eu noson gyda ni wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o’n sefydliad.

Roeddem yn falch iawn o allu aduno gyda chydweithwyr a ffrindiau, hen a newydd, i nodi ein pen-blwydd. Roedd yr ystafell yn disgleirio wrth i bawb rannu atgofion a gwneud cysylltiadau newydd, ac roeddem yn falch o allu darparu llwyfan ar gyfer trafodaethau mor wych.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members