Paratowch i bleidleisio ar 6 Mai

Mae’r erthygl yma wedi cael ei ysgrifennu gan y Comisiwn Etholiadol, Cymru

Paratowch i bleidleisio

Dim ond un wythnos sydd nes bydd pobl yng Nghymru yn bwrw eu pleidlais i benderfynu pwy fydd yn eu cynrychioli yn y Senedd ac fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae gan y Senedd bwerau i ddeddfu dros Gymru mewn ystod o feysydd, gan gynnwys iechyd, yr economi, addysg, tai, a thrafnidiaeth. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn goruchwylio eich heddlu lleol ac yn sicrhau eu bod yn blaenoriaethu yr hyn sy’n bwysig i chi.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gweithio i gynyddu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd, a sicrhau ei huniondeb. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod rhai pleidleiswyr anabl yn dal i wynebu rhwystrau wrth bleidleisio, ac y gallai fod ganddynt bryderon ychwanegol ynghylch cymryd rhan mewn etholiadau yn ystod pandemig.

Os ydych wedi dewis pleidleisio’n bersonol, byddwch yn gwneud hynny mewn gorsafoedd pleidleisio sy’n ddiogel yng nghyd-destun COVID-19. Gallwch ddisgwyl gweld llawer o’r mesurau rydym wedi ymgyfarwyddo â nhw dros y misoedd diwethaf mewn siopau a gofodau eraill dan do, megis glanweithydd dwylo, marcwyr ar y llawr, a gorchuddion wyneb (oni bai eich bod wedi eich eithrio).

Os byddwch yn sâl oherwydd COVID-19 yn agos at y diwrnod pleidleisio, neu ar y diwrnod ei hunan, nid oes angen i chi golli eich cyfle i bleidleisio. Byddwch yn dal yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys trwy eich cyngor lleol.

Megis pob tro, mae cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer pleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio:

  • Dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol a fersiynau testun bras o’r papur pleidleisio, i helpu pleidleiswyr dall neu rannol ddall i farcio eu papur pleidleisio. Gallwch hefyd fynd â’ch ffôn i’r bwth pleidleisio a defnyddio’r chwyddwr testun, torsh, neu apiau testun-i-leferydd i’ch helpu i bleidleisio.
  • Gallwch hefyd ofyn i staff yr orsaf bleidleisio am help wrth fwrw eich pleidlais, neu wrth lywio eich ffordd o amgylch rhai o’r mesurau iechyd cyhoeddus a fydd ar waith, megis y system unffordd neu gadw pellter rhag pleidleiswyr eraill. Gallwch hefyd ddod â rhywun gyda chi ar gyfer etholiad y Senedd os ydynt dros 16 oed, a thros 18 oed ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, i’ch helpu chi.
  • Gorsafoedd pleidleisio a bythau pleidleisiau sy’n hygyrch i gadeiriau olwynion. Dylai fod gan bob gorsaf bleidleisio ramp mynedfa/allanfa neu fynedfa ar wahân, fel y gall pawb gael mynediad iddi. Y tu fewn, bydd gan bob gorsaf bleidleisio fwth pleidleisio sy’n hygyrch i gadeiriau olwynion.

Mae’r Comisiwn yn darparu canllawiau i staff gorsafoedd pleidleisio i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r mesurau a ddylai fod ar waith, ac na ellir gwrthod rhoi papur pleidleisio i unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Fe wnaethom geisio safbwyntiau nifer o sefydliadau ynghylch y canllawiau hyn, gan gynnwys Anabledd Cymru, ac adlewyrchir y rhain yn y canllawiau.

Yng Nghymru, gan fod etholiadau Senedd Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ar 6 Mai, gallech dderbyn hyd at dri phapur pleidleisio gwahanol. Bydd cyfarwyddiadau ar y papurau pleidleisio ac ar bosteri y tu fewn i’r orsaf bleidleisio a fydd yn dangos sut mae llenwi’r papurau pleidleisio, felly sicrhewch eich bod yn darllen y rhain yn ofalus cyn bwrw eich pleidlais, neu gofynnwch i rywun eu darllen ar eich rhan. 

Am ragor o wybodaeth ynghylch pleidleisio, bwriwch olwg ar ein llyfryn gwybodaeth i bleidleiswyr ar gyfer mis Mai 2021, sydd ar gael mewn ystod o fformatau, gan gynnwys hawdd-ei-ddarllen, Iaith Arwyddion Prydain, a thestun sain.

Ella Downing, Swyddog Cyfathrebu ar gyfer y Comisiwn Etholiadol, Cymru

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members