Dewch yn Aelod o Fwrdd Anabledd Cymru

Testun gwyn ar gefndir glas tywyll sy'n darllen: Dewch yn Aelod Bwrdd! Rhowch lais cryfach i bobl anabl drwy: Ddatblygu polisi a gwaith AC. Rheoli pobl ac arian AC. Hyrwyddo Anabledd Cymru. Ymgeisiwch nawr. www.disabilitywales.org. Mae logo AC wedi’i osod mewn cylch gyda bordor oren wrth ochr y testun ac mae tri sgwâr oren uwchben ac o dan y siâp.

Ydych chi’n berson anabl sy’n frwd dros hawliau pobl anabl? Allwch chi gynnig syniadau newydd i helpu i symud ein sefydliad yn ei flaen a rhoi mwy o lais i bobl anabl ledled Cymru? Mae’r dyfodol yn gyffrous yma yn Anabledd Cymru a gallech chi fod yn rhan ohono drwy wneud cais i ymuno â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Penodedig newydd Anabledd Cymru. 

Corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru yw Anabledd Cymru, sy’n ymdrechu dros hawliau pob person anabl. Ein gweledigaeth yw cymdeithas gynhwysol, deg a dirwystr. Drwy ymgeisio i fod yn Gyfarwyddwr Penodedig, gallech chi helpu i siapio ein dyfodol a chefnogi ein gwaith.

Fel Sefydliad Pobl Anabl, ein nod yw dangos arferion llywodraethu da. Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddarparu amgylchedd cefnogol a chwbl gynhwysol sy’n galluogi Cyfarwyddwyr i ffynnu a datblygu eu doniau drwy amrywiaeth o gyfleoedd. 

Mae angen lleisiau newydd arnom i hyrwyddo a lobïo newid. Felly, rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau ar y Bwrdd. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â chefndir ym maes marchnata, cyfathrebu a/neu godi arian.  

Fel sefydliad, mae arnom eisiau adlewyrchu’r gymuned gyfan o bobl anabl yng Nghymru, felly rydym hefyd yn awyddus i glywed gan bobl anabl sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sefydliad ar hyn o bryd, gan gynnwys:

  • Cymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru
  • Siaradwyr Cymraeg
  • Pobl ifanc

Gwyliwch y fideo hwn am ragor o wybodaeth ac i glywed beth mae’n ei olygu i fod yn Aelod o’r Bwrdd gan ein Cyfarwyddwyr eu hunain.

Rhagor o wybodaeth

Teitl y rôlCyfarwyddwr/Ymddiriedolwr
Yn atebol i’r:Cadeirydd a Bwrdd y Cyfarwyddwyr
Cyfnod yn y Rôl:Hyd at dair blynedd
Pwrpas y rôl:Ynghyd â chyd-Gyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr, bod yn gyfrifol am ddatblygu polisi a gwaith Anabledd Cymru; rheoli’r sefydliad gan gynnwys ei arian a’i bobl; a gwasanaethu buddiannau gorau Anabledd Cymru bob amser
Ymrwymiad:Cymryd rhan mewn trafodaethau a phenderfyniadau; darllen papurau cyn y cyfarfodydd; mynychu a chymryd rhan yn Sesiynau Cynefino’r Bwrdd a Hyfforddiant arall yn ôl yr angen; cymryd rhan mewn Arfarniad Blynyddol a chyfweliadau datblygiad personol gyda’r Cadeirydd
TreuliauRôl wirfoddol yw hon. Bydd unrhyw fân dreuliau’n cael eu talu’n unol â pholisi Anabledd Cymru.

Dyddiad cau: Hanner dydd, 25 Medi 2026

Cyfweliadau: 5 Hydref 2026

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ac ymdrechu i gael Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl? Gwnewch gais heddiw, rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at:

Leandra Craine, Swyddog Busnes ac Aelodaeth   membership@disabilitywales.org

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members