I’w ryddhau ar unwaith
Mae unigolion sydd wedi derbyn cymorth drwy’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn y gorffennol yn galw ar bobl anabl ar hyd a lled y wlad i ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael iddynt, yn enwedig gan fod nifer y seddi yn y Senedd yn codi o 60 i 96 fis Mai yma.
Mae’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru, sy’n cael ei gweinyddu gan Anabledd Cymru ac yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi cymorth ariannol tuag at gostau sy’n ymwneud ag amhariadau i ymgeiswyr anabl sy’n sefyll yn etholiad Senedd Cymru yn 2026 ac yn etholiadau Llywodraeth Leol 2027. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, cynorthwywyr personol, trafnidiaeth hygyrch a thechnoleg gynorthwyol.
Dywedodd Neal, a oedd wedi ymgeisio am gefnogaeth cynorthwyydd personol: “Mae’n gynllun grêt ac yn ddefnyddiol iawn i bobl anabl. Mae’r broses ymgeisio’n hawdd ac nid yw’n costio ceiniog. Dyna’r peth gorau wnes i pan sefais a gobeithio bydd y Gronfa yn fy helpu pan fydda i’n sefyll eto.“
Yn 2020, llwyddodd Cymru i wneud hanes fel y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i lansio cronfa o’r fath ar lefel cynghorau cymuned, gan atgyfnerthu ei hymrwymiad i greu democratiaeth gynhwysol sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas. Mae’r Gronfa’n parhau i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn yn y broses wleidyddol, ac yn cael yr un cyfle ag ymgeiswyr nad ydynt yn anabl.
Mae’r Gronfa’n agored i ymgeiswyr sy’n sefyll dros unrhyw blaid wleidyddol neu fel ymgeisydd annibynnol.
Roedd ymgeisydd blaenorol arall, Zoe, wedi ymgeisio am gymorth gyda chostau teithio. Dywedodd: “Doedd dim rhaid i mi boeni am gael lifft a ffitio i mewn gyda phobl eraill. Roedd yr arian yn talu am dacsis i fynd â fi’n syth o’m cartref i le bynnag roeddwn i’n ymgyrchu’r diwrnod hwnnw. Roeddwn i’n gallu canolbwyntio ar y gwaith ac ymgyrchu’n well.“
Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: “Mae’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig yn rhan hanfodol o’n hymrwymiad i sicrhau bod pob person anabl sydd eisiau cymryd rhan lawn mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb wynebu rhwystrau diangen.
“Mae democratiaeth ar ei chryfaf pan fo’n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau, ac mae’r gronfa hon yn helpu i wneud hynny’n bosibl. Rwy’n annog unrhyw un sy’n ystyried sefyll mewn etholiad i edrych ar y cymorth sydd ar gael a chymryd y cam nesaf hwnnw’n hyderus.”
Dylai pobl anabl sydd â diddordeb mewn ymgeisio am y gronfa fynd i wefan Anabledd Cymru neu anfon e-bost i electedofficefund@disabilitywales.org i gael rhagor o wybodaeth.
Mae pob cais yn cael ei gyflwyno’n ddienw gerbron panel o unigolion sydd â phrofiad o anabledd ac yn arbenigo ym maes gwneud addasiadau rhesymol.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
- Anabledd Cymru yw corff cenedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru, sy’n ymdrechu dros hawliau pob person anabl.
- Mae fideos gwybodaeth gyda dehongliad BSL ar gael yn: https://youtu.be/8rccQb52Cwg neu https://youtu.be/BPE1S5CWvvQ
Gellir trefnu cyfweliadau ag ymgeiswyr blaenorol ar gais. Ymholiadau gan y cyfryngau i jessica.hatchett@disabilitywales.org.





