Mae Anabledd Cymru yn falch o gyhoeddi lansiad Siarter arloesol sydd wedi’i dylunio i gefnogi pobl Fyddar, anabl a niwrowahanol i sefyll am swydd etholedig yng Nghymru.
Datblygwyd y Siarter hon gan Rwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth, sy’n cynnwys unigolion anabl yn bennaf. Mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n gam sylweddol tuag at ddemocratiaeth fwy cynhwysol a chynrychiadol.
Mae’r Siarter yn nodi ymrwymiadau clir ac ymarferol i bleidiau gwleidyddol eu mabwysiadu, gan sicrhau mynediad cyfartal a theg at lywodraeth leol a chenedlaethol. Dyma’r Siarter gyntaf o’i math yng Nghymru ac mae’n ategu gwaith tebyg yn yr Alban, lle mae Siarter Inclusion Scotland eisoes wedi cael ei llofnodi gan y chwe phrif blaid wleidyddol.
Gyda dros 20% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn Fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol, mae eu lleisiau’n dal i gael eu tangynrychioli mewn penderfyniadau gwleidyddol. Nod y Siarter hon yw newid hynny drwy gael gwared ar rwystrau a grymuso mwy o bobl anabl i ymgymryd â swyddi arweinyddol a dylanwadol.
Dywedodd Kat Watkins, Swyddog Prosiect Mynediad at Wleidyddiaeth yn Anabledd Cymru:
“Creu newid go iawn yw nod y Siarter hon. Drwy wneud mwy na dim ond ymgynghori â phobl anabl, a sicrhau eu bod hefyd yn cael eu cynrychioli yn yr ystafelloedd lle gwneir penderfyniadau am eu bywydau. Dyma y mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ei ddysgu i ni: ‘Dim byd amdanom ni hebom ni.’ Mae’r Siarter hon yn rhoi’r egwyddor honno ar waith.”
Mae pleidiau gwleidyddol ledled Cymru nawr yn cael eu gwahodd i lofnodi’r Siarter a dangos eu hymrwymiad i wleidyddiaeth gynhwysol. Drwy wneud hynny, byddant yn helpu i adeiladu Cymru lle gall pobl anabl ffynnu, nid dim ond goroesi.
Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cyfweliadau, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Kat Watkins, Swyddog Prosiect Mynediad at Wleidyddiaeth Anabledd Cymru
kat.watkins@disabilitywales.org
Mae’r Siarter ar gael i’w lawrlwytho yn Gymraeg, Saesneg, testun plaen a Hawdd i’w darllen. Darganfyddwch fwy am y Siarter a lawrlwythwch eich copi.





