Ydych chi’n angerddol am hawliau anabledd a gweithio mewn partneriaeth? Rydym yn chwilio am berson anabl i ymuno â’n tîm bach ond nerthol fel Swyddog Ymgysylltu a Chynhwysiant Anabledd.
Yn y rôl hon, byddwch yn arwain ac yn cryfhau perthnasoedd â swyddfeydd Cyngor ar Bopeth ledled Gwent a Chwm Taf Morgannwg, gan helpu i wella hygyrchedd, gwelededd a chydlynu cyngor a chymorth i bobl anabl.
Os ydych chi’n fedrus mewn cydweithio, wedi ymrwymo i’r Model Cymdeithasol o Anabledd, ac wedi’ch cymell gan wneud newid go iawn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Gwybodaeth bellach
Teitl swydd: Swyddog Ymgysylltu a Chynhwysiant Anabledd (swyddfeydd Cyngor ar Bopeth ledled Gwent a Chwm Taf Morgannwg)
Cyflog: Pwynt Graddfa 23, £34,434 y flwyddyn (pro-rata £20,660)
Oriau: 21 awr yr wythnos
Lleoliad gwaith: Gweithio o gartref gyda’r opsiwn i ddefnyddio ein swyddfa yn Sparc, Caerdydd
Math o gontract: Tymor penodol tan 31 Mawrth 2028
Dyddiad cau: Hanner dydd, ddydd Iau 15fed Ionawr 2026
Cyfweliadau: Dydd Iau 22ain Ionawr 2026
Dogfennau recriwtio
Oes gennych ddiddordeb? Mae popeth sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys y disgrifiad swydd llawn, manyleb y person, a rhai cwestiynau cyffredin i’w gweld isod.
Dychwelwch eich cais i membership@disabilitywales.org os gwelwch yn dda.
Cwestiynau Cyffredin
Oes angen i mi weithio mewn sifftiau penodol neu alla i weithio’n hyblyg?
Mae Anabledd Cymru yn cydnabod bod angen i lawer o bobl anabl weithio’n hyblyg ac maen nhw’n hapus i gael sgwrs gyda’r ymgeisydd llwyddiannus i weld sut y gellir galluogi hyn.
Beth mae ‘gweithio o gartref gyda’r opsiwn i ddefnyddio swyddfa Sparc yng Nghaerdydd’ yn ei olygu?
Mae croeso i chi ddod i’n swyddfa yn Sparc i weithio ond gallwch weithio o bell os yw’n well gennych.
Beth mae ‘profiad personol o rwystrau anablu o fewn cymdeithas’ yn ei olygu?
Rhaid i’r ymgeisydd fod yn anabl ei hun a bod wedi profi rhwystrau i gael mynediad at gymdeithas. Nid yw’n ei gwneud yn ofynnol i chi fod wedi creu newid yn eich cymuned.
Sut ydw i’n trefnu fy ngofynion mynediad ar gyfer y cyfweliad?
Mae tudalen olaf y cais yn gofyn a oes gennych unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cyfweliad. Gofynnir i chi eto hefyd ar gadarnhad eich bod wedi cael eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
A yw cyfweliadau ar-lein neu mewn person?
Bydd y cyfweliad ar-lein.
Yn mha iaith y cynhelir y cyfweliad?
Cynhelir y cyfweliad yn Saesneg. Mae dehongli Iaith Arwyddion Prydain a chyfieithu i’r Iaith Gymraeg ar gael ar gais.
Pa mor fuan fydda i’n dechrau’r rôl os byddaf yn llwyddiannus?
Ein nod fydd eich cael chi yn y swydd cyn gynted â phosibl.





