Datganiad i’r wasg: Maniffesto Anabledd Cymru yn galw am gymdeithas lle mae pobl anabl yn ffynnu yn hytrach na dim ond yn goroesi

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

I’W RYDDHAU AR UNWAITH

Mae Anabledd Cymru wedi lansio ei Maniffesto 2026–2031, O Oroesi i Ffynnu, ochr yn ochr â cherdyn ymrwymiad newydd a gynlluniwyd i ddwyn pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i gyfrif cyn Etholiadau’r Senedd yn 2026 a thu hwnt.

Wedi’i ddatblygu trwy gyd-gynhyrchu â Sefydliadau Pobl Anabl (SPA) gan gynnwys arolygon, grwpiau ffocws, a chyfraniadau gan fwy na 250 o bobl anabl ledled Cymru, mae’r maniffesto yn nodi pum Galwad am Newid brys a fyddai o’r diwedd yn dechrau mynd i’r afael â’r rhwystrau systemig y mae pobl anabl yn eu hwynebu.

Mae pobl anabl yng Nghymru yn parhau i brofi allgáu, gwasanaethau anhygyrch, gorfodi hawliau gwan, ac effeithiau parhaus cyni, y pandemig a phwysau costau byw sy’n gwaethygu. Mae hawliau’n parhau i fod yn ddamcaniaethol yn hytrach nag yn real yn ymarferol. Mae’r neges gan bobl anabl yn glir: rydym yn cael ein gwthio i fodd goroesi.

Pum Galwad am Newid

Mae’r Galwadau hyn yn cynrychioli’r camau gweithredu lleiaf sydd eu hangen ar bobl anabl yng Nghymru i symud o oroesi i ffynnu:

  1. Ymgorffori’r CCUHPA (UNCRDP) yng Nghyfraith Cymru – cyflawni hawliau gorfodadwy, nid dyheadau.
  2. Cyflwyno Cynllun Hawliau Pobl Anabl Tymor Hir Cadarn – gan gynnwys Gweinidog dros Bobl Anabl a buddsoddiad parhaus mewn SPA.
  3. Hyrwyddo Arweinyddiaeth a Llywodraethiant Anabl – sicrhau bod pobl anabl yn arwain y broses o wneud penderfyniadau.
  4. Gwarantu’r Hawl i Fyw’n Annibynnol – gyda diwygio ar draws systemau gofal, tai ac iechyd.
  5. Datganoli Lles a Budd-daliadau i Gymru – creu system deg, urddasol, wedi’i chyd-gynhyrchu sy’n cyd-fynd â’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

Ffurflen Ymrwymiad Anabledd Cymru

Mae Anabledd Cymru hefyd wedi lansio Ffurflen Ymrwymiad gyhoeddus newydd, gan wahodd pob plaid wleidyddol a phob ymgeisydd i:

  • nodi’n glir beth yw eu safbwynt ar bob un o’r pum Galwad
  • dangos bod hawliau pobl anabl yn flaenoriaeth
  • cofnodi eu hymrwymiadau’n gyhoeddus
  • sicrhau y gall pleidleiswyr anabl gymharu ymatebion yn hawdd

Bydd yr ymatebion yn cael eu diweddaru drwy gydol yr ymgyrch a’u defnyddio ar ôl yr etholiad i fonitro’r ddarpariaeth a’r gweithrediad. Fe’i cynlluniwyd i gefnogi pobl anabl wrth ymgysylltu ag ymgeiswyr ar garreg y drws, mewn hustyngau, digwyddiadau cymunedol, ac ar-lein.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae pobl anabl yng Nghymru yn parhau i wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad at hawliau sylfaenol, o fyw’n annibynnol i gyflogaeth deg. Heb ymgorffori deddfwriaethol mae ein hawliau’n parhau i fod yn ddyheadol yn hytrach na’n rhai y gellir eu gorfodi. Mae’r maniffesto yn nodi camau ymarferol i symud o ‘oroesi i ffynnu’, gan sicrhau nid yn unig y caiff pobl anabl eu cefnogi ond eu dathlu.

Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:

“Gweledigaeth Anabledd Cymru yw cymdeithas gynhwysol, deg a di-rwystr. Mae pobl anabl yng Nghymru yn haeddu mwy na goroesi yn unig. Rydym yn haeddu’r hawl i lwyddo a ffynnu go iawn.

Yn dilyn yr Adroddiad Ymchwiliad Covid-19 Modiwl 2 diweddar a feirniadodd fethiant y llywodraeth i werthfawrogi lefel y risg y mae pobl anabl yn ei hwynebu gan arwain at gyfraddau marwolaethau cynyddol a gwrthdroi hawliau, mae’r maniffesto hwn yn alwad am weithredu gan bob plaid wleidyddol i ymrwymo i newid go iawn. Gyda’n gilydd, gallwn symud o oroesi i ffynnu.”

Mae Anabledd Cymru yn annog pob plaid wleidyddol i fabwysiadu’r pum galwad hyn a gweithio gyda ni i adeiladu Cymru lle mae hawliau’n cael eu cynnal, lleisiau’n cael eu clywed, a lle mae ffynnu’n safonol nid yn eithriad.

Dywedodd Natalie Jarvis, Swyddog Polisi ac Ymchwil Anabledd Cymru: 

“Fel rhywun a oedd yn rhan o gyd-gynhyrchu’r maniffesto hwn ochr yn ochr â Sefydliadau Pobl Anabl a lleisiau cannoedd o bobl anabl ledled Cymru, rwyf wedi clywed straeon am flinder, rhwystredigaeth ac anghyfiawnder ond hefyd am obaith, gwydnwch a gweledigaeth.

Mae pobl anabl yn gwybod yn union beth sydd angen newid. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw’r ewyllys wleidyddol i weithredu ac i bleidiau ymrwymo i’n Galwadau o fewn eu maniffestos eu hunain cyn yr etholiadau. Dyna sut maen nhw’n dangos eu bod nhw’n sefyll gyda ni ac yn bwriadu gwneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i bobl anabl fyw bywydau llawnach a gwell. Mae’r Galwadau hyn yn gyraeddadwy ac mae’n hen bryd iddynt gael eu rhoi ar waith.”

NODIADAU I OLYGYDDION

Anabledd Cymru yw corff aelodaeth cenedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru sy’n ymdrechu dros hawliau pob person anabl. 

Datblygwyd y maniffesto drwy arolygon, grwpiau ffocws, ac ymgynghori â phobl anabl ledled Cymru. 

Roedd y lansiad ar-lein yn cynnwys cyflwyniad o’r Maniffesto ac ymatebion gan baneli sy’n cynrychioli Sefydliadau Pobl Anabl a phleidiau gwleidyddol. 

Darllenwch y maniffesto yn llawn yma.

Cyswllt y Cyfryngau: info@disabilitywales.org | 02920 887325

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members