Galwad am dystiolaeth: Adolygu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru

Disability Wales logo

Mae Anabledd Cymru yn adolygu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru (UNCRDP) ac rydym yn chwilio am dystiolaeth am yr UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru. 

Beth yw’r UNCRDP? 

Mae CRDP yn gytundeb hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 2006. Cadarnhaodd y DU (cytuno i ddilyn) CRDP yn 2009. Gallwch ddysgu mwy amdano yma

Drwy gadarnhau CRDP, mae’r DU yn cytuno i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol pobl anabl, gan gynnwys: 

· dileu gwahaniaethu ar sail anabledd 

· galluogi pobl anabl i fyw’n annibynnol yn y gymuned 

· sicrhau system addysg gynhwysol 

· sicrhau bod pobl anabl yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o gamfanteisio, trais a cham-drin 

Yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan bobl anabl ac Anabledd Cymru, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r CRDP yng Nghyfraith Cymru yn eu Rhaglen Lywodraethu. 

Pam mae Anabledd Cymru yn ymchwilio i hyn? 

Gan ei fod wedi’i gadarnhau gan y DU, mae Pwyllgor Cydraddoldeb Anabledd y Cenhedloedd Unedig yn cynnal adolygiad i’r UNCRDP yn y DU bob pum mlynedd. Oherwydd oedi, cynhaliwyd yr adolygiad cyntaf yn 2017 a bydd y nesaf yn cael ei gynnal yn 2022. 

Mae Anabledd Cymru yn ysgrifennu adroddiad cysgodol i’r UNCRDP yng Nghymru ac er mwyn cael cymaint o wybodaeth o amrywiaeth mor eang â phosibl o ffynonellau, rydym yn rhoi galwad agored am dystiolaeth ar y pwnc hwn. 

Canllawiau cyflwyno 

Gellir rhoi tystiolaeth mewn unrhyw fformat, gan gynnwys dogfen Word, PDF neu ffeil sain. Boed hynny’n adroddiad rydych chi’n meddwl y dylem ei ddarllen, tystiolaeth rydych chi am ei rhoi i ni neu wybodaeth gan eich sefydliad. 

Sicrhewch eich bod yn ysgrifennu “DW UNCRDP Tystiolaeth” yn y llinell pwnc e-bost, er mwyn helpu i sicrhau na fyddwn yn colli eich e-bost. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 22ain o Dachwedd 2021. Os na allwch gwrdd â’r dyddiad cau hwnnw am ba bynnag reswm, cysylltwch â ni cyn y dyddiad cau. 

Am unrhyw gwestiynau eraill neu os oes angen unrhyw help arnoch i gyflwyno, cysylltwch â Megan Thomas trwy e-bostio megan.thomas@disabilitywales.org neu ffoniwch ni ar 029 20887325.”

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members