Arwyddo addewid Amser i Newid

Logo 50 mlwyddiant AC uwchben ysgrifen coch ar gefndir golau sy'n dweud: Arwyddo addewid Amser i Newid. Mae ysgrifen du oddi tano sy'n dweud, Newid y ffordd rydym yn meddwl a gweithredu o amgylch iechyd meddwl yn y gwaith.

Ddydd Llun 7 Chwefror 2022, roeddem yn falch o lofnodi addewid cyflogwr Amser i Newid i newid y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithredu o amgylch iechyd meddwl yn y gwaith.

Drwy lofnodi’r addewid, rydym yn ymuno â channoedd o sefydliadau i herio stigma iechyd meddwl.

Llofnodwyd yr addewid mewn digwyddiad mewnol lle ymunodd June o Amser i Newid Cymru â staff ac Aelodau’r Bwrdd. Rhannodd ychydig eiriau am bwysigrwydd yr addewid a sut y bydd ymrwymo i’r cynllun gweithredu yn helpu i feithrin arferion gweithio cadarnhaol.

Amlygodd ein Swyddog Gwybodaeth a hyrwyddwr Amser i Newid, Alex, ymhellach bwysigrwydd ymrwymo i’r cynllun gweithredu drwy siarad yn onest am ei phrofiadau personol gydag iechyd meddwl. Ymunodd yr Aelod Bwrdd, Kelvin, â hi i rannu rhywfaint o’i stori ei hun mewn beth oedd yn ddigwyddiad teimladwy a grymusol.

Llofnododd ein Prif Weithredwr, Rhian Davies, yr addewid ar ran y sefydliad. Wrth fyfyrio ar ei arwyddocâd, dywedodd:

“Rwy’n falch iawn o lofnodi addewid Amser i Newid ar ran Anabledd Cymru a dangos ein hymrwymiad i arferion gwaith cadarnhaol a chefnogaeth i staff a Chyfarwyddwyr o ran iechyd meddwl a lles. Mae’r pandemig wedi codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl yn sylweddol, ond o fewn AC rydym wedi gwybod ers tro sut mae rhwystrau anablu mewn cymdeithas yn effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl. Rydym yn addo parhau i herio gwahaniaethu a stigma o bob math a gweithio tuag at gymdeithas fwy cynhwysol sy’n galluogi pawb i ffynnu.”

Disability Wales Chief Executive, Rhian Davies, and Information Officer, Alex Osborne, holding the Time to Change Wales pledge which has white text on a red background. Both women smile widely at the camera and stand in front of a wall which shows the Disability Wales logo.

Bydd yr addewid a’r cynllun gweithredu dilynol o bwys proffesiynol a phersonol i staff ac Aelodau Bwrdd Anabledd Cymru, fel yr eglura Alex:

“Yn rhy aml o lawer mae iechyd meddwl pobl anabl yn cael ei anwybyddu neu ei fychanu, heb ystyried yr effaith y gall namau neu gyflyrau iechyd eu cael ar les person, a dim cymorth iechyd meddwl yn cael ei gynnig. Daeth hyn yn arbennig o amlwg i mi pan gefais ddiagnosis o MS, ni chynigiwyd unrhyw gymorth i mi a dywedwyd wrthyf gan ei fod yn gyflwr gydol oes, y cyfan oedd angen i mi ei wneud oedd “dysgu byw ag ef”. Ers ymuno ag AC rydw i wedi teimlo fy mod yn cael cefnogaeth fawr. Gweithiais i greu’r Cynllun Gweithredu i helpu fy nghydweithwyr i deimlo’n gyfforddus yn siarad am eu lles ac i sicrhau bod neb yn teimlo bod yn rhaid iddynt wthio drwy iechyd meddwl gwael ar eu pen eu hunain. Mae angen i ni barhau i herio’r stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl drwy siarad yn agored.”

Rydym yn falch iawn o ddod â’r ymgyrch Amser i Newid i Anabledd Cymru ond dim ond dechrau ein taith yw hyn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda staff ac Aelod o’r Bwrdd i roi’r cynllun gweithredu ar waith a’i adnewyddu gyda’n gilydd.

Gadewch i ni helpu i dorri’r distawrwydd a rhoi diwedd ar y stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members