Teyrnged i’r ymgyrchydd hawliau anabledd, Simon Green

A black and white photo of Simon Green holding a sign that says Don't disable our future

Rydym wedi ein syfrdanu gan golled Simon Green, yr ymgyrchydd hawliau anabledd a oedd yn aelod hir-amser o’n Bwrdd Cyfarwyddwyr yn Anabledd Cymru.

Roedd effaith Simon yn enfawr, ac fel Cadeirydd Clymblaid Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr fe ymgyrchodd yn ddiflino am well mynediad a chefnogaeth o ran gwasanaethau lleol yn ogystal ag eiriol dros unigolion di-rif i gyflawni eu hawliau.

Ar lefel genedlaethol, roedd yn ymgyrchydd proffil uchel yn fwyaf nodedig ar fynd i’r afael â Throseddau Casineb Anabledd, gan gymryd rhan mewn rhaglenni dogfen ar y teledu ac roedd yn siaradwr angerddol mewn llawer o gynadleddau a digwyddiadau, gan dynnu ar ei brofiad ei hun.

Bydd positifrwydd, egni a hiwmor Simon yn cael eu colli’n fawr yn AC a’r cyfan a gyfrannodd at ddatblygiad ein sefydliad fel llais cryf i bobl anabl yng Nghymru.

Roedd Simon yn fodel rôl i lawer a’i etifeddiaeth fydd y ffordd yr ysbrydolodd y genhedlaeth nesaf o eiriolwyr anabl i fod yn falch o’u hunaniaeth a mynnu eu hawliau.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members