Barn: Pam mae angen clywed lleisiau pobl anabl yng ngwleidyddiaeth Cymru  

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Er mai defnyddwyr cadeiriau olwyn yw’r symbol sy’n cael ei ddefnyddio’n gyffredinol ar doiledau hygyrch, bathodynnau glas a llefydd parcio anabl, canran isel o bobl anabl yng Nghymru sydd yn ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac nid oes defnyddiwr cadair olwyn wedi cael ei ethol i’r Senedd erioed. O ystyried y gyfran uchel o bobl anabl yng Nghymru, pam mae cyn lleied yn cymryd rhan yn ein tirwedd wleidyddol? 

Mae 640,000 a mwy o bobl yng Nghymru yn anabl, ac mae ymchwil yn dangos bod: 

  • 1 o bob 4 oedolyn yn profi poen cronig  
  • 1 o bob 10 person yn dweud bod ganddynt gyflwr iechyd meddwl tymor hir  
  • 1 o bob 6 oedolyn wedi colli rhywfaint ar eu clyw  
  • 27% o oedolion yn dweud bod ganddynt gyflwr iechyd tymor hir  
  • 80,000 a mwy o bobl yn dweud bod ganddynt anhawster dysgu  
  • 111,000 a mwy o bobl yng Nghymru yn byw â nam golwg 

Nid ffigurau haniaethol yw’r rhain: maen nhw’n gymdogion, yn gydweithwyr, yn rhieni, yn ofalwyr, yn wirfoddolwyr ac yn arweinwyr cymunedol. Mae’r bobl hyn i gyd yn cyfrannu at gymdeithas yng Nghymru ond yn parhau i gael eu tangynrychioli ar gynghorau lleol, yn y Senedd, ac mewn mannau eraill lle caiff penderfyniadau eu gwneud.  

Pam hynny?   

Mae blynyddoedd o gael eu heithrio, eu diystyru o ran gallu, a’u trin fel pobl fregus yn aml yn arwain pobl anabl i gredu’r hyn mae cymdeithas yn ei feddwl, sef “nad ydynt yn gallu”. Ac mae rhagdybiaethau pobl nad ydynt yn anabl am beth mae pobl anabl yn gallu neu beth nad ydynt yn gallu ei wneud yn ychwanegu at y rhwystrau hyn. 

Ond mae hi’n 2026 ac mae angen i bethau newid.  

Mae profiad bywyd yn rhoi sgiliau gwerthfawr i bobl anabl, gan gynnwys y gallu i addasu, creadigrwydd a dyfalbarhad, ac mae’r sgiliau hyn yn golygu eu bod yn dda am amrywiaeth o dasgau.   

Pan nad yw pobl anabl yn cael eu gweld yn aml mewn rolau arwain, swyddi medrus, neu waith creadigol, mae cymdeithas yn tybio mai’r rheswm am hynny yw nad ydynt yn gallu cyfrannu. Mae canolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n credu na all rhywun ei wneud, neu dybio y byddant yn cael trafferth gwneud rhywbeth, yn cyfyngu ar gyfleoedd ac yn allgáu pobl ymhellach. Mae’n hen bryd i ni herio’r syniadau hyn.  

Ond nid agweddau’n unig sy’n creu rhwystrau. Yn aml iawn, mae swyddfeydd a siambrau’r cyngor, yn ogystal â lleoliadau cymunedol yn anhygyrch, oherwydd prinder rampiau neu lifftiau ar gyfer mynediad, goleuadau gwael, neu ddiffyg darpariaeth ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain a thechnoleg gynorthwyol. Mae digwyddiadau hystings gwleidyddol hyd yn oed — sydd i fod yn agored i bawb — yn aml yn cael eu cynnal mewn adeiladau sy’n eithrio’r union bobl y mae angen rhoi llais iddynt. 

Mae ymgyrchu hefyd yn cymryd amser, egni, ac adnoddau ariannol nad oes gan lawer o bobl anabl. Mae ystadegau’n dangos bod pobl anabl yng Nghymru yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, ac mae’r costau ychwanegol sy’n wynebu pobl anabl — trafnidiaeth, offer, a chymorth — yn ei gwneud hi’n anoddach fyth iddynt wneud gwaith gwleidyddol di-dâl.  

Mae cael gafael ar wybodaeth wleidyddol hefyd yn gallu bod yn heriol. Nid yw maniffesto pob plaid ar gael mewn fformatau hygyrch, ac anaml iawn y mae digwyddiadau gwleidyddol lleol yn darparu gwasanaeth dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau, neu ddeunyddiau Hawdd eu Deall.

Pan fo’r broses wleidyddol yn anhygyrch, sut gall pawb gymryd rhan?  

Pam fod cynrychiolaeth anabl yn bwysig  

Pan fo pobl anabl yn cael eu heithrio o fywyd gwleidyddol, caiff penderfyniadau eu gwneud heb ystyried barn y bobl sy’n deall ac sydd â phrofiad o’r rhwystrau.   

Mae polisïau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy realistig pan maent yn cael eu siapio gan bobl sy’n dibynnu ar fysiau ond sydd angen cerbydau sydd wedi eu dylunio’n hygyrch, a llwybrau hygyrch. Bydd strategaethau tai yn gwella pan fyddant yn cael eu llywio gan bobl sy’n deall beth yw realiti dyddiol byw mewn cartref anaddas. Mae polisïau addysg a chyflogaeth yn fwy cynhwysol pan fyddant yn cael eu llunio gan bobl sydd â phrofiad o’r rhwystrau ac sy’n gallu awgrymu ffyrdd o gael gwared arnynt.  

Yn syml, mae cynrychiolaeth amrywiol yn dylanwadu ar ba gwestiynau sy’n cael eu gofyn, beth sy’n cael ei flaenoriaethau, a sut mae polisïau yn cael eu rhoi ar waith, er mwyn creu cymdeithas fwy cynhwysol i bawb. 

Y rhwystrau sy’n wynebu ymgeiswyr anabl – a sut i fynd i’r afael â nhw  

Mae sefyll mewn etholiad yn gallu bod yn heriol i unrhyw un, ond mae ymgeiswyr anabl yn aml yn wynebu costau a rhwystrau ychwanegol, sydd ddim yn effeithio ar ymgeiswyr nad ydynt yn anabl. 

Heb gefnogaeth hanfodol, mae llawer o bobl anabl yn cael eu heithrio – nid oherwydd eu bod heb ddigon o frwdfrydedd nac angerdd, ond oherwydd bod y system wedi ei chreu heb eu hystyried nhw.  

Er mwyn mynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cronfa Fynediad i Swyddi Etholedig Cymru, sy’n cael ei gweinyddu gan Anabledd Cymru.  

Mae’r gronfa’n rhoi cymorth ymarferol sydd wedi’i theilwra i bobl anabl sy’n sefyll mewn etholiad, gan dalu am unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â nam, a sicrhau bod ymgeiswyr o bob plaid, gan gynnwys ymgeiswyr annibynnol, yn gallu cymryd rhan.

Mae cymorth ar gael ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026 a’r etholiadau lleol yn 2027. 

Mae’r etholiadau hyn yn gyfle hollbwysig i ail-lunio’r lleisiau sy’n cael eu clywed yn nemocratiaeth Cymru.   

Gadewch i ni wneud democratiaeth Cymru yn gwbl gynhwysol  

Mae pobl anabl yn cael eu tangynrychioli ym mywyd cyhoeddus Cymru, ond gyda’r cymorth cywir, gall hynny newid.  

Mae lle i bobl anabl mewn gwleidyddiaeth, nid fel eithriadau, ond fel arweinwyr, pobl sy’n gwneud penderfyniadau, a chynrychiolwyr eu cymunedau.  Nid yw cael gwared ar rwystrau yn creu mantais, mae’n creu tegwch. Ni all Cymru greu dyfodol cynhwysol wrth eithrio chwarter ei phoblogaeth o’r penderfyniadau a fydd yn ei llunio. 

Mae Cronfa Fynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn gam hollbwysig fydd yn sicrhau tegwch. Ond daw’r newid gwirioneddol pan fydd pleidiau gwleidyddol yn mynd ati i gefnogi aelodau anabl i ddatblygu, a phan fydd pobl anabl yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso i sefyll. 

Darganfyddwch fwy am Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members