Dewch yn Drysorydd nesaf AC

Testun gwyn ar gefndir glas tywyll sy'n darllen: Dewch yn Drysorydd i ni! Ymunwch â'n Bwrdd i: Ddatblygu polisi a gwaith AC. Reoli pobl ac arian AC. Goruchwylio holl faterion ariannol AC. Cymryd rôl arweiniol mewn cynllunio ariannol a chyllidebu. Hyrwyddo Anabledd Cymru. Gwnewch gais. www.disabilitywales.org. Mae logo AC wedi cael ei osod mewn cylch gyda border oren wrth ochr y testun ac mae tri sgwâr oren uwchben ac o dan y siâp.

Ydych chi’n berson anabl sy’n frwd dros hawliau a chydraddoldeb anabledd?

Allwch chi gynnig syniadau newydd i helpu i symud ein sefydliad yn ei flaen a rhoi llais cryfach i bobl anabl ledled Cymru? Mae’r dyfodol yn gyffrous yma yn Anabledd Cymru a gallech chi fod yn rhan ohono drwy wneud cais i ymuno â’n Bwrdd fel Trysorydd. 

Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru. Drwy wneud cais i fod yn Drysorydd Anabledd Cymru, gallech chi helpu i lunio ein dyfodol a chefnogi ein gwaith ar gynllunio ariannol a chynaliadwyedd. 

Ar ôl cael ei benodi, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael blwyddyn i gysgodi ein Trysorydd presennol cyn ymgymryd â’r rôl yn ystod hydref 2026. Darperir cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu a bydd yn cael ei gefnogi’r llwyr.

Fel Sefydliad Pobl Anabl, ein nod yw dangos arferion llywodraethu da. Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu amgylchedd cefnogol a chwbl gynhwysol sy’n galluogi Cyfarwyddwyr i ffynnu a manteisio i’r eithaf ar eu doniau drwy amrywiaeth o gyfleoedd. 

Angen geiriau calonogol cyn i chi wneud cais? Gwyliwch y fideo byr hwn i glywed sut beth yw bod yn gyfarwyddwr, gan ein cyfarwyddwyr eu hunain.

Rhagor o wybodaeth

Teitl y rôlTrysorydd (Cyfarwyddwr / Ymddiriedolwr)
Yn atebol i’r:Cadeirydd a Bwrdd y Cyfarwyddwyr
Cyfnod yn y Rôl:Hyd at dair blynedd
Pwrpas y rôl:Goruchwylio holl faterion ariannol Anabledd Cymru yn gyffredinol ac arwain y gwaith o gynllunio a chyllidebu ariannol, yn ogystal â sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario ar yr eitemau priodol
Ynghyd â chyd-Gyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr, bod yn gyfrifol am ddatblygu polisi a gwaith Anabledd Cymru; rheoli’r sefydliad gan gynnwys ei arian a’i bobl; a gwasanaethu buddiannau gorau Anabledd Cymru bob amser
Ymrwymiad:Adrodd i’r Bwrdd yn rheolaidd gan gynnwys drwy baratoi a chyflwyno cyllidebau, gan sicrhau bod y Bwrdd yn cael yr wybodaeth briodol am sefyllfa ariannol Anabledd Cymru
Cymryd rhan mewn trafodaethau a phenderfyniadau; darllen papurau cyn y cyfarfodydd; mynychu a chymryd rhan yn Sesiynau Cynefino’r Bwrdd a Hyfforddiant arall yn ôl yr angen; cymryd rhan mewn Arfarniad Blynyddol a chyfweliadau datblygiad personol gyda’r Cadeirydd
TreuliauRôl wirfoddol yw hon. Bydd unrhyw fân dreuliau’n cael eu talu’n unol â pholisi Anabledd Cymru.

Dyddiad cau: Hanner dydd, 26 Medi 2025

Cyfweliadau: Dyddiadau i’w cadarnhau.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ac ymdrechu i gael Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl? Gwnewch gais heddiw, rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Leandra Craine – membership@disabilitywales.org.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members