Datganiad i’r Wasg: Cronfa ar gyfer Ymgeiswyr Anabl

Disability Wales logo

Bydd Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn agor ar 15 Chwefror 2021 ar gyfer ymgeiswyr anabl yn sefyll yn Etholiad Senedd Cymru 2021.

Rheolir y Gronfa gan Anabledd Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig cymorth ariannol i bobl anabl sy’n sefyll fel ymgeiswyr yn Etholiad Senedd Cymru 2021 ac etholiadau Llywodraeth Leol 2022.

Bydd yn talu am gymorth ymarferol er galluogi pobl anabl i fod yn rhan lawn o’r broses wleidyddol. Bydd yn cynnwys addasiadau rhesymol er galluogi pobl anabl i gystadlu ar amodau yn erbyn ymgeiswyr nid-anabl, ond nid costau ymgyrchu cyffredinol.

Dywedodd Rhian Davies, prif weithredydd Anabledd Cymru:

“Mae lansio Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn garreg filltir bwysig ym maes cydraddoldeb anabledd yng Nghymru wrth ehangu hawliau i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd a sicrhau bod y rhai a etholir i gynrychioli ein cymunedau yn adlewyrchu amrywiaeth y bobl yn y cymunedau hynny.

Wrth reoli’r cynllun peilot, mae Anabledd Cymru yn edrych ymlaen at gydweithio â phobl anabl fydd yn sefyll yn etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol, ynghyd â phleidiau gwleidyddol o bob math a rhanddeiliaid sy’n rhan o’r broses etholiadol. Bydd y Gronfa yn helpu ymgeiswyr gyda phethau fel costau cyfieithwyr iaith arwyddo Prydain, cymorth gyda thrafnidiaeth a darparu offer er galluogi pobl anabl i gystadlu ar amodau teg yn erbyn ymgeiswyr nid-anabl mewn etholiadau cenedlaethol a lleol.”

Gwahoddir ymgeiswyr mewn etholiad y Senedd i gofnodi eu diddordeb cyn gynted â phosibl ac yn sicr cyn 5 Mawrth. Bydd angen cael ceisiadau prydlon er sicrhau trefnu cymorth mewn da bryd, ond gellir ystyried ceisiadau hwyr.

Cyflwynir fersiwn anhysbys o’r ceisiadau i’r Panel Gwobrau, sy’n cynnwys aelodau gyda phrofiad o fyw gydag anabledd a gwneud addasiadau rhesymol.

Mae manylion pellach ar gael ar dudalen y gronfa.

Dylai ymgeiswyr sydd am fynegi diddordeb yn y Gronfa gysylltu ag Anabledd Cymru ar info@disabilitywales.org neu ffôn 029 2088 7325.

Seiliwyd y manylion ar y wefan ar y dyddiad pleidleisio presennol 6 Mai. Os bydd unrhyw newid, byddwn yn cyhoeddi amserlen newydd.

Golygyddion:

Manylion pellach a chyfweliadau:

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members