Yn dilyn ein cyfranogiad gweithredol yng nghyd-gynhyrchiad Adroddiad Drws ar Glo (2021) ar effaith y pandemig ar bobl anabl yng Nghymru, yn ogystal â chynrychiolaeth ar y Tasglu Hawliau Anabledd, mae AC yn croesawu cyhoeddi Cynllun Hawliau Pobl Anabl hir-ddisgwyliedig Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun deng mlynedd yn amlinellu camau gweithredu tymor byr a thymor hir sydd â’r nod o wneud Cymru yn ‘genedl gynhwysol, hygyrch lle gall pobl anabl fynnu, cael mynediad at a gorfodi eu hawliau’.
Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth gadarn ac arweiniad ystyrlon drwy gydol gweithredu’r Cynllun, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol ‘dylanwadol ac annibynnol’, sy’n cynnwys pobl anabl a chynrychiolwyr o Sefydliadau Pobl Anabl.
Dywedodd Prif Weithredwr AC, Rhian Davies, aelod o’r Tasglu a Chadeirydd y gweithgor Byw’n Annibynnol/Gofal Cymdeithasol:
“Ganwyd y Cynllun Hawliau Pobl Anabl o ddyddiau tywyll y pandemig lle’r oedd pobl anabl yn ôl-ystyriaeth mewn polisi cyhoeddus gan arwain at nifer uchel o farwolaethau y gellid eu hosgoi a miloedd mwy yn wynebu unigrwydd, arwahanrwydd a chaledi. Ynghyd â dros ddegawd o gyni a’r argyfwng costau byw, mae llawer o bobl anabl ‘prin yn goroesi’.
Serch hynny, mae’r lefel uchel o ymgysylltiad ymhlith pobl anabl yng ngwaith y Tasglu ynghyd â’r arweinyddiaeth ar y cyd a ddangoswyd gan ddeg cadeirydd Gweithgor y Tasglu, yn dangos y gwydnwch a’r ymrwymiad yn ein cymuned i greu dyfodol mwy cynhwysol lle mae pobl anabl yn ‘ffynnu’n wirioneddol’.
Gyda Etholiadau’r Senedd ar y gorwel, bydd bwrw ymlaen â chyflawni’r cynllun yn disgyn ar Lywodraeth newydd Cymru gan weithio ar y cyd â’r Bwrdd Cynghori Allanol, gan gynnwys nodi manylion ynghylch y camau gweithredu yn ogystal â’r fframwaith mesur.
Er mwyn mynd i’r afael â’r dirywiad yn hawliau pobl anabl, mae Maniffesto AC ‘O Oroesi i Ffynnu’ (2025) yn galw am gyflawni Cynllun Hawliau Pobl Anabl cadarn a hirdymor gan gynnwys adnoddau ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a Gweinidog dynodedig dros Bobl Anabl.
Mae’n hanfodol bod yr ymrwymiad trawsbleidiol a sicrhawyd hyd yma yn parhau y tu hwnt i’r Etholiad i sicrhau bod gofynion pobl anabl am gymdeithas fwy cynhwysol yng Nghymru yn cael eu gwireddu’n llawn.”
Darllenwch y datganiad ysgrifenedig am gyhoeddiad y Cynllun.





